En

Mathemateg a Saesneg

Maths and English staff on orange background
play

Gwella eich rhagolygon, gwella eich Mathemateg a Saesneg

Mae Coleg Gwent yn cymryd datblygiad Mathemateg a Saesneg o ddifrif. Rydym yn cydnabod fod Mathemateg a Saesneg da yn asedau hanfodol ym marchnad swyddi heddiw, yn ogystal â bywyd bob dydd.

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio am ymgeiswyr sydd â Graddau A*-C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg ac, os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n debyg y byddwch yn ddi-waith am fwy o amser. Felly os na wnaethoch gael y graddau sydd eu hangen arnoch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg ar gyfer y dyfodol yr ydych yn ei ddymuno, gallwn roi ail gyfle i chi eu gwella ochr yn ochr â’ch cwrs, yn ogystal â’ch helpu i gyflawni’r lefel sy’n ofynnol i:

  • Wella eich rhagolygon cyflogaeth
  • Ehangu eich cyfleoedd gyrfa
  • Ennill mwy o arian yn y dyfodol o bosibl

Fel dysgwr llawn amser yn y Coleg, bydd Mathemateg a Saesneg yn rhan o’ch rhaglen ddysgu, byddwn yn eich cefnogi i ennill y cymwysterau Mathemateg a Saesneg sydd eu hangen ar gyfer datblygiad eich cwrs, cyflogwyr a’r brifysgol. Os na lwyddoch i ennill gradd C, neu uwch, mewn Mathemateg a Saesneg Iaith ar lefel TGAU, byddwch yn parhau i astudio’r pynciau hyn yn y Coleg. Yn dibynnu ar eich cyrhaeddiad, bydd hyn naill ai’n ail-sefyll arholiadau TGAU, neu astudio Sgiliau Hanfodol. Os byddwch chi’n ennill gradd C, neu uwch yn y pynciau hyn, byddwch yn parhau i ddatblygu’r sgiliau hanfodol hyn yn eich prif raglen neu drwy’r Dystysgrif Her Sgiliau.

Dyma pam fod Mathemateg a Saesneg mor bwysig

Mathemateg Saesneg
Cyfrifeg a Busnes I wneud yn siŵr nad ydych yn gwario mwy na’ch cyllideb I gyfathrebu’n effeithiol â staff a thrafod gyda chleientiaid
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth I fesur ffabrigau ym maes dylunio ffasiwn i sicrhau bod dillad yn ffitio I gyflwyno eich gwaith yn llwyddiannus i gleientiaid
Arlwyo a Lletygarwch I gyfrifo cynhwysion rysáit a gweithio allan pa mor hir y mae angen i chi ei goginio I ddarparu gwasanaeth cwsmer rhagorol a chael archebion yn gywir
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol Rhoi fformiwlâu mewn taenlenni Cofnodi data pwysig yn gywir
Adeiladu Defnyddio ffracsiynau i roi cymalau yn eu lle gyda’r un pellter rhyngddynt ar hyd wal stydiau I ddarparu dyfynbrisiau cywir a phroffesiynol i ddarpar gleientiaid
Peirianneg Mesur deunyddiau ac onglau i sicrhau bod dyluniadau yn cael eu gwneud yn gywir Deall rheoliadau iechyd a diogelwch i wneud yn siŵr bod mannau gweithio yn ddiogel
Trin Gwallt a Therapi Harddwch Gweithio allan y cymarebau cywir ar gyfer lliwio gwallt neu arlliwio aeliau Cyfathrebu â chleientiaid a threfnu apwyntiadau
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar Gwneud yn siŵr eich bod yn sicrhau’r gymhareb gywir ar gyfer y nifer o blant neu gleifion i ofalwyr, gan helpu pawb i gadw’n ddiogel Rheoli cofnodion cleifion neu gleientiaid
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau Sicrhau nad ydych yn tanfwydo neu’n gorfwydo anifeiliaid Deall gwybodaeth am driniaethau i anifeiliaid
Cerbydau Modur Darparu amcangyfrifon cost cywir ar gyfer atgyweiriadau neu wasanaethau cynnal a chadw Cyfathrebu â chwsmeriaid i esbonio materion technegol ac opsiynau atgyweirio
Cerddoriaeth, Drama a Dawns I gyfrifo amseroedd llwyfan Dysgu sgriptiau ar gyfer clyweliadau
Gwasanaethau Cyhoeddus Cyfrifo cyflymder cerbydau sy’n rhan o ddamweiniau trwy ddefnyddio marciau sgidio, pellteroedd a mesuriadau eraill Llunio adroddiadau gan roi manylion am ddigwyddiadau ac ymchwiliadau
Science I ddadansoddi data yn gywir I gadw cofnodion cywir o brosiectau ac i ysgrifennu adroddiadau
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden Cyfrifo sgoriau a faint o bwyntiau sydd eu hangen arnoch i ennill Cyfathrebu ag aelodau tîm a chytuno ar dactegau
Teithio a Thwristiaeth Cyfrifo cyfraddau cyfenwid arian i daro’r fargen orau CYmchwilio i gyrchfannau i roi cyngor i gleientiaid