{"id":7566,"date":"2024-04-23T14:09:10","date_gmt":"2024-04-23T13:09:10","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/estyn\/"},"modified":"2025-05-21T14:00:40","modified_gmt":"2025-05-21T13:00:40","slug":"estyn","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/estyn","title":{"rendered":"Adroddiad ardderchog gan Estyn ar Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <p><span data-contrast=\"auto\">Cafodd Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, a arweinir gan Coleg Gwent, ei chanmol yn arw yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd gan Estyn, sef arolygiaeth addysg Cymru. Mae\u2019r adroddiad yn amlygu effaith drawsnewidiol gwaith y bartneriaeth ar ddysgwyr a chymunedau fel ei gilydd.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf yn gydweithrediad sefydledig sydd yn cynnwys pum darparwr craidd awdurdodol lleol, (Aneurin Leisure (Blaenau Gwent), Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen) gyda\u2019r coleg yn ymgymryd \u00e2 r\u00f4l arweinyddiaeth strategol.<\/span> <span data-contrast=\"auto\">Mae\u2019r bartneriaeth yn cynnig ystod o gyrsiau a chlybiau teilwredig i ddiwallu anghenion amrywiol ei chymunedau, gan gynnwys sgiliau hanfodol, sgiliau byw\u2019n annibynnol, Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (SSIE), TGCh, cyflogadwyedd a chyrsiau hamdden a llesiant.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn ystod y broses arolygu, mae arolygwyr Estyn yn arolygu pob agwedd ar weithrediadau\u2019r bartneriaeth, yn ogystal \u00e2 chyfarfod \u00e2 rhanddeiliaid allweddol sydd yn cynnwys cadeirydd y bartneriaeth, yr uwch arweinwyr, tiwtoriaid ac, yn bwysicaf oll, y dysgwyr.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Trwy ymweld \u00e2 sesiynau, arsylwi ar ryngweithiadau ac adolygu dogfennaeth, enillodd yr arolygwyr ddealltwriaeth gyflawn o gryfderau\u2019r bartneriaeth a\u2019r meysydd y gellir eu datblygu.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Uchafbwyntiau allweddol yr adroddiad oedd:<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><strong>Ymrwymiad i rymuso dysgwyr\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Un o nodweddion amlwg y bartneriaeth a amlygwyd yn yr adroddiad yw ei hymrwymiad i rymuso dysgwyr. Soniodd dysgwyr yn angerddol am effaith gadarnhaol y bartneriaeth ar eu bywydau, gan ddweud y byddent \u201car goll heb y ganolfan\u201d sydd wedi dod yn rhaff achub ar \u00f4l amgylchiadau bywyd heriol. Mae dysgwyr mewn dosbarthiadau sgiliau digidol yn arbennig o werthfawrogol o ddysgu am seiberddiogelwch ac maent yn gwerthfawrogi dysgu am sut i gadw eu hunain yn ddiogel wrth bori, bancio a siopa ar-lein.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><strong>Profiad dysgu sydd yn gynhwysol ac yn gefnogol\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae adroddiad Estyn yn canmol ymroddiad y tiwtoriaid i feithrin amgylcheddau dysgu cynhwysol lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a\u2019i gefnogi. Datganodd yr adroddiad bod tiwtoriaid \u201cyn creu amgylcheddau cynnes a chroesawgar y mae dysgwyr yn teimlo\u2019n gyfforddus yn eu cyrchu.\u201d\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Nodir bod y bartneriaeth yn hyblyg ac yn ymatebol, sydd yn cyflwyno rhaglenni ar amseroedd ac mewn lleoliadau sydd yn gweddu i anghenion dysgwyr, gyda chynlluniau sydd wedi\u2019u strwythuro\u2019n dda ac sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae tiwtoriaid yn gweithio gyda dysgwyr i greu targedau ystyrlon megis: \u201cRydw i\u2019n gwneud hyn i gyflawni fy nod hirdymor o ddod yn fydwraig\u201d neu \u201cRydw i\u2019n cefnogi fy mab i gyflawni TGAU mathemateg.\u201d Roedd pwyslais y bartneriaeth ar iechyd a llesiant meddyliol hefyd wedi atseinio\u2019n ddwfn gyda\u2019r arolygwyr a nododd y manteision diriaethol a brofir gan ddysgwyr. Er mwyn cefnogi iechyd meddwl dysgwyr, llwyddodd 17 tiwtor ar draws y bartneriaeth i gyflawni\u2019r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Achrededig L2, ac aeth saith o\u2019r rhain ymlaen i Ddyfarniad L3 mewn Goruchwylio\/Arwain Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl. Fe wnaeth y cyrsiau hyn alluogi staff i ennill gwell ddealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl ac i gyfeirio dysgwyr at sefydliadau priodol.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Meddai un dysgwr: \u201cFyddwn i ddim yn gallu ymdopi heb y gefnogaeth hon\u201d ac \u201cMae mor bwysig gan mai dyma\u2019r unig ddiwrnod o\u2019r wythnos pan rydyn ni\u2019n gwybod lle rydyn ni.\u201d<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><strong>Diwylliant o welliant parhaus\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Bu adroddiad Estyn hefyd yn canmol prosesau hunan-werthuso cadarn a chynlluniau gwella ansawdd y bartneriaeth. Trwy ddadansoddi data asesu dysgwyr yn ofalus, monitro cynnydd, a gofyn am adborth, mae\u2019r bartneriaeth yn sicrhau bod ei rhaglenni\u2019n parhau i fod yn berthnasol i anghenion newidiol. Mae\u2019r gweithgareddau arsylwi hefyd yn cefnogi\u2019r bartneriaeth gyda monitro ansawdd y ddarpariaeth, nodi arferion da a datblygu\u2019r aelodau o staff y mae angen cymorth arnynt. Yn olaf, adlewyrchir yr ymrwymiad i welliant parhaus yn y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnir gan ddysgwyr ar draws ystod eang o raglenni.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Wrth i ni ddathlu cyflawniadau Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf a amlygwyd yn adroddiad Estyn, cydnabyddwn waith caled ac ymroddiad pawb sydd yn ymwneud \u00e2\u2019r bartneriaeth.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn Coleg Gwent, rydym ni ar y trywydd i adeiladu ar y llwyddiannau a byddwn yn parhau i helpu i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau dysgwyr a chymunedau ledled Gwent Fwyaf.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Darganfod mwy <\/span><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/our-courses\/part-time\/learning-in-the-community\/#:~:text=We%20work%20with%20local%20authorities,and%20build%20up%20your%20confidence.\"><span data-contrast=\"none\">am y cyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned.<\/span><\/a><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<div class=\"shareicons\">\n<div class=\"shareicons_icons\"><\/div>\n<\/div>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":19250,"template":"","category":[66],"class_list":["post-7566","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7566","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7566\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19252,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7566\/revisions\/19252"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19250"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7566"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7566"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}