Yn gryno
Nod y cymhwyster hwn yw rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am Anawsterau Dysgu Penodol gwahanol, sut maent yn cael eu diagnosio a sut gall unigolion gael eu cefnogi. Gall y cymhwyster gael ei ddefnyddio gan ystod eang o ddysgwyr sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth yn y maes pwnc hwn.
...staff addysgu, staff gofal neu unrhyw un sy’n dymuno adeiladu ei wybodaeth am ddyslecsia ac anawsterau dysgu eraill.
...y rhai sy’n gweithio ym meysydd gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
Mae’r cwrs yn cynnwys 5 uned orfodol:
- Deall Anawsterau Dysgu Penodol
- Deall Effeithiau Anawsterau Dysgu Penodol
- Deall Diagnosis Anawsterau Dysgu Penodol
- Deall Cefnogi Unigolion ag Anawsterau Dysgu Penodol
- Deall Cyd-destun Anawsterau Dysgu Penodol
Caiff y cwrs ei asesu gan eich tiwtor gan ddefnyddio portffolio o dystiolaeth.
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar wybodaeth yn unig felly nid oes angen bod yn gweithio ar hyn o bryd i’w astudio.
Dylai dysgwyr fod dros 19 oed.
Gallai dysgwyr sy’n ennill y cymhwyster hwn symud ymlaen i gwrs:
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Deall Awtistiaeth
- Diploma Lefel 2 a Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Cymru
- Tystysgrifau Lefel 2 a Lefel 3 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion
- Diploma Lefel 2 a Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygu Plant