Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o waith modelu parametrig Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur, o ran caledwedd, meddalwedd ac amgylchedd. Bydd y cwrs Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur yn caniatáu i chi ddewis o chwe chymhwyster arall, yn ddibynnol ar eich anghenion a’r gofynion mynediad.
…Unrhyw un sy’n diddori mewn Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur.
Mae’r cwrs yn eich galluogi i edrych ar gyfansoddiad nodweddiadol system fodelu barametrig Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur, ac yn cynnwys:
- TG, caledwedd Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur a systemau gweithredu sylfaenol cysylltiedig
- Technegau rheoli ffeiliau
- Proses fodelu parametrig, rhyngwyneb defnyddiwr a sut i gael cymorth a thiwtorialau
- Trefnau er mwyn creu a chadw brasluniau
- Trefnau er mwyn cynhyrchu nodweddion allwthiol a chylchol
- Defnyddio nodweddion gosodedig i addasu modelau parametrig
- Trefnau er mwyn creu cydosodiadau
- Defnyddio amgylchedd y cynllun dylunio i gynhyrchu copïau caled
Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn ennill Dyfarniad City & Guilds Lefel 1 mewn Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur – Modelu Parametrig, a chewch wedyn symud ymlaen i gymhwyster Lefel 2.
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol.
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal gyda nifer benodol o fyfyrwyr i’w gynnal.