{"id":7516,"date":"2023-08-30T15:29:31","date_gmt":"2023-08-30T14:29:31","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/coleg-gwent-launches-first-in-wales-access-to-medicine-course\/"},"modified":"2025-03-25T15:11:24","modified_gmt":"2025-03-25T15:11:24","slug":"coleg-gwent-launches-first-in-wales-access-to-medicine-course","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/coleg-gwent-launches-first-in-wales-access-to-medicine-course","title":{"rendered":"Coleg Gwent yn Lansio Cwrs Mynediad i Feddygaeth Cyntaf yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Y cwrs, a fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer Gradd Llwybr Meddygol yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.<\/h2>\n<p><span data-contrast=\"none\">Mewn symudiad arloesol tuag at gynwysoldeb a chyfle cyfartal, mae Coleg Gwent wedi ymuno ag Agored Cymru a\u2019r Athro Paul Edwards i gynnig cyfle i fyfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig astudio cwrs Mynediad i Feddygaeth.\u00a0<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">The course, which prepares students for a Medical Pathway Degree is the first of its kind in Wales.<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Mae\u2019r llwybr tuag at ddod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi bod yn llawn heriau a chyfyngiadau i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig am lawer rhy hir. Mae cyfyngiadau ariannol, diffyg arweiniad academaidd a hunan-amheuaeth yn aml wedi bod yn rhwystrau i ddarpar weithwyr meddygol proffesiynol. Fodd bynnag, bydd cwrs Mynediad i Feddygaeth Coleg Gwent yn ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r materion hyn yn uniongyrchol.<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559738\":300,\"335559739\":300,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Mae Coleg Gwent yn gweithio gyda\u2019r Athro Paul Edwards, Llawfeddyg Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i lansio\u2019r cwrs a fydd yn rhedeg am y tro cyntaf ar gampws yn Crosskeys fis Medi.\u00a0<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Oherwydd ei amlygiad i amddifadedd cymdeithasol a diffyg hyder ynddo\u2019i hun fel plentyn, mae wedi penderfynu herio\u2019r dulliau traddodiadol o gael mynediad at y maes meddygol, gyda\u2019r nod o\u2019i wneud yn fwy hygyrch.\u00a0\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Dywedodd: \u201cCefais fy magu yn y Coed Duon ac astudiais Safonau Uwch yn Coleg Gwent. Pan oeddwn i\u2019n 18 oed, doedd gen i ddim dyheadau, roeddwn i\u2019n cael trafferth gyda hyder, a doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i\u2019n ddigon da. Oherwydd y rhesymau hyn, doeddwn i ddim yn llwyddiannus. Roedd y graddau a gefais yn is na\u2019r safon, ac roeddwn yn siomedig yn fy hun. Fy nghanlyniadau Safon Uwch oedd yr alwad deffro yr oeddwn ei hangen i newid fy agwedd. Fe wnes i godi fy hun yn \u00f4l i fyny a gwthio fy hun i ymgeisio i Brifysgol Aston i astudio am Radd Baglor mewn Gwyddoniaeth drwy\u2019r broses glirio.<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">\u201cRoeddwn i\u2019n gwybod bod angen i mi weithio\u2019n andros o galed, a chyn hir saethais i frig fy mlwyddyn. Roeddwn i wedi dod o hyd i\u2019m ffordd. Ar \u00f4l fy ngradd, cwblheais ddoethuriaeth a phenderfynais yr oeddwn am ddilyn meddygaeth. Wrth dyfu i fyny yn nhref fechan yng Nghymru, roeddwn wastad yn meddwl bod gradd feddygol yn rhywbeth a oedd allan o fy nghyrraedd. Ond, yn 1991 dechreuais fy ngradd feddygol yn ysgol feddygol Southampton, ac yn fuan cyrhaeddais frig y dosbarth. Yr hyn a sylweddolais oedd fy mod yn gymaint mwy na fy ngraddau Safon Uwch.\u201d<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Wedi\u2019i gynllunio i rymuso myfyrwyr, nod y cwrs mynediad trawsnewidiol hwn yw agor drysau a pharatoi\u2019r ffordd ar gyfer unigolion talentog sydd, yn draddodiadol, wedi wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at y maes meddygaeth \u2013 boed hynny heb gyflawni\u2019r graddau yr oeddent eu heisiau yn yr ysgol, cyfyngiadau ariannol neu deimladau o hunan-amheuaeth.\u00a0<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Dywedodd Paul: \u201cPenderfynais weithio gyda Coleg Gwent i lansio\u2019r cwrs Mynediad i Feddygaeth oherwydd roeddwn am herio\u2019r system ystrydebol na allwch ymuno \u00e2\u2019r proffesiwn meddygol heb ragoriaeth academaidd a fesurir yn \u00f4l graddau Safon Uwch. Rydym yn targedu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yng Nhymru neu\u2019r rheini a allai fod wedi colli\u2019r cyfle i astudio meddygaeth yn y brifysgol oherwydd iddyn nhw wynebu rhwystrau yn eu bywydau personol. Mae yna lawer iawn o dalent sy\u2019n cael ei danddefnyddio yng Nghymru, ac felly drwy dargedu\u2019r myfyrwyr hyn, byddem yn helpu i wneud y proffesiwn yn fwy hygyrch, yn fwy amrywiol ac yn fwy cynrychioliadol o\u2019n cymuned leol.\u201d<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559738\":300,\"335559739\":300,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Mae\u2019r cwrs yn llwybr astudiaeth ddwys flwyddyn o hyd sy\u2019n cwmpasu cemeg, mathemateg a bioleg. Dyma\u2019r cyntaf o\u2019i fath yng Nghymru a bydd yn codi pobl i hyd at dair gradd A mewn Gwyddoniaeth \u2014 y cynnig derbyn traddodiadol ar gyfer astudio gradd meddygaeth.\u00a0<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559738\":300,\"335559739\":300,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Fel arfer, mae\u2019n cymryd hyd at 15 mlynedd o hyfforddiant i ddod yn feddyg arbenigol cwbl gymwys, gan gynnwys pum mlynedd yn yr ysgol feddygol ar gost o hyd at \u00a350,000 y flwyddyn mewn ffioedd. Nid oes mawr o syndod taw dim ond 6% o feddygon sydd yn dod o\u2019r codau post tlotaf yng Nghymru.<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559738\":300,\"335559739\":300,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Dywedodd: \u201cMae\u2019r cwrs Mynediad i Feddygaeth yn gwrs rhad ac am ddim, sy\u2019n golygu bod myfyrwyr yn gweithio tuag at rywbeth a fydd yn cyfateb i radd sylfaenol mewn meddyginiaeth, heb unrhyw gost. Y nod yw helpu i annog pobl sy\u2019n wynebu heriau ariannol i gymryd rhan, a lleddfu\u2019r straen economaidd sydd ar fyfyrwyr, gan roi\u2019r amser iddyn nhw ganolbwyntio ar eu hastudiaethau a meithrin eu hangerdd dros feddygaeth.\u201d<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559738\":300,\"335559739\":300,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Nodwedd amlwg o\u2019r cwrs Mynediad i Feddygaeth yw\u2019r pwyslais ar amlygiad clinigol ymarferol. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i arsylwi gweithdrefnau clinigol a gofal claf o dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol, gan gynnwys Paul. Bydd y cyfle dysgu hwn nid yn unig yn cyfoethogi eu gwybodaeth feddygol ond bydd hefyd yn arfogi\u2019r myfyrwyr gyda\u2019r proffesiynoldeb sydd yn angenrheidiol ar gyfer llwyddiant yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559738\":300,\"335559739\":300,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Bu Dr Jamie Read, Deon Addysg Feddygol a Geriatregydd Arbenigol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn cydweithio \u00e2 Coleg Gwent a\u2019r Athro Paul Edwards i ddatblygu\u2019r cwrs ar gampws Crosskeys. Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfweliadau ar gyfer ei hysgol feddygol i\u2019r myfyrwyr a fydd yn cwblhau\u2019r cwrs yn llwyddiannus.<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559738\":300,\"335559739\":300,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Dywedodd Dr Read: \u201cMae bod yn feddyg yn yrfa hynod werth chweil, ond yn un nad yw wastad wedi bod yn hygyrch i bobl o bob cefndir. Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol, ac mae\u2019r cwrs hwn yn gam andros o bwysig i ddelio \u00e2 rhai o\u2019r anghydraddoldebau wrth ymgeisio ar gyfer ysgol feddygol. Mae ffocws clinigol y cwrs yn arbennig o ffafriol, a bydd yn rhoi ymgeiswyr ysgolion meddygol y dyfodol mewn sefyllfa gref iawn.\u201d<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Dywedodd Paul: \u201cTrwy ehangu mynediad at addysg feddygol, mae Coleg Gwent yn cymryd cam sylweddol tuag at greu gweithlu gofal iechyd mwy amrywiol a chynhwysol. Nod y cwrs Mynediad i Feddygaeth yw meithrin amgylchedd lle gall myfyrwyr o bob cefndir ffynnu, waeth beth eu hamgylchiadau personol, methiannau hanesyddol neu anfanteision ariannol. Bydd y coleg yn adolygu pob cais fesul achos ond mae\u2019r cwrs hwn yn bennaf ar gyfer y rhai o gefndiroedd \u2018ehangu mynediad\u2019 sydd ag angerdd gwirioneddol dros feddygaeth.\u201d<\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559738\":300,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Dyfernir y Diploma Mynediad i Addysg Uwch gan <a href=\"https:\/\/www.agored.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Agored Cymru.\u00a0<\/a><\/span><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559738\":300,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Wedi\u2019i leoli ym Mangor a Chaerdydd, mae Agored Cymru yn gorff dyfarnu ac yn asiantaeth milysu mynediad, yn datblygu cymwysterau dwyieithog, achrediadau pwrpasol a gwasanaethau ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru a thu hwnt. Wedi\u2019u rheoleiddio gan Gymwysterau Cymru (CC), Ofqual a\u2019r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA), mae\u2019r cymwysterau dwyieithog hyblyg a hygyrch yn cael eu cydnabod yn eang, eu gwerthfawrogi a\u2019u parchu gan y sector addysg, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr.<\/p>\n<p><span data-ccp-props='{\"201341983\":0,\"335559738\":300,\"335559739\":0,\"335559740\":240}'>\u00a0<\/span><span data-contrast=\"none\">I ddysgu rhagor ac i wneud cais, cliciwch <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/course\/AC0037\/agored-cymru-access-to-he-medicine-level-3\">yma<\/a><\/span><\/p>\n<p>\u00a0<\/p>\n<div class=\"shareicons\">\n<p class=\"shareicons_title fs_bold fs_3\">Share this article:<\/p>\n<div class=\"shareicons_icons\">\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/sharer\/sharer.php?u=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/coleg-gwent-launches-first-in-wales-access-to-medicine-course\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-facebook-f fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"http:\/\/twitter.com\/share?text=Coleg%20Gwent%20Launches%20First%20in%20Wales%20Access%20to%20Medicine%20Course&amp;url=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/coleg-gwent-launches-first-in-wales-access-to-medicine-course\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-twitter fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/shareArticle?mini=true&amp;url=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/coleg-gwent-launches-first-in-wales-access-to-medicine-course&amp;title=Coleg%20Gwent%20Launches%20First%20in%20Wales%20Access%20to%20Medicine%20Course&amp;summary=Coleg%20Gwent%20has%20joined%20forces%20with%20Agored%20Cymru%20and%20Professor%20Paul%20Edwards%20to%20offer%20students%20from%20less%20advantaged%20backgrounds%20an%20opportunity%20to%20study%20an%20Access%20to%20Medicine%20course.\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-linkedin-in fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"https:\/\/api.whatsapp.com\/send?text=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/coleg-gwent-launches-first-in-wales-access-to-medicine-course\" target=\"_blank\"><i class=\"fab fa-whatsapp-square fs_7 colour12\"><\/i><\/a><br \/>\n\t\t\t\t\t\t\t<a href=\"mailto:?subject=Coleg%20Gwent%20Launches%20First%20in%20Wales%20Access%20to%20Medicine%20Course&amp;body=https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/news\/coleg-gwent-launches-first-in-wales-access-to-medicine-course\" target=\"_blank\"><i class=\"fas fa-envelope fs_7 colour12\"><\/i><\/a>\n\t\t\t\t\t\t<\/div>\n<\/p><\/div>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":7725,"template":"","category":[66],"class_list":["post-7516","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7516","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7516\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7724,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7516\/revisions\/7724"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7725"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7516"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7516"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}