AAT Uned Systemau a Rheoliadau Cyfrifyddu Mewnol Lefel 4

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£415.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
09 Ebrill 2024
Hyd
10 wythnos
Yn gryno
Mae'r Diploma AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yn sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer cyflogaeth o fewn cyd-destun cyfrifeg ehangach. Mae'r cwrs hwn yn ei gyfanrwydd yn cwmpasu pynciau a thasgau cyfrifyddu a chyllida ar lefel uchel.
Rydych chi’n prynu’r uned Systemau a Rheoliadau Cyfrifyddu Mewnol sy’n rhan o gwrs AAT Lefel 4 Diploma mewn Cyfrifyddu Proffesiynol.
Mae’r uned hon yn eich addysgu chi i ystyried rôl a chyfrifoldebau swyddogaeth cyfrifyddu, gan gynnwys anghenion prif randdeiliaid sy’n defnyddio adroddiadau ariannol i wneud penderfyniadau. Byddwch chi’n adolygu systemau cyfrifyddu i adnabod gwendidau mewn gweithrediadau yn y dyfodol.
Byddwch chi’n cymhwyso nifer o ddulliau dadansoddi i werthuso goblygiadau unrhyw newidiadau i weithdrefanu gweithredu.
Mae’n rhaid i strwythur y swyddogaeth gyfrifyddu, sy’n amrywio yn amodol ar faint y sefydliad, gydymffurfio â gofynion statudol. Byddwch chi’n dysgu i adnabod dulliau rheoleiddio, asesu eu heffeithiau o ran bod yn gost-effeithiol, yn ddibynnol ac yn brydlon a sicrhau bod yr holl swyddogaethau yn addasu eu harferion gwaith i fodloni gofynion mewn ffordd foesegol a chynaliadwy.
Mae technoleg yn newid y ffordd y caiff gwybodaeth gyfrifyddu ei phrosesu ac mae’r uned hon yn gofyn am wybodaeth am egwyddorion sylfaenol dadansoddeg ddata a deallusrwydd artiffisial (AI), a all gael ei defnyddio fel ffordd amgen i gasglu a dadansoddi gwybodaeth. Mae Cyfrifeg Cwmwl yn newid y ffordd mae cyfrifwyr yn gweithio a chaiff delweddu, gan gynnwys dangosfyrddau, ei defnyddio’n gynyddol i gyflwyno gwybodaeth sy’n haws i randdeiliaid ei deall. Mae achosion o dor-diogelwch data yn cael eu hadrodd yn y wasg yn rheolaidd felly, mae’n hanfodol eich bod chi’n ymwybodol o bwysigrwydd cadw’r holl ddata yn ddiogel gan roi ystyriaeth i natur gyfrinachol y data y byddwch chi’n ei brosesu fel rhan o’ch rôl o ddydd i ddydd.
Yn olaf, byddwch chi’n gwerthuso effaith y newidiadau ar y system a defnyddwyr y system gyfrifyddu i’ch cynorthwyo chi i addasu’r gwelliannau arfaethedig.
Mae hwn yn gwrs ‘rholio-ymlaen / rholio i ffwrdd’ gyda dyddiadau cychwyn hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Mae hwn hefyd yn gwrs dysgu cyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb traddodiadol gydag athro mewn ystafell ddosbarth a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol o gartref).
Mae'r cwrs hwn yn symud ymlaen ymhellach o Ddiploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg a bydd yn eich galluogi i ennill sgiliau pellach i symud ymlaen o fewn y maes cyfrifeg.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... Ydych wedi cwblhau'r Diploma Uwch AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus ac eisiau parhau i feithrin eich sgiliau cyfrifyddu.
... Ydych chi am fynd ymlaen i ddod yn aelod llawn yr AAT a / neu fynd ymlaen i astudio am statws cyfrifydd siartredig.
... Ydych chi am gychwyn eich busnes eich hun drwy gynllun aelodau trwyddedig yr AAT.
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn gwella'r sgiliau a ddatblygwyd gennych o Ddiploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg ac yn ennill sgiliau cyfrifyddu a chyllid proffesiynol gydol oes, gan eich galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eich cyfleoedd yn eich gyrfa gyfrifyddu.
Mae gan yr AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg dair uned orfodol:
- Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol – byddwch yn dysgu am ddrafftio datganiadau ariannol ar gyfer endidau sengl a safonau cyfrifyddu perthnasol a chyfuno cwmnïau cyfyngedig. Byddwch hefyd yn ennill y sgiliau i ddehongli'r datganiadau ariannol, trwy ddefnyddio dadansoddi cymhareb.
- Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol – byddwch yn dysgu sut i weithredu prosesau cynllunio sefydliadol o fewn sefydliad, yn defnyddio prosesau mewnol i wella rheolaeth weithredol, a thechnegau i wneud penderfyniadau tymor byr a hirdymor.
- Systemau a Rheolaethau Cyfrifo Mewnol – Byddwch yn dangos eich dealltwriaeth drwy werthuso rheolaethau mewnol a systemau cyfrifo o fewn sefydliad, ac yn gwneud argymhellion ar unrhyw wendidau a ddarganfyddwch.
Trwy gyflwyno cais yma, rydych chi’n prynu uned Systemau a Rheoliadau Cyfrifyddu Mewnol, hefyd, bydd angen i chi brynu’r unedau Cyfrifeg Rheolaeth Gymhwysol a Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol i gwblhau pob un o’r unedau craidd ar gyfer cymhwyster AAT Lefel 4.
Mae gan yr AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg dair uned orfodol:
- Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol – byddwch yn dysgu am ddrafftio datganiadau ariannol ar gyfer endidau sengl a safonau cyfrifyddu perthnasol a chyfuno cwmnïau cyfyngedig. Byddwch hefyd yn ennill y sgiliau i ddehongli'r datganiadau ariannol, trwy ddefnyddio dadansoddi cymhareb.
- Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol – byddwch yn dysgu sut i weithredu prosesau cynllunio sefydliadol o fewn sefydliad, yn defnyddio prosesau mewnol i wella rheolaeth weithredol, a thechnegau i wneud penderfyniadau tymor byr a hirdymor. · Systemau a Rheolaethau Cyfrifo Mewnol – Byddwch yn dangos eich dealltwriaeth drwy werthuso rheolaethau mewnol a systemau cyfrifo o fewn sefydliad, ac yn gwneud argymhellion ar unrhyw wendidau a ddarganfyddwch.
Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 4 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
Gofynion Mynediad
I gael eich ystyried ar gyfer y cwrs hwn, mae angen i chi fod wedi cwblhau Diploma Uwch Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg neu gymhwyster cyfatebol yn llwyddiannus.
Os nad ydych yn siŵr ai dyma'r lefel gywir i chi, ewch i aat.org.uk lle byddwch yn gallu cwblhau prawf wirio sgiliau’r AAT neu sicrhau eich bod yn dechrau ar y lefel gywir.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, ac ar ôl bodloni meini prawf yr AAT, gallwch wneud cais am aelodaeth AAT lawn a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio'r llythrennau dynodi MAAT ar ôl eich enw.
Fodd bynnag, canlyniad sylfaenol a phwysicaf Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yw’r potensial i arwain at amrywiaeth eang o swyddi mewn cyfrifeg a chyllid sy'n talu'n dda, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys:
- Technegydd Cyfrifyddu Proffesiynol
- Archwilydd Cynorthwyol
- Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol
- Dadansoddwr Masnachol
- Rheolwr y Gyflogres
- Uwch Geidwad Llyfrau
- Uwch Swyddog Ariannol
- Goruchwyliwr Cyfrifon Taliadwy a Threuliau
- Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
- Cyfrifydd Costau
- Cyfrifydd Asedau Sefydlog
- Rheolwr Treth Anuniongyrchol
- Rheolwr Taliadau a Bilio
- Uwch Gyfrifydd y Gronfa
- Uwch Weinyddwr Ansolfedd
- Cyfrifydd TAW
Bydd cwblhau'r cwrs hwn hefyd yn eich cynnig llwybr cyflym at statws cyfrifydd siartredig gan y bydd yr AAT yn rhoi eithriadau hael o holl gyrff siartredig ac ardystiedig y DU i chi.
Costau eraill:
Llyfrau tua £30 y modiwl
Cofrestriad AAT (yn daladwy i’r AAT) £240
NCDI0077DC
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 09 Ebrill 2024
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr