BTEC Technoleg Gwybodaeth a Seiberddiogelwch Lefel 2/3
Ceisiadau Amser Llawn
Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2024/25 bellach wedi cau.
Bydd ceisiadau ar gyfer 2025/26 yn agor ym mis Tachwedd 2024.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Lefel
2/3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Lleiafswm o ddau TGAU Gradd C a dau TGAU Gradd D ac uwch. Dylai'r rhain gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu Dystysgrif Lefel 2 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol gyda Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth ac ennill dealltwriaeth ehangach o'r Sector Cyfrifiadura a TG, yn ogystal â datblygu sgiliau ar gyfer gweithio ym maes Seiberddiogelwch.
Mae'n gyfle unigryw i ennill dau gymhwyster cyffrous o fewn blwyddyn.
Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, byddwch wedi cyflawni:
Diploma BTEC Lefel 3 mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh a Diploma Technegol BTEC Level 2 mewn Seiberddiogelwch.
Dyma'r cwrs i chi os...
...rydych eisiau dilyn gyrfa mewn TGCh a Chyfrifiadura
...rydych yn awyddus i weithio mewn amgylchedd cefnogi busnes.
...rydych yn awyddus i weithio a dysgu mwy am Seiberddiogelwch.
...rydych eisiau datblygu amrywiaeth o sgiliau a thechnegau, sgiliau personol a nodweddion hanfodol ar gyfer llwyddo yn eich bywyd gweithio
...mae gennych ddiddordeb brwd mewn Cyfrifiadura a thechnoleg
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth o unedau, yn cynnwys:
- Datrysiadau Gwasanaeth TG
- Hanfodion Dylunio Meddalwedd
- Systemau Cyfrifiadurol
- Offer a Gosodiadau Rhwydweithio
- Egwyddorion Systemau TGCh a Diogelwch Data
- Dadansoddi a Dylunio Systemau
- Mewnosod a Chynnal a Chadw Rhwydweithiau
- Diogelwch, Amddiffyn a Rheoli Risg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs byddwch angen o leiaf dau TGAU Gradd C a dau TGAU Gradd D ac uwch. Dylai'r rhain gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu Dystysgrif Lefel 2 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol gyda Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol yr ydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunain.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Cyflogaeth yn y Sector Busnes, TG a Chyfrifiadura, neu'r cyfle i astudio'r Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Cyfrifiadura neu mewn rhai achosion, y HND mewn Cyfrifiadura neu'r Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes, neu'r Radd Sylfaen mewn Busnes.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFBD0094AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr