Ydych chi angen ychydig o gymorth gan ein tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar?
DO
Bydd angen ichi gadarnhau eich lle drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Coleg Gwent.
Os hoffech fwy o gyngor ac arweiniad cyn derbyn eich cynnig, gallwch sgwrsio gyda’n tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar ar 01495 333777 (dewiswch opsiwn 1), neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk
Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar eich cais, gan y byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd i’r cyfeiriad y byddwch yn ei nodi.
Naddo
Peidiwch â chynhyrfu! Nid yw hi’n rhy hwyr i wneud cais ar-lein ac ymuno â ni fis Medi.
Mae ein tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar yma i’ch helpu i ddewis y cwrs perffaith i chi ac i gyflwyno’ch cais. Gallant eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon, felly ffoniwch nhw ar 01495 333777 (dewisiwch opsiwn 1), neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk heddiw.
Neu beth am ddod i’n gweld ar un o’n Dyddiau Canlyniadau a Chyngor i archwilio mwy o opsiynau?
Gobeithiwn y byddwch wrth eich bodd gyda’ch canlyniadau, ond peidiwch â phoeni os na fyddwch yn cael y canlyniadau a obeithiwyd. Beth bynnag fydd yn digwydd, rydym yma i’ch cefnogi a gallwch lwyddo yn Coleg Gwent.
Os na chawsoch y graddau oedd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs, dewch draw ar gyfer eich ymrestru beth bynnag a gallwn drafod eich opsiynau. Os hoffech siarad â ni cyn hynny, bydd ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn barod i’ch helpu. Bydd gennym gwrs llawn amser neu addysg uwch i chi. Ffoniwch nhw ar 01495 333777 (dewisiwch opsiwn 1) neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk heddiw.
Dim problem! Cysylltwch â’n tîm Recriwtio Myfyrwyr ar 01495 333777 (dewiswch opsiwn 1) neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk am gyngor ac arweiniad.
Mynnwch fwy o wybodaeth ynghylch ymrestru a dechrau eich cwrs llawn amser neu addysg uwch nawr. Edrychwn ymlaen at eich gweld ym mis Medi!