En

City & Guilds Diploma mewn Gofal Anifeiliaid Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen:

  • Naill ai lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch (yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg)
  • Neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol (yn cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg)

Yn gryno

O gwn i adar, gecoaid i dsintsilas, a defaid i fulod.. os ydych yn caru anifeiliaid, Coleg Gwent yw’r lle i chi!

Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para blwyddyn, a byddwch yn cael y wybodaeth a’r sgiliau i weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid, yn cynnwys anifeiliaid fferm, anifeiliaid bach, ymlusgiaid, adar a mamaliaid. Cewch gyfle i arbenigo mewn llwybrau fferm, amaethyddol a chefn gwlad; llwybr anifeiliaid bach; neu lwybr tacluso a gofal. Felly, waeth beth yw eich diddordeb, mae llwybr ar gael ar eich cyfer chi.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Mae gennych ddiddordeb mewn anifeiliaid fferm ac amaethyddiaeth, anifeiliaid bach, tacluso ac ymddygiad

... Rydych eisiau cael profiad ymarferol o weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid

... Rydych eisiau cyfuniad o astudio yn y dosbarth a gwaith ymarferol

... Rydych eisiau gyrfa yn gweithio gydag anifeiliaid

... Rydych yn caru anifeiliaid, yn cynnwys anifeiliaid mawr a bach!

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae hwn yn gwrs academaidd, sy’n cael ei gefnogi gan waith ymarferol rhesymol ag anifeiliaid. 

Er enghraifft, byddwch yn edrych ar:

  • Sgiliau ystadau
  • Cynefinoedd
  • Llety anifeiliaid
  • Bwydo anifeiliaid
  • Gofalu am anifeiliaid fferm
  • Iechyd anifeiliaid
  • Tacluso
  • Profiad gwaith
  • Ymddygiad anifeiliaid
  • Gofal ceffylau

Cewch hefyd gyfle i weithio gydag offer a pheiriannau, yn cynnwys gyrru tractor ar y fferm a gwaith cynnal a chadw sylfaenol, megis ffensio ac atgyweirio gwrychoedd, ac offer tacluso, i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio gydag anifeiliaid.

Yn ystod y sesiynau ymarferol, byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid yn ein Canolfan Gofal Anifeiliaid ar gampws Brynbuga, lle ceir ystod o anifeiliaid o ffuredau a gwiwerod rhesog, i nadroedd a phryfed cop. Byddwch hefyd yn gweithio gyda’r defaid a’r gwartheg yn Fferm Rhadyr, a cheffylau yn y Ganolfan Geffylau ar Gampws Brynbuga.

Asesir y cwrs gan ddefnyddio aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig i ddangos eich cymhwystra a’ch dealltwriaeth, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I wneud cais am y cwrs hwn, byddwch angen:

  • lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
  • NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol wedi'i cyflawni ar radd Teilyngdod neu uwch.

Mae ymrwymiad llawn i gyfraniad a phresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc, parch at anifeiliaid â'r gallu i gymell eich hun.

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn yr holl sesiynau ymarferol gydag anifeiliaid a chyflwyno eich holl aseiniadau ar amser. Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus, ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch wedi cymhwyso hyd at lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid. Y cam nesaf yw Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid (gyda Gwyddoniaeth), neu gallwch chwilio am gyflogaeth yn y diwydiannau cysylltiedig, megis parlyrau tacluso, siopau anifeiliaid,  practisau milfeddygol, cathdai, ffermydd a chynelau cwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyn dechrau’r cwrs a gallu gweithio gyda’r anifeiliaid byddwch angen brechiad tetanws diweddar.

Ar gyfer Iechyd a Diogelwch, byddwch hefyd angen prynu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) cyn gweithio gyda’r anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys:

  • cot labordy glas tywyll
  • welingtons dur trwm
  • oferôls glas tywyll
  • bag i gario eich PPE

Bydd yn costio oddeutu £40 i brynu’r offer, a dylid gwneud hynny cyn dechrau eich cwrs.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Gofal Anifeiliaid Lefel 2?

UFBD0004BA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr