{"id":7518,"date":"2023-09-18T08:32:27","date_gmt":"2023-09-18T07:32:27","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/construction-starts-on-hive-high-value-engineering-centre\/"},"modified":"2025-07-08T14:40:39","modified_gmt":"2025-07-08T13:40:39","slug":"construction-starts-on-hive-high-value-engineering-centre","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/construction-starts-on-hive-high-value-engineering-centre","title":{"rendered":"Dechrau gwaith adeiladu Canolfan Beirianneg Gwerth Uchel HiVE"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Bydd y cyfleuster newydd HiVE yn darparu hyfforddiant o'r radd flaenaf<\/h2>\n<p>Mae\u2019r contractwyr ISG wedi dechrau gwaith ar safle hen ffatri Monwel Hankison, Glynebwy, i greu safle addysg \u00f4l-16 newydd uwch dechnoleg ar gost o filiynau o bunnau.<\/p>\n<p>Bydd y safle peirianneg gwerth uchel (HiVE) newydd 21,808 tr sg yn darparu hyfforddiant ac addysg o\u2019r math diweddaraf un ar gyfer pobl ifanc a busnesau ym meysydd roboteg, uwch ddeunyddiau a gweithgynhyrchu, a thechnolegau digidol a galluogol.<\/p>\n<p>Mewn partneriaeth gyda Coleg Gwent a phartneriaid diwydiant, sicrhaodd y cyngor dros \u00a312 miliwn o raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod ag adeilad yr hen ffatri, oedd yn segur, yn \u00f4l i ddefnydd a chreu cyfleuster HiVE.<\/p>\n<p>Caiff y cyfleuster ei leoli ar y safle 1.96 erw yng Nglynebwy, safle hen adeilad Monwel Hankison ar Heol Letchworth.<\/p>\n<p>Yn agos at ganol tref Glynebwy a Coleg Gwent, Hafan Dysgu Blaenau Gwent, bydd gofod addysgu ansawdd uchel gyda darpariaeth ar gyfer hyd at 600 o fyfyrwyr, ynghyd ag ystafelloedd dosbarth, ardaloedd astudio ac amrywiaeth o ofodau gweithdy. Gosodir roboteg ac offer gweithgynhyrchu o\u2019r math diweddaraf un yn y gofod a byddant ar gael i\u2019w defnyddio gan fyfyrwyr \u00f4l-16 a busnesau sy\u2019n defnyddio technolegau newydd.<\/p>\n<p>Yn ychwanegol, ar draws Blaenau Gwent ac ardal Blaenau\u2019r Cymoedd, bydd gan ysgolion cynradd ac uwchradd fynediad i HiVE a byddant yn medru cael darlithwyr gwadd ac arddangosiadau i helpu dealltwriaeth o fyd gwaith drwy brofiadau byd go iawn a mynediad i offer tu allan i alluedd ysgolion, sy\u2019n aml yn gyfyngedig.<\/p>\n<p>Bydd y cyfleuster ar gael i breswylwyr o bob rhan o Gymru a bydd ganddo\u2019r cylch gorchwyl i annog dysgwyr a myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir i yrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).<\/p>\n<p>Y bwriad yw cwblhau\u2019r gwaith adeiladu erbyn Hydref 2024 mewn pryd i groesawu myfyrwyr, yn cynnwys rhai sydd wedi cofrestru ar gyrsiau peirianneg yn Coleg Gwent o Hydref 2015.<\/p>\n<p>Caiff y prosiect ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig a \u00a33.9 miliwn o Raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Gweledigaeth Cymoedd Technoleg yw creu ffocws technoleg uchel egn\u00efol a gyda\u2019r gorau yn y byd ar gyfer cwmn\u00efau gweithgynhyrchu o bob maint sy\u2019n seiliedig yng Nghymru gan gwmpasu llawer o is-sectorau allweddol, yn cynnwys digidol, seibr, deallusrwydd artiffisal, roboteg a gweithgynhyrchu gan ddarparu swyddi heriol, gwerth chweil a gwerthfawr. Mae\u2019r rhaglen yn anelu i annog mabwysiadu technolegau digidol a datblygu uwch dechnolegau gwerth uchel sy\u2019n cefnogi diwydiannau o\u2019r math diweddaraf tebyg i 5G, technoleg batri ac ymchwil i gerbydau modurol ac ac awtonomaidd.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Guy Lacey, Pennaeth Coleg Gwent:<\/strong><\/p>\n<p>\u201cEin gweledigaeth yw \u2018newid bywydau drwy ddysgu\u2019. Mae hyn yn golygu ein bod yn ymroddedig i\u2019r bobl ifanc sy\u2019n byw yn y lleoedd a wasanaethwn, gan roi\u2019r gefnogaeth iddynt dyfu a datblygu.<\/p>\n<p>\u201cWrth i\u2019r economi lleol alw am fwy o arbenigedd mewn meysydd STEM, mae Coleg Gwent yn anelu i baratoi gweithlu\u2019r dyfodol mewn cyfleuster arbenigol fydd yn rhoi mynediad i ddysgwyr i dechnoleg o\u2019r math diweddaraf ac arloesedd sy\u2019n adlewyrchu safonau\u2019r diwydiant.<\/p>\n<p>\u201cBydd arbenigwyr y diwydiant yn cefnogi gyda chwricwlwm wedi ei ddiweddaru, gan sicrhau ein bod yn cyflawni rhagoriaeth ac arbenigedd i\u2019r ardal fydd yn cyfrannu at dwf economaidd, cynyddu cyfleoedd swydd a gwella sgiliau yn y gymuned.\u201d<\/p>\n<p><strong>Meddai\u2019r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio Cyngor Blaenau Gwent:<br \/>\n<\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae hwn yn brosiect mor gyffrous a gafodd ei hwyluso gan y cyngor; mae medru datblygu cyfleuster addysg a hyfforddiant o\u2019r math diweddaraf un yma ym Mlaenau Gwent mewn partneriaeth gyda Coleg Gwent i gefnogi ein cymuned fusnes yn newyddion gwych. Rwy\u2019n sicr y bydd hyn yn sbardun i greu swyddi lleol sgil uchel a thwf economaidd hirdymor ar gyfer yr ardal\u201d.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru: <\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0\"<\/strong>Bydd y cyfleuster newydd gwych yma yn helpu i ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, gan godi uchelgais a rhoi mynediad i bobl ifanc i\u2019r sgiliau maent eu hangen ar gyfer gyrfaoedd ar gyflogau da yn niwydiannau\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cBydd  bod \u00e2 chronfa o bobl ifanc dalentog yn allweddol wrth gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol o greu canolbwynt uwch dechnoleg, egn\u00efol yn y cymoedd a denu mewnfuddsoddwyr yn y sector gweithgynhyrchu uwch.\u201d<\/p>\n<p><strong>Darllenwch fwy am ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/estates-developments\">datblygiad adeiladu HiVE<\/a>\u00a0yma.<\/strong><\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<div class=\"shareicons\">\n<p class=\"shareicons_title fs_bold fs_3\">Share this article:<\/p>\n<div class=\"shareicons_icons\">\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/sharer\/sharer.php?u=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/construction-starts-on-hive-high-value-engineering-centre\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-facebook-f fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"http:\/\/twitter.com\/share?text=Construction%20starts%20on%20HiVE%20High%20Value%20Engineering%20Centre&amp;url=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/construction-starts-on-hive-high-value-engineering-centre\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-twitter fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/shareArticle?mini=true&amp;url=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/construction-starts-on-hive-high-value-engineering-centre&amp;title=Construction%20starts%20on%20HiVE%20High%20Value%20Engineering%20Centre&amp;summary=The%20new%20High%20Value%20Engineering%20(HiVE)%20facility%20will%20provide%20state-of-the%20art%20training%20and%20education%20for%20young%20people%20and%20businesses%20in%20the%20fields%20of%20robotics,%20advanced%20materials%20and%20manufacturing,%20and%20digital%20and%20enabling%20technologies.\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-linkedin-in fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/api.whatsapp.com\/send?text=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/construction-starts-on-hive-high-value-engineering-centre\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-whatsapp-square fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"mailto:?subject=Construction%20starts%20on%20HiVE%20High%20Value%20Engineering%20Centre&amp;body=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/construction-starts-on-hive-high-value-engineering-centre\" target=\"_blank\"><i class=\"fas fa-envelope fs_7 colour12\"><\/i><\/a>\n\t\t\t\t\t\t<\/div>\n<\/p><\/div>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":22147,"template":"","category":[66],"class_list":["post-7518","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_force_visibility":null,"pp_subpost_visibility":null,"pp_inherited_force_visibility":null,"pp_inherited_subpost_visibility":null,"pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7518","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7518\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7720,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7518\/revisions\/7720"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22147"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7518"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7518"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}