Yn gryno
Mae ein cyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol wedi eu cynllunio i’ch cyflwyno i’r maes astudio sydd o ddiddordeb i chi ac i’ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.
... Ydych chi’n ansicr beth y dymunwch wneud
... Ydych chi’n dymuno datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy
Bydd y cwrs hwn y darparu ystod o gyfleoedd symud ymlaen i chi, gan gynnwys dysgu ychwanegol yn y coleg ar un o’n cyrsiau lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth!
Byddwch yn cael y cyfle i roi cynnig ar fwy nac un maes galwedigaethol a magu dealltwriaeth o fywyd coleg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy a chwblhau tasgau sy’n canolbwyntio ar ddangos beth y gallwch wneud a beth rydych chi wedi ei ddysgu.
Yr un yw’r unedau craidd ar draws ein holl gyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol, fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn eich dewis faes galwedigaethol. Os oes angen i chi newid i gwrs gwahanol, gallwch drosglwyddo’r unedau a astudiwyd ar y cwrs hwn i’ch un nesaf, os oes angen.
Bydd y cymhwyster seiliedig ar waith hwn yn datblygu eich sgiliau ymarferol, cymhwysedd a gwybodaeth gan ddefnyddio ein iard gymeradwy BHS, ein hysgol farchogaeth dan do ac awyr agored ac ystafelloedd dosbarth o’r radd flaenaf.
The grades you will include are:
- Dysgu am y sector amaethyddol
- Gofalu am a bwydo anifeiliaid
- Cymryd allan y fyned
- Gofalu am a chadw planhigion yn iach
- Cyrraedd Ceffylau
- Defnyddio teclynnau gweithdy mewn lleoliad amaethyddo
- Defnyddio peirianwaith amaethyddol
- Symud a lletya anifeiliai
- Paratoi pridd ar gyfer plannu
Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol a byddwch yn cyflawni:
- BTEC Lefel 1 Diploma mewn Astudiaethau Galwedigaetho
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant, yn weithgar ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd. Bydd disgwyl i chi ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig yn y coleg, gan ganiatáu i chi adeiladu ar eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn ofyniad gorfodol y cwrs hwn.
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb. Parch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunan-gymhelliant, ynghyd ag angerdd am astudiaethau ceffylau yw’r rhinweddau hanfodol y disgwyliwn eu gweld yn ein holl ddysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus ac mae disgwyl i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.
- Gallech barhau eich astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o’ch dewis
- Gallech symud ymlaen i Dystysgrif Dechnegol L2 mewn Gofal Ceffylau
- Gallech fynd yn eich blaen i ddilyn prentisiaeth
Nid oes unrhyw ofynion cymhwyster mynediad ffurfiol. Bydd angen i chi fod â diddordeb mewn dysgu am wahanol agweddau ar ofalu am geffylau.
Sylwch nad cwrs ymarferol yn unig yw hwn, mae swm neu waith ysgrifenedig yn gynwysedig.
Bydd angen i chi fod wedi cael chwistrelliad tetanws diweddar cyn dechrau gweithio gyda’r anifeiliaid
Am resymau Iechyd a Diogelwch, bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelwch Personol (PPE) cyn gweithio gyda’r anifeiliaid; wellingtons bodiau dur, oferôlau glas tywyll a bag i gario eich PPE, a chost y cyfarpar yw tua £40.
Ceffylau: Het farchogaeth (safonau presennol Cymdeithas Ceffylau Prydain), esgidiau buarth, jodhpurs, esgidiau marchogaeth, menig (os ydych yn marchogaeth). Mae'r costau hyn yn amrywio.
Dylid prynu'r eitemau hyn cyn dechrau eich cwrs ond byddwch yn gallu trafod y gofynion wrth gofrestru.
Efallai y bydd costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol
Bydd arholiadau BHS yn gost ychwanegol y mae angen aelodaeth BHS ar ei chyfer.