{"id":7582,"date":"2024-08-22T08:34:00","date_gmt":"2024-08-22T07:34:00","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/gcse-results-day-2024\/"},"modified":"2025-03-25T15:20:23","modified_gmt":"2025-03-25T15:20:23","slug":"gcse-results-day-2024","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/gcse-results-day-2024","title":{"rendered":"Dosbarth 2024 yn cael diwrnod canlyniadau TGAU llwyddiannus"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Dosbarth 2024 yn cael diwrnod canlyniadau TGAU llwyddiannus<\/h2>\n<p><span data-contrast=\"none\">Llongyfarchiadau i\u2019r dysgwyr hynny sydd wedi cael eu canlyniadau TGAU a BTEC Lefel 2 heddiw! Yma yn Coleg Gwent, rydyn ni\u2019n dathlu cyfraddau llwyddo gwych dosbarth 2024.<\/span><\/p>\n<p><strong>Eleni, rydyn ni weld gweld cyfradd lwyddo o 90.8% ar gyfer Mathemateg TGAU, a chyfradd lwyddo ragorol o 97.4% ar gyfer Saesneg TGAU.<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Yn Coleg Gwent, mae gan ddysgwyr gyfle i ailsefyll eu harholiadau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg wrth astudio ar gyrsiau academaidd neu alwedigaethol ar lefel uwch. Mae llawer o resymau pam bod pobl yn dewis gwneud hyn megis heb ennill y canlyniadau roedden nhw eu heisiau y tro cyntaf, dymuno uwch-sgilio, ehangu opsiynau gyrfa neu gynyddu eu siawns o gael lle yn y brifysgol. Beth bynnag yw\u2019ch rhesymau a\u2019ch amcanion, gall Coleg Gwent eich helpu chi i gyrraedd eich nod.<\/span><span data-ccp-props='{\"134233117\":false,\"134233118\":false,\"201341983\":0,\"335559738\":0,\"335559739\":420,\"335559740\":259}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><strong>Dywedodd Mark Harding, Cyfarwyddwr Cyswllt Dysgu a Sgiliau Gydol Oes:\u00a0<\/strong> \u201cMae ein dysgwyr wedi dangos ymroddiad rhyfeddol ac mae llawer ohonynt wedi ennill graddau da ar draws Saesneg a Mathemateg. Mae gwaith caled ein dysgwyr, ynghyd \u00e2 chymorth diwyro ein staff addysgu ymroddedig, wedi siarad cyfrolau. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi profi llwyddiant heddiw a dymunaf ddymuniadau da ar gyfer y dyfodol i bob un ohonynt.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchiadau i\u2019r holl fyfyrwyr sydd wedi gweithio\u2019n galed i fodloni eu nodau a gwireddu eu breuddwydion.<\/p>\n<p><strong>Dyma rai o\u2019n straeon llwyddiant:<\/strong><\/p>\n<p><strong>Daisy-Mae Goreing\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Campws: Parth Dysgu Blaenau Gwent<\/p>\n<p>Graddau: B \u2013 Saesneg<\/p>\n<p>\u201cYn yr ysgol uwchradd roeddwn yn cael trafferth \u00e2 Saesneg, ac o ganlyniad i hyn, gwnes i gyflawni gradd D yn Saesneg Iaith yn fy arholiadau ym mlwyddyn 11. Gallwn i fod wedi dewis peidio ag astudio Saesneg yn y coleg a chadw gyda\u2019r radd a gefais, ond roeddwn i\u2019n gwybod bod gen i\u2019r potensial i anelu\u2019n uwch a chyflawni gradd well. Y prif gyngor byddwn i\u2019n cynnig i fyfyrwyr sy\u2019n astudio TGAU Mathemateg neu Saesneg yw mynd amdani, bydd y flwyddyn yn hedfan heibio a chyn belled ag y byddwch chi\u2019n gweithio\u2019n galed, byddwch yn falch ynddoch chi\u2019ch hun a bydd popeth yn werth chweil.<\/p>\n<p><strong>Osian Townsend Jones\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Campws Dinas Casnewydd<\/p>\n<p>Graddau: B \u2013 Saesneg. A* \u2013 Mathemateg.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r graddau a gefais tra\u2019n astudio wedi bod yn gyflawniad ardderchog i mi, a gwnes i rai ffrindiau gwych dros y flwyddyn roeddwn i yma. Mae\u2019n anodd ystyried fy mod wedi cyflawni cymaint mewn blwyddyn yn unig, gan fy mod wedi gwneud cymaint o gynnydd yn academaidd.\u201d<\/p>\n<p><strong>Amy Leigh Engstrom\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Campws: Parth Dysgu Blaenau Gwent<\/p>\n<p>Graddau: C \u2013 Mathemateg<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n cynllunio i astudio ar gyfer gradd yn y Gyfraith yn y brifysgol ar \u00f4l cael fy niploma estynedig eleni. Tra\u2019n astudio TGAU yn Coleg Gwent, dysgais dechnegau a methodolegau gwerthfawr sy\u2019n gweithio\u2019n dda imi ac rwy\u2019n hyderus wrth roi nhw ar waith. Mae\u2019r sgiliau a methodolegau hyn yn gallu cael eu trosglwyddo i bynciau y bydda i\u2019n eu hastudio yn y dyfodol, gan eu gwneud nhw\u2019n werthfawr tuag at fy nghynnydd academaidd.\u201d<\/p>\n<p><strong>Matilda Sefton<\/strong><\/p>\n<p>Campws: Parth Dysgu Torfaen<\/p>\n<p>Graddau: C \u2013 Saesneg<\/p>\n<p>\u201cMae fy nghanlyniadau wedi fy ngwneud yn hynod hapus \u00e2 fy mhenderfyniad i ddod i Coleg Gwent eleni. Rwy\u2019n gobeithio gorffen Lefelau 2 a 3 \u00e2 llwyddiant ysgubol ac ennill gyrfa yn y maes Therapi Celfyddydol. Ynghyd ag ail-eistedd fy TGAU, mae fy angerdd wedi tyfi\u2019n fwyfwy gyda\u2019r technegau rydw wedi\u2019u dysgu.\u201d<\/p>\n<p><strong>Callum Wetten\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Campws: Crosskeys<\/p>\n<p>Graddau: A \u2013 Saesneg<\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l eleni, fy mwriad yw dilyn cwrs mynediad i addysg uwch blwyddyn o hyd i astudio peirianneg gyda\u2019r nod o ddechrau fy ngradd israddedig yn y Brifysgol yn 2025. Mae astudio Saesneg yn arbennig wedi fy nghaniat\u00e1u i gyflawni cymhwyster sy\u2019n profi fy ngallu i fynegi\u2019n effeithiol ac adrodd yn drwyadl, sy\u2019n allweddol ar gyfer gyrfa yn y maes peirianneg.\u201d<\/p>\n<p class=\"translation-block\">Bydd nifer o fyfyrwyr nawr yn edrych ymlaen at gael dechrau astudio gyda ni fis Medi, a chymryd y camau nesaf o fewn eu taith addysgiadol at gyrsiau Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol. Braf fydd cael eich croesawu chi i wythnos y glas fis Medi. Os nad ydych wedi gwneud cais eto, mae gennych amser i ymuno \u00e2 ni. Felly ewch amdani i wneud cais ac osgoi cael eich siomi. Rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at eich gweld fis Medi.<\/p>\n<p><iframe style=\"aspect-ratio: 16 \/ 9; width: 100%; max-width: 800px; margin: 20px auto; display: block;\" title=\"Coleg Gwent Learner Awards - 2024\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/yrA3IMijXDQ\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\" loading=\"lazy\"><\/iframe><\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<div class=\"shareicons\">\n<p class=\"shareicons_title fs_bold fs_3\">Share this article:<\/p>\n<div class=\"shareicons_icons\">\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/sharer\/sharer.php?u=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/gcse-results-day-2024\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-facebook-f fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"http:\/\/twitter.com\/share?text=GCSE%20results%20day%20success%20for%20the%20class%20of%202024&amp;url=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/gcse-results-day-2024\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-twitter fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/shareArticle?mini=true&amp;url=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/gcse-results-day-2024&amp;title=GCSE%20results%20day%20success%20for%20the%20class%20of%202024&amp;summary=Congratulations%20to%20all%20the%20learners%20who%20received%20their%20GCSE%20and%20Level%202%20BTEC%20results%20today!\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-linkedin-in fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/api.whatsapp.com\/send?text=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/gcse-results-day-2024\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-whatsapp-square fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"mailto:?subject=GCSE%20results%20day%20success%20for%20the%20class%20of%202024&amp;body=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/gcse-results-day-2024\" target=\"_blank\"><i class=\"fas fa-envelope fs_7 colour12\"><\/i><\/a>\n\t\t\t\t\t\t<\/div>\n<\/p><\/div>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":7644,"template":"","category":[66],"class_list":["post-7582","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_force_visibility":null,"pp_subpost_visibility":null,"pp_inherited_force_visibility":null,"pp_inherited_subpost_visibility":null,"pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7582","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7582\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7643,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7582\/revisions\/7643"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7644"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7582"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7582"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}