{"id":7570,"date":"2024-06-11T15:07:42","date_gmt":"2024-06-11T14:07:42","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/7-quirky-courses\/"},"modified":"2025-09-30T16:21:09","modified_gmt":"2025-09-30T15:21:09","slug":"7-quirky-courses","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/7-quirky-courses","title":{"rendered":"O gymorth cyntaf i anfeiliaid anwes i ganu caneuon m\u00f4r - dyma 7 cwrs anarferol nad oeddech chi\u2019n gwybod eu bod ar gael yn ne Cymru"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <p class=\"translation-block\">Mae\u2019r coleg addysg bellach mwyaf yng Nghymru, Coleg Gwent, yn cynnig detholiad cynhwysfawr o gyrsiau unigryw sydd wedi\u2019u teilwra i gyd-fynd \u00e2 phob diddordeb neu lwybr gyrfa \u2013 ac mae\u2019r broses gofrestru ar gyfer nifer o gyrsiau ar agor nawr er mwyn dechrau yn yr hydref.<\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Ochr yn ochr \u00e2 chyrsiau sy\u2019n annog uwchsgilio proffesiynol neu hyd yn oed cyfleoedd i newid gyrfa yn gyfan gwbl, mae nifer o gyrsiau Coleg Gwent yn seiliedig ar hob\u00efau gan rymuso unigolion i ddilyn angerddau newydd o wneud gemwaith i ffotograffiaeth a chanu.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Dyma\u2019r 7 hobi unigryw neu sgiliau arbenigol y gallwch chi eu dilyn yn Coleg Gwent eleni\u2026<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><strong>Cymorth Cyntaf Sylfaenol i G\u0175n a Chathod\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae pob un ohonom yn ymwybodol o bwysigrwydd sgiliau cymorth cyntaf er lles aelodau\u2019r teulu, ffrindiau, cydweithwyr neu hyd yn oed pobl estron ond beth am ein hanifeiliaid anwes? Wedi\u2019i addysgu gan nyrsys milfeddygol cymwysedig, mae\u2019r cwrs hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cymorth cyntaf i g\u0175n a chathod \u2014 o brotocol CPR i fynd i\u2019r afael \u00e2 sefyllfaoedd o argyfwng megis gwenwyno neu dorri asgwrn. <\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Os ydych chi\u2019n gweithio i sefydliad ailgartrefu neu\u2019n berchennog ar anifail anwes, gallai\u2019r cwrs hwn fod yn ddefnyddiol iawn. Cadwch eich lle ar y cwrs sy\u2019n dechrau ym mis Hydref.<\/p>\n<div style=\"clear: both;\"><\/div>\n<p><strong>Cyflwyniad i Baentio Wynebau\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Bydd mynychwyr y cwrs hwn yn dysgu technegau yng nghelfyddyd peintio cymeriadau, anifeiliaid a phatrymau prydferth ar wynebau. Os hoffech chi ddysgu ar gyfer gwaith, gwirfoddoli neu i greu argraff ar eich plant, mae\u2019r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai \u00e2 dawn artistig.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Cofiwch ddod \u00e2\u2019ch camera \u2013 ar \u00f4l y cwrs undydd hwn, byddwch chi\u2019n dymuno dechrau portffolio llawn ar gyfer paentio wynebau! Cadwch eich lle yma.<\/p>\n<div style=\"clear: both;\"><\/div>\n<p><strong>Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live<\/strong><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Os ydych chi\u2019n ddarpar gynhyrchydd neu\u2019n ddarpar DJ, mae\u2019r cwrs hwn yn garreg gamu at ddatblygu sgiliau hanfodol ym maes cynhyrchu cerddoriaeth a gweithgarwch DJ.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Nid oes angen meddu ar wybodaeth flaenorol a bydd dysgwyr yn derbyn cyflwyniad ymarferol i\u2019r deciau a meddalwedd Ableton Live a Rekordbox DJ. Cadwch eich lle yma.<\/p>\n<div style=\"clear: both;\"><\/div>\n<p><strong>Trwsio Cyfrifiaduron \/ Cynnal a Chadw Cyfrifiaduron\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Trawsnewidiwch yn arbenigwr mewn technoleg trwy\u2019r cwrs ymarferol hwn sy\u2019n cynnig cyfle i ennill sgiliau a gwybodaeth hanfodol trwy gymhwyso bywyd go iawn, ar unwaith. Dysgwch sut i ddatrys y problemau caledwedd a meddalwedd mwyaf cyffredin gan gynyddu eich sgiliau technegol!\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Mae eich taith at ddod yn arbenigwr ym maes cyfrifiaduron yn dechrau yma.<\/p>\n<div style=\"clear: both;\"><\/div>\n<p><strong>Canu Caneuon M\u00f4r\u00a0<\/strong><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Os oeddech chi\u2019n hoffi\u2019r duedd TikTok yn 2021 lle aeth c\u00e2n y m\u00f4r o\u2019r enw \u201cWellerman\u201d yn feiral yna gall y cwrs hwn fod yn berffaith i chi.<\/p>\n<p class=\"translation-block\">Mae\u2019n berffaith ar gyfer dysgwyr ag angerdd am ganu, harmon\u00efau a cherddoriaeth ac mae canu caneuon m\u00f4r yn croesawu\u2019r rhai o bob lefel sgiliau i astudio\u2019r genre canu gwerin traddodiadol. Yr unig ofyniad yw cariad at gerddoriaeth a\u2019r gallu i gydweithio. Cadwch eich lle i ddechrau ym mis Mehefin.<\/p>\n<div style=\"clear: both;\"><\/div>\n<p><strong>Clipio Ceffylau\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae\u2019r cwrs hwn wedi\u2019i deilwra ar gyfer berchnogion ceffylau angerddol sy\u2019n awyddus i feistroli\u2019r dechneg, gwella eu sgiliau presennol neu arbed arian. <\/span><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Ydych chi\u2019n barod i gymryd yr awenau a meistroli clipio? Ewch amdani a chadwch eich lle.<\/p>\n<div style=\"clear: both;\"><\/div>\n<p><strong>Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Wedi\u2019i ddylunio ar gyfer dechreuwyr, mae\u2019r cwrs hwn yn cynnwys elfennau sylfaenol uwchgylchu, technegau paentio, staenio a defnyddio offer a chynhyrchion i roi bywyd newydd i hen gelfi.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae\u2019r cwrs cost-effeithiol hwn yn berffaith ar gyfer perchnogion tai neu bobl sy\u2019n rhentu tai. Os ydych chi newydd symud t\u0177 ac yn chwilio am ffyrdd o adnewyddu eich cartref heb dalu llawer neu hoffech chi helpu\u2019r amgylchedd drwy ailwampio celfi a fyddai, fel arall, wedi mynd i safle tirlenwi.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Cadwch eich lle ar y cwrs 5 wythnos hon.<\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Pa bynnag gwrs sy\u2019n apelio, mae Coleg Gwent yn cynnig llawer o hyblygrwydd trwy gyrsiau amser llawn, cyrsiau rhan-amser, cyrsiau gyda\u2019r nos a chyrsiau ar-lein ar draws ystod o bynciau o hob\u00efau i ddatblygiad proffesiynol.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae rhaglenni\u2019r cyrsiau wedi\u2019u dylunio gan gadw anghenion oedolion mewn cof a helpu i gydbwyso amserlenni gwaith prysur, bywyd teulu neu ymrwymiadau eraill er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr ddilyn datblygiad personol a datblygiad proffesiynol ar eu cyflymder eu hunain.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Meddai Victoria Davies, Pennaeth Cynorthwyol \u2013 Cwricwlwm ac Ansawdd yn Coleg Gwent: \u201cRydym wedi ymrwymo i helpu dysgwyr o bob cefndir a diddordeb i ddatgloi eu potensial, nid yn unig i wella sgiliau proffesiynol ond hefyd o ran twf personol a datblygu hob\u00efau newydd.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">\u201cMae ein hystod amrywiol o gyrsiau am ddim a chyrsiau hyblyg yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr fynd ar drywydd eu hangerdd ar amser sy\u2019n gyfleus iddynt gan olygu nad yw dechrau ar daith ddysgu erioed wedi bod yn haws.\u201d<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:6,&quot;335551620&quot;:6,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<div class=\"shareicons\">\n<div class=\"shareicons_icons\"><\/div>\n<\/div>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":19729,"template":"","category":[66],"class_list":["post-7570","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7570","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7570\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":33436,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7570\/revisions\/33436"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19729"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7570"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7570"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}