Yn gryno
Mae Rheoliadau Gweithio ar Uchder 2005 y golygu bod gan gyflogwyr, unigolion sy'n hunangyflogedig ac unrhyw un sy'n rheoli gwaith gweithwyr eraill (fel rheolwyr cyfleusterau neu berchnogion adeiladau) ddyletswydd i sicrhau gweithio ar uchder cymwys. Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
... unrhywun sy’n gweithio o uchder lle mae perygl y gall disgyn achosi niwed personol.
Ar y cwrs hanner diwrnod hwn (3 awr) byddwch yn dod i ddeall pwysigrwydd:
Cynllunio a threfnu gwaith ar uchder
Yr angen i asesu'r risgiau o waith ar uchder a dewis a defnyddio offer gwaith priodol
Rheoli'n briodol y risgiau o weithio ar arwynebau bregus neu'n agos atynt
Archwilio a chynnal a chadw'r offer a ddefnyddir ar gyfer gweithio ar uchder
Wedi ichi gwblhau'r cwrs, byddwch yn cael tystysgrif presenoldeb Coleg Gwent, a gallwch symud ymlaen i astudio un o'n cymwysterau iechyd a diogelwch ardystiedig.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.