Yn gryno
Mae’r Diploma Cyswllt Lefel 5 CIPD mewn Rheoli Pobl yn darparu llwyfan perffaith i ddatblygu eich gyrfa Adnoddau Dynol ymhellach ar lefel reoli.
Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich gallu i werthuso effeithiolrwydd gwahanol fodelau ac arferion Adnoddau Dynol, a bydd yn cynyddu eich dealltwriaeth o ffactorau allanol sy'n effeithio ar Adnoddau Dynol a sefydliadau.
... y rhai sy'n dyheu am yrfa, neu'n dechrau ar yrfa, ym maes rheoli pobl
... y rhai sy'n gweithio mewn swydd ymarfer pobl sy'n dymuno cyfrannu eu gwybodaeth a'u sgiliau i helpu i lunio gwerth sefydliadol
...y rhai sy’n gweithio tuag at, neu sy’n gweithio mewn, swydd rheoli pobl.
Mae’r cymhwyster hwn yn ymestyn ac yn meithrin lefel ddyfnach o ddealltwriaeth a chymhwysiad ac yn naturiol yn datblygu arbenigedd dysgwyr mewn ymarfer pobl.
Byddwch yn astudio’r meysydd canlynol. Mae’r dosbarthiadau’n rhyngweithiol ac yn adlewyrchu eich profiad eich hun a’r deunydd cwrs.
Yr unedau craidd yn y cymhwyster yw:
- Perfformiad Sefydliadol ar Waith
- Arfer sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth
- Ymddygiad Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl
- Unedau Arbenigol
- Rheoli Perthynas Cyflogaeth
- Rheoli Talent a Chynllunio'r Gweithlu
- Gwobrau am Berfformiad a Chyfraniad
- Learning and Development
I lwyddo yn y cwrs hwn bydd angen i chi basio aseiniad ym mhob un o’r saith modiwl.
Mae'r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 18+ oed sydd eisiau dysgu am ymarfer pobl. Ar y lefel hon dylech fod wedi cwblhau CIPD lefel 3 neu gyfwerth a bod mewn sefyllfa lle mae gennych brofiad swyddogaethol neu reolaethol mewn AD neu ddisgyblaeth gysylltiedig. Rhaid i ddysgwyr allu bodloni gofynion y deilliannau dysgu a chael mynediad at y llythrennedd a’r rhifedd priodol sydd eu hangen i gwblhau Diploma Cyswllt CIPD Lefel 5 mewn Rheoli Pobl.
Cynhelir cyfweliad ar y ffôn gydag Arweinydd y Cwrs i egluro hyn ar gyfer Lefel 5 i sicrhau eich bod ar y cwrs cywir.
Mae Tystysgrif Sylfaen CIPD yn darparu cymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol ac mae'n hanfodol eich bod yn dod yn aelod o’r CIPD ar ôl i chi ddechrau astudio'r cymhwyster.
Nid yw pris y cwrs yn cynnwys ffioedd cofrestru ar gyfer aelodaeth myfyriwr o’r CIPD (y mae'n rhaid eu talu'n uniongyrchol i'r CIPD).
Mae’r cwrs rhan amser hwn fel arfer yn cael ei gyflwyno un diwrnod yr wythnos am 33 wythnos.