Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn fan cychwyn perffaith os ydych chi'n frwd dros geffylau ac eisiau datblygu eich sgiliau clipio. Os ydych chi’n berchennog ceffyl sy’n gwario arian ar gael eich ceffyl wedi’i glipio’n broffesynol bob blwyddyn, hwn yw’r cyfle perffaith i chi ddysgu’r sgiliau eich hun.
... ydych yn berchennog ceffyl brwd sy’n awyddus i ddysgu sut i glipio ceffylau’n ddiogel
... oes gennych sgiliau clipio sylfaenol ond eich bod yn awyddus i’w datblygu ymhellach
Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol yn cynnwys:
- Technegau clipio diogel
- Rhesymau dros a phryd i glipio ceffylau
- Gwahanol fathau o glipio
- Sesiwn clipio ymarferol
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, er y bydd angen i ddysgwyr fod yn 16 oed neu hyn.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill tystysgrif coleg.