Yn gryno
Hyd yn oed os nad ydych yn codi pethau trwm, mae dysgu am godi a chario diogel yn hanfodol i atal damweiniau ac anafiadau. Bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i ddysgu’r technegau codi cywir, cynnal asesiadau risg codi a chario syml a gwella iechyd a diogelwch. Gellir hefyd deilwra’r cwrs i gwrdd â gwahanol ofynion busnes ac amgylcheddau gwaith.
…pob gweithiwr, gan gynnwys goruchwylwyr rheng flaen, heb unrhyw hyfforddiant codi a chario ffurfiol
Bydd y cwrs hanner-diwrnod hwn yn gwella eich gwybodaeth am godi a chario ac yn eich cynorthwyo i:
- Nodi’r peryglon cyffredin sy’n debygol o fod yn bresennol yn y gweithle
- Nodi’r peryglon cyffredin sy’n debygol o fod yn bresennol yn y gweithle
- Cynnal asesiadau risg codi a chario syml
- Gwerthfawrogi deddfwriaeth berthnasol - HASWA 1974, Rheoliadau Codi a Chario 1992. Gweld sut gallai eich gweithredoedd beryglu eich hun, eich cydweithwyr neu bobl sy’n pasio trwy’r gweithle
Er bod hwn yn gwrs nas asesir, bydd angen i chi ymgymryd â thechnegau codi, nodi peryglon, cynnig datrysiadau a chymryd rhan mewn cwis iechyd a diogelwch. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif mynychu Coleg Gwent.
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol.
Ar ôl y cwrs, gallwch symud ymlaen i amryw o gyrsiau achrededig.