{"id":7482,"date":"2024-02-02T11:54:03","date_gmt":"2024-02-02T11:54:03","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/understanding-predicted-grades\/"},"modified":"2026-04-30T13:06:08","modified_gmt":"2026-04-30T12:06:08","slug":"understanding-predicted-grades","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/understanding-predicted-grades","title":{"rendered":"Deall Graddau Rhagfynegol"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <p>Gall graddau rhagfynegol fod yn rhan bwysig o\u2019r broses dderbyn yma yn Coleg Gwent, felly mae\u2019n bwysig cael dealltwriaeth glir o raddau rhagfynegol a sut y gallant effeithio ar eich proses ymgeisio.<\/p>\n<p class=\"translation-block\">Beth yw graddau rhagfynegol, felly? Darperir graddau rhagfynegol gan ddarlithydd\/athro cyn i chi sefyll eich arholiadau, ac maent yn adlewyrchiad o\u2019r canlyniadau y gallwch ddisgwyl eu cyflawni yn eich TGAU neu Lefel A (neu arholiadau cyfatebol).<\/p>\n<h3 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Pam mae nhw\u2019n bwysig?<\/h3>\n<p>Mae graddau rhagfynegol yn rhan bwysig o\u2019r broses ymgeisio gan eu bod yn gadael i ni gael golwg ar eich galluoedd academaidd cyn i chi ymuno \u00e2 ni. Mae gan lawer o\u2019n cyrsiau ofynion mynediad er mwyn sicrhau bod gennych y sgiliau a\u2019r wybodaeth gywir i gwblhau\u2019r cwrs o\u2019ch dewis yn llwyddiannus.<\/p>\n<p class=\"translation-block\">Mae graddau rhagfynegol yn arbennig o bwysig i unrhyw un sy\u2019n gwneud cais am gyrsiau addysg uwch neu lefel uwch. Gall y cyrsiau hyn fod yn heriol iawn, felly awgrymir weithiau eich bod yn dilyn cwrs ar y lefel is yn gyntaf, er mwyn helpu i ddatblygu\u2019r wybodaeth a\u2019r sgiliau allweddol a fydd yn eich helpu i lwyddo yn eich astudiaethau.<\/p>\n<p>Mae graddau rhagfynegol hefyd yn bwysig i chi fel dysgwr oherwydd gallan nhw eich helpu i fesur eich cynnydd. Gall hyn eich helpu i osod nodau er mwyn i chi fynd lle rydych angen bod!<\/p>\n<h3 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Beth os nad yw fy ngraddau rhagfynegol yn bodloni\u2019r gofynion mynediad?<\/h3>\n<p>Os nad yw eich graddau rhagfynegol yn bodloni\u2019r gofynion mynediad \u2013 peidiwch \u00e2 rhoi\u2019r gorau iddi!<\/p>\n<p>Os ydych yn teimlo y gallwch gyflawni\u2019r gofynion mynediad, gweithiwch ac adolygwch yn galed a siarad \u00e2\u2019ch athrawon\/tiwtoriaid am yr hyn y gallwch ei wneud i wella eich graddau rhagfynegol. Mae\u2019n annhebygol y byddan nhw\u2019n codi eich graddau jyst achos eich bod yn gofyn \u2013 ac os gwnaethon nhw hynny, efallai byddech yn cael eich siomi ar ddiwrnod canlyniadau. Efallai y gallant awgrymu cynllun astudio neu gyfle arall a allai helpu i wella\u2019ch graddau.<\/p>\n<p>Siaradwch \u00e2 ni! Os ydych dal i fod yn ansicr, gallwch siarad \u00e2\u2019n t\u00eem recriwtio myfyrwyr am rai rhaglenni cyn-fynediad amgen ar ffurf gwrs lefel is a allai fod ar gael er mwyn helpu eich gosod ar y llwybr cywir.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-38324 lazyload\" data-src=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/A-level-banner-2-1185-\u00d7-474px.png\" alt=\"Students smiling on campus\" width=\"1185\" height=\"474\" data-srcset=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/A-level-banner-2-1185-\u00d7-474px.png 1185w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/A-level-banner-2-1185-\u00d7-474px-300x120.png 300w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/A-level-banner-2-1185-\u00d7-474px-1024x410.png 1024w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/A-level-banner-2-1185-\u00d7-474px-768x307.png 768w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/A-level-banner-2-1185-\u00d7-474px-18x7.png 18w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/A-level-banner-2-1185-\u00d7-474px-680x272.png 680w\" data-sizes=\"(max-width: 1185px) 100vw, 1185px\" src=\"data:image\/svg+xml;base64,PHN2ZyB3aWR0aD0iMSIgaGVpZ2h0PSIxIiB4bWxucz0iaHR0cDovL3d3dy53My5vcmcvMjAwMC9zdmciPjwvc3ZnPg==\" style=\"--smush-placeholder-width: 1185px; --smush-placeholder-aspect-ratio: 1185\/474;\" \/><\/p>\n<h3 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Beth os nad yw fy ysgol\/coleg yn darparu graddau rhagfynegol?<\/h3>\n<p>Nid yw pob ysgol\/coleg yn darparu graddau a ragwelir, ond peidiwch \u00e2 phoeni! Gallwch chi wneud cais o hyd, ond mae angen i chi gynnwys graddau rydych chi\u2019n gobeithio eu cyflawni yn eich cais. Mae\u2019n bwysig bod yn realistig er mwyn i chi fod yn si\u0175r eich fod yn gosod eich hun ar y llwybr cywir.<\/p>\n<h3 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Ailsefyll eich Mathemateg a Saesneg yn Coleg Gwent<\/h3>\n<p class=\"translation-block\">Yn Coleg Gwent, rydym yn cymryd eich datblygiad mewn Mathemateg a Saesneg o ddifrif. Rydym yn cydnabod bod mathemateg a Saesneg da yn asedau hanfodol yn y farchnad swyddi heddiw, yn ogystal \u00e2 bywyd bob dydd. Felly os na chawsoch chi\u2019r graddau sydd eu hangen arnoch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg ar gyfer y dyfodol rydych chi ei eisiau, gallwn roi gyfle arall i chi eu gwella ochr yn ochr \u00e2\u2019ch cwrs, yn ogystal \u00e2\u2019ch helpu i gyrraedd y lefel rydych chi ei hangen.<\/p>\n<p><iframe style=\"aspect-ratio: 16 \/ 9; width: 100%; max-width: 800px; margin: 20px auto; display: block;\" title=\"GCSEs at Coleg Gwent\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/yrA3IMijXDQ?si=uDjrgdj-hcM2OqDL\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\"><\/iframe><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Fel dysgwr llawn amser yn y Coleg, bydd Mathemateg a Saesneg yn rhan o\u2019ch rhaglen ddysgu, lle byddwn yn eich cefnogi i ennill y cymwysterau Mathemateg a Saesneg sydd eu hangen ar gyfer dilyniant eich cwrs, cyflogwyr a\u2019r brifysgol. Os na wnaethoch ennill gradd C neu uwch yn eich TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith, byddwch yn bwrw ymlaen i astudio\u2019r pynciau hyn yn y Coleg. Yn dibynnu ar eich cyrhaeddiad, bydd hyn yn golygu ail eistedd naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol.<\/p>\n<h3 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Beth i\u2019w wneud ar \u00f4l i chi gael eich graddau rhagfynegol?<\/h3>\n<p class=\"translation-block\">Gwnewch gais am y cwrs o\u2019ch dewis! Unwaith eich bod wedi cael eich graddau rhagfynegol, gallwch wneud cais ar unwaith \u2014 does dim angen aros tan ddiwrnod canlyniadau. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi eich trefniadau teithio a gwneud cais am unrhyw gymorth ariannol a allai fod ar gael i chi ymlaen llaw.<\/p>\n<p>Ddim yn si\u0175r am eich graddau? Cysylltwch \u00e2 ni. Mae ein t\u00eem recriwtio myfyrwyr wrth law i helpu ac mae ganddyn nhw lawer o brofiad o helpu dysgwyr i ddod o hyd i\u2019r cwrs sydd ei angen arnyn nhw i\u2019w gosod ar y llwybr cywir. <strong>Cysylltwch \u00e2 ni ar <\/strong><a href=\"mailto:helo@coleggwent.ac.uk\"><strong>helo@coleggwent.ac.uk<\/strong><\/a><strong> neu ffoniwch ni ar 01495 333 777.<\/strong><\/p>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":21848,"template":"","category":[66],"class_list":["post-7482","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7482","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7482\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":38326,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7482\/revisions\/38326"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21848"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7482"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7482"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}