En

City & Guilds Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
20 Ionawr 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
15 wythnos

Yn gryno

Er mwyn datblygu eich sgiliau Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur i lefel uwch, mae’r cwrs hwn yn rhoi dewis i chi o gynllunio 2D neu 3D.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…unrhyw un sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur i lefel uwch.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Uwch hwn yn eich dysgu am y canlynol:

  • Modelu rhannau a nodweddion datblygedig
  • Modelu cydosodiadau datblygedig
  • Cysylltu â thaenlenni allanol er mwyn creu rhannau a chydosodiadau cymhleth ar sail tablau
  • Graffeg cyflwyniad datblygedig

Mae’n rhoi’r opsiwn i chi ddewis rhwng cynllunio 2D neu 3D drwy gymorth cyfrifiadur gyda’r naill neu’r llall o’r canlynol:

Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds – Cynllunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys:

  • System haenu a gwahanol ddulliau o ffurfio symbolau llinell
  • System ar gyfer grwpio gwrthrychau i ffurfio blociau neu lyfrgelloedd
  • Darluniau Isomedrig o fewn yr amgylchedd 2D
  • Cydlynu system yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr
  • Trefnau dimensiynu cymhleth
  • Dylunio gofodau a mannau aml-wylio cymhleth
  • Trefnau dylunio a golygu cymhleth
  • Cynhyrchu copïau caled o ddyluniadau

 

Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds  - Cynllunio 3D drwy Gymorth Cyfrifiadur

Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich gallu i ddefnyddio gweithdrefnau drafftio i greu ac addasu gwrthrychau 3D sy’n bod yn barod, arwynebau neu solidau, mewn unrhyw bwynt o fewn gofod tri dimensiwn.

Mae’n cynnwys:

  • Trefnau er mwyn gosod yr amgylchedd modelu 3D
  • Creu a defnyddio haenau sy’n gweithio yn yr amgylchedd modelu 3D
  • Adeiladu modelau 3D yn y dull gorau sydd ar gael – modelu arwyneb neu      solid
  • Golygu ac addasu gwrthrychau solid ac arwyneb 3D
  • Edrych ar fodel 3D ar amrywiaeth o ffurfiau arddangos
  • Argraffu/plotio/allforio modelau 3D
Ar ôl i chi gwblhau eich cymhwyster, gallwch symud ymlaen i un o’r canlynol:
  • Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds – Modelu Parametrig – defnyddio’r sgiliau a enillwyd yn y gweithle
  • Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds – Cynllunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur i Lefel 1 City & Guilds – Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur - Modelu Parametrig
  • Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur City & Guilds Lefel 3 – Cynllunio 3D drwy Gymorth Cyfrifiadur – defnyddio’r sgiliau a enillwyd yn y gwaith

Gofynion Mynediad

Er mwyn cofrestru ar y cwrs hwn, mae’n rhaid i chi fod â’r naill neu’r llall cyfuniad canlynol:

  • Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds – Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur – Lefel 2 City & Guilds – Cynllunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur neu brofiad perthnasol
  • Dyfarniad Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds – Cynllunio 3D drwy Gymorth Cyfrifiadur – Lefel 3 City & Guilds  – Cynllunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur neu brofiad perthnasol
Ble alla i astudio City & Guilds Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) Lefel 3?

NPAW0077JA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 20 Ionawr 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr