Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i sgiliau a thechnegau actio, yn hygyrch i bobl sy’n meddu ar lefelau amrywiol o brofiad.
Gellir disgwyl gweithgareddau ymarferol, darllen sgriptiau a dyfeisio technegau ac rydym yn croesawu dysgwyr sydd eisiau archwilio perfformio fel ffordd o ddatblygu hyder a sgiliau cyfathrebu.
… unrhyw un sydd â diddordeb mewn dramâu a pherfformio
… y rhai ohonoch sydd eisiau datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu
… dysgwyr sydd yn ystyried dilyn gyrfa yn y maes celfyddydau perfformio
Dulliau o ymateb i destun (dull Stanislavski), technegau actio a chyfarwyddo, dulliau dyfeisio a’r monolog clyweliad.
Dysgu sut i ymateb i destun fel actor, hanfodion gwaith byrfyfyr, perfformio monolog, perfformio ymddiddan rhwng dau a pherfformiadau ensemble yn ogystal â thechnegau dyfeisio.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol yn cynnig casgliad o gyrsiau gydol y flwyddyn.
Y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yw:
- Tecstilau
- Cerameg
- Gwneud Printiau
- Ffotograffiaeth
- Argraffu 3D
- Ymarfer Llesiant Creadigol a'r Celfyddydau
- Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
- Celfyddydau Perfformio
- Canu ar gyfer Pleser
- Ysgrifennu Creadigol
- Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft
- Gwneud Gemwaith
- Lluniadu Digidol gan ddefnyddio Procreate
- Lansio Menter/Busnes Creadigol