{"id":7532,"date":"2023-11-20T09:41:05","date_gmt":"2023-11-20T09:41:05","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/discover-your-vocation-at-coleg-gwent\/"},"modified":"2025-09-24T10:52:11","modified_gmt":"2025-09-24T09:52:11","slug":"discover-your-vocation-at-coleg-gwent","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/discover-your-vocation-at-coleg-gwent","title":{"rendered":"Darganfod eich galwedigaeth yn Coleg Gwent"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <p>Mae cymwysterau galwedigaethol fel cyrsiau BTEC yn gyrsiau sy\u2019n seiliedig ar waith, yn rhoi\u2019r sgiliau a\u2019r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer r\u00f4l swydd neu yrfa benodol. Mae\u2019r cyrsiau hyn yn fwy ymarferol na Safon Uwch sy\u2019n seiliedig ar ddamcaniaeth, ond nid yw hynny\u2019n golygu eu bod yn haws.<\/p>\n<p>Gyda chyrsiau BTECs byddwch yn cael profiad ymarferol a byddwch yn cael eich hyfforddi i\u2019r safon uchel y mae cyflogwyr yn ei disgwyl, ac fel coleg sy\u2019n perfformio orau ar y cyd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, mae gennym ddetholiad eang o gyrsiau i chi eu harchwilio.<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">10 budd cymwysterau galwedigaethol:<\/h2>\n<ol class=\"circle\" style=\"margin-left: 10px;\">\n<li style=\"margin-bottom: 10px;\">Cael profiad go iawn yn y maes sydd o ddiddordeb i chi<\/li>\n<li style=\"margin-bottom: 10px;\">Dysgu drwy wneud \u2013 mae cyrsiau galwedigaethol yn ymgymryd \u00e2 dull ymarferol<\/li>\n<li style=\"margin-bottom: 10px;\">Ennill sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i wneud swydd ac i fod yn barod ar gyfer gwaith pan fyddwch yn gadael y coleg<\/li>\n<li style=\"margin-bottom: 10px;\">Dod o hyd i lwybr at gyflogaeth yn eich gyrfa ddewisol a chanolbwyntio ar eich diddordebau<\/li>\n<li style=\"margin-bottom: 10px;\">Cymhwyso theori i ymarfer mewn senarios a phrosiectau go iawn<\/li>\n<li style=\"margin-bottom: 10px;\">Ennill sgiliau ychwanegol ar gyfer cyflogaeth, fel cyfathrebu a rheoli amser<\/li>\n<li style=\"margin-bottom: 10px;\">Cael eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel gwaith cwrs, aseiniadau ymarferol a phrofion<\/li>\n<li style=\"margin-bottom: 10px;\">Mynd i\u2019r brifysgol \u2013 Mae cymwysterau galwedigaethol Lefel 3 hefyd yn ennill pwyntiau UCAS<\/li>\n<li style=\"margin-bottom: 10px;\">Ennill cymhwyster a gydnabyddir y mae cyflogwyr yn chwilio amdano<\/li>\n<li style=\"margin-bottom: 10px;\">Astudio cyrsiau llawn amser a rhan amser AM DDIM!<\/li>\n<\/ol>\n<p>Felly, os ydych chi\u2019n meddwl y byddai cymhwyster galwedigaethol yn fwy addas ar gyfer eich arddull chi o ddysgu o\u2019i gymharu \u00e2 chwrs academaidd, byddwch yn dod o hyd i\u2019r cwrs cywir i chi yn Coleg Gwent. Beth sydd gan rhai dysgwyr i\u2019w ddweud:<\/p>\n<h3 class=\"fs_bold fs_14\">Peirianneg Awyrofod<\/h3>\n<p>Penderfynodd Macsen Davies astudio ar gwrs <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/engineering\">Peirianneg Awyrofod<\/a> ar \u00f4l mynychu digwyddiad agored Coleg Gwent.<\/p>\n<blockquote><p>Mae llawer o dechnegau addysgu gwahanol yn y coleg ac mae\u2019r cyfleusterau\u2019n dda iawn. Mae ganddyn nhw weithdai llawn offer ar gyfer gwaith ymarferol a llwyth o offer safon diwydianol fel; rhaglenni dylunio CAD 3D ac offer ar gyfer adeiladu cylchedwaith ar-lein. Ar hyn o bryd rwy\u2019n cael fy noddi gan Tata Steel ac yn gobeithio cael cynnig prentisiaeth ar \u00f4l y cwrs hwn.<\/p><\/blockquote>\n<h3 class=\"fs_bold fs_14\">Therapiau Cyflenwol<\/h3>\n<p class=\"translation-block\">Mae Si\u00e2n Samantha Howells, sy\u2019n astudio ar gwrs Lefel 3 mewn <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/hairdressing-beauty-and-complementary-therapies\" target=\"_self\">Therap\u00efau Cyflenwol<\/a>, yn bwriadu bod yn berchennog ar ei busnes ei hun gan gyfuno ioga ac aromatherapi.<\/p>\n<blockquote><p>Byddwn 100% yn argymell Coleg Gwent ar gyfer y cwrs Therap\u00efau Cyflenwol. Mae\u2019r cwrs hefyd yn eich helpu chi i fagu hyder am eich bod yn cwrdd \u00e2 phobl newydd yn rheolaidd ac rydych chi\u2019n dysgu llwyth o wybodaeth am y corff \u2013 mae\u2019r cwrs yn fanwl iawn! Rwy\u2019n edrych ymlaen at fynd i mewn i\u2019r coleg.<\/p><\/blockquote>\n<h3 class=\"fs_bold fs_14\">Cynnal a chadw a thrwsio cerbydau<\/h3>\n<p>Mae Courntney Williams wedi meddu ar ddiddordeb mewn ceir ers amser hir ac roedd hi\u2019n dymuno astudio ar gwrs <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/automotive\">Cynnal a chadw a thrwsio cerbydau<\/a> er mwyn troi ei hangerdd yn yrfa.<\/p>\n<blockquote><p>Roeddwn yn nerfus iawn o ran dod i\u2019r coleg fel myfyriwr h\u0177n yn gwneud rhywbeth hollol newydd ond dyna oedd fy mhenderfyniad gorau erioed. Ychydig o ferched yn unig sy\u2019n astudio ar fy nghwrs ond, er gwaethaf hynny, teimlaf fy mod yn rhan o\u2019r dosbarth \u2013 mae pawb wedi bod yn groesawgar. Rwy\u2019n dwlu ar ddysgu am y diwydiant moduro. Mae\u2019r cyfleusterau yma yn wych ac maent yn adlewyrchu safon y diwydiant ar gyfer garej.<\/p><\/blockquote>\n<h3 class=\"fs_bold fs_14\">Celf a Dylunio<\/h3>\n<p class=\"translation-block\">Mae ein dysgwr sy\u2019n astudio ar gwrs Lefel 3 mewn <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/art-design-media-and-photography\" target=\"_self\">Celf a Dylunio<\/a> yn gobeithio y bydd y cwrs yn ei helpu i ennill gyrfa greadigol yn y dyfodol.<\/p>\n<blockquote><p>Byddwn yn argymell Coleg Gwent am eich bod chi\u2019n derbyn safon dda o ddysgu un i un ac mae\u2019r tiwtoriaid yn hyfryd iawn. Byddwn hefyd yn argymell y cwrs Celf a Dylunio am eich bod yn cael gwneud amrywiaeth o bethau bob dydd felly gallwch chi fod yn greadigol mewn sawl ffordd wahanol. Teimlais fod y llwybr hwn yn fwy addas i mi nag astudio yn y chweched dosbarth am ei fod yn gwrs mor greadigol.<\/p><\/blockquote>\n<h3 class=\"fs_bold fs_14\">Gwasanaethau Cyhoeddus<\/h3>\n<p>Mae James Llewellyn yn gobeithio dilyn gyrfa yn yr Heddlu yn y dyfodol. Dewisodd astudio ar gwrs Lefel 3 mewn <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/public-services\">Gwasanaethau Cyhoeddus<\/a> er mwyn ei helpu i ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer ei swydd ddelfrydol.<\/p>\n<blockquote><p>Nid oeddwn yn hoffi\u2019r ysgol a meddyliais fod ystod ehangach o gyfleoedd ar gael yn y coleg gan allu ennill sgiliau mwy annibynnol. Byddwn 100% yn argymell Coleg Gwent ar gyfer cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae\u2019n eich gosod ar y trywydd cywir i symud i\u2019r lefel nesaf a rhoi\u2019r addysg gywir er mwyn i chi ragori.<\/p><\/blockquote>\n<h3 class=\"fs_bold fs_14\">Gofal Plant<\/h3>\n<p>Gan gynnwys cymysgedd o waith theori a gwaith ymarferol, mae\u2019r cwrs Lefel 3 mewn <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/health-social-care-and-childcare\">Gofal Plant<\/a> yn paratoi Emily Knorz i ennill y sgiliau ar gyfer ei gyrfa yn y maes hwn yn y dyfodol.<\/p>\n<blockquote><p>Rwy\u2019n hoffi dysgu am blant a mynd i\u2019m lleoliad gwaith mewn ysgol gynradd ddau ddiwrnod yr wythnos er mwyn rhoi\u2019r hyn fy mod wedi\u2019i ddysgu ar waith wrth ryngweithio \u00e2\u2019r plant. Mae ennill profiad gwaith ar gyfer y dyfodol yn wych.<\/p><\/blockquote>\n<h3 class=\"fs_bold fs_14\">Y Cyfryngau Creadigol<\/h3>\n<p>Roedd William Serna yn dymuno gwella ei sgiliau drwy astudio ar gwrs Lefel 2 mewn <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/art-design-media-and-photography\">Cynhyrchu yn y Cyfryngau Digidol Creadigol.<\/a><\/p>\n<blockquote><p>Es i ar daith Erasmus i Tenerife gyda\u2019r coleg yn ddiweddar. Roedd yn gwrs byr er mwyn datblygu ein sgiliau ffotograffiaeth a phrofi diwylliannau eraill a dysgu amdanynt. Rwy\u2019n hoff o\u2019r rhyddid y mae\u2019r athrawon yn ei roi i ni ac maent yn gymwynasgar iawn hefyd.<\/p><\/blockquote>\n<h3 class=\"fs_bold fs_14\">Chwaraeon<\/h3>\n<p>Mae gan Lowri Stephens angerdd am b\u00eal-rwyd ac mae\u2019n dymuno ennill gradd mewn Chwaraeon felly dewisodd astudio ar y cwrs Diploma mewn <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/sport-and-fitness\">Datblygu a Hyfforddi Chwaraeon a Ffitrwydd.<\/a><\/p>\n<blockquote><p>Nid wyf yn hoffi arholiadau felly dewisais gwrs BTEC. Mae\u2019r coleg yn wahanol i\u2019r ysgol, mae\u2019r tiwtoriaid yn gefnogol iawn ond rydych chi\u2019n cael eich trin fel oedolyn yn fwy.<\/p><\/blockquote>\n<h3 class=\"fs_bold fs_14\">Adeiladu<\/h3>\n<p>Mae Iwan Halliday yn mwynhau ochr ymarferol ei gwrs Lefel 2 mewn <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/construction\">Plymio<\/a>.<\/p>\n<blockquote><p>Rwy\u2019n mwynhau elfen ymarferol y cwrs plymio. Mae treulio diwrnod llawn yn gwneud gwaith ymarferol a dysgu am yr holl offer a gosodiadau yn dda. Rydym yn dysgu am elfennau sylfaenol plymio \u2013 megis plygu pibau a sodro \u2013 yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi, gosod rheiddiaduron, landeri a phibelli carthion.<\/p><\/blockquote>\n<h3 class=\"fs_bold fs_14\">Gwyddoniaeth<\/h3>\n<p>Aeth Mudasser Younes Yacoub i gampws Casnewydd i astudio <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/science\">Gwyddoniaeth Gymhwysol<\/a> ar \u00f4l meddu ar ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ers yn ifanc iawn.<\/p>\n<blockquote><p>Rydym yn dysgu am bethau y gallwn ni eu defnyddio yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Gan ddefnyddio bioleg, gallaf helpu rhywun a defnyddio fy ngwybodaeth i wella bywydau pobl eraill ac mae hynny\u2019n fy ngwneud yn falch.<\/p><\/blockquote>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Darganfod eich galwedigaeth yn Coleg Gwent. <strong><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\">Ymgeisiwch nawr<\/a><\/strong> i astudio cwrs galwedigaethol a dechreuwch ar eich taith tuag at eich gyrfa ddewisol fis Medi yma gyda\u2019n hystod o <strong><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\">gymwysterau llawn amser a rhan amser am ddim.<\/a><\/strong>.<\/p>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":33327,"template":"","category":[15,66,10],"class_list":["post-7532","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-college-life","category-news","category-success-stories"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7532","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7532\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":33355,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7532\/revisions\/33355"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/33327"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7532"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7532"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}