{"id":7304,"date":"2025-12-10T13:51:38","date_gmt":"2025-12-10T13:51:38","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/ready-for-a-career-change-access-to-he-is-your-pathway-to-a-degree\/"},"modified":"2026-01-12T12:00:33","modified_gmt":"2026-01-12T12:00:33","slug":"your-pathway-to-a-degree","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/your-pathway-to-a-degree","title":{"rendered":"Barod i newid gyrfa? Mynediad i AU yw eich llwybr at radd"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <p>Mae rhai pobl yn dweud bod addysg yn daith gydol oes ac, yn Coleg Gwent, rydym yn cytuno\u2019n llwyr. Rydym yn cydnabod bod llawer ohonom ni yn cymryd saib o addysg ar amrywiaeth o adegau drwy gydol ein bywydau gan fynd yn \u00f4l at addysg pan fydd yn gyfleus. Wedi\u2019r cyfan, nid yw addysg yn dod i ben wrth adael yr ysgol yn 16 oed. Mae\u2019n parhau yn y coleg, yn y brifysgol, yn y gweithle ac yn y gymuned ehangach fel rhan o\u2019n bywydau o ddydd i ddydd. Felly, beth bynnag yw\u2019ch cam bywyd a beth bynnag yw\u2019ch taith addysg hyd yma, nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu sgil newydd, i ddilyn angerdd, i wireddu breuddwyd neu i archwilio llwybr gyrfa sy\u2019n hollol newydd.<\/p>\n                        <\/div>\n                                                                                                    <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg--iframe wyzsiwyg-float\">\n                            <iframe loading=\"lazy\" width=\"1038\" height=\"584\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/eF1H3YSk_SI\" title=\"Mynediad Coleg Gwent (Llwybr at Radd) - Dyma Sara\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n                                                    <\/div>\n                                                                            <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Rhowch Gynnig ar Fynediad i AU<\/h2>\n<p class=\"translation-block\">Mae <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/access-to-higher-education\" target=\"_self\">cyrsiau Diploma Mynediad i Addysg Uwch<\/a> yn llwybrau at radd. Mae llawer o bobl yn astudio ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch yn Coleg Gwent am eu bod yn dymuno newid gyrfa neu fynd i\u2019r brifysgol ond nid ydynt yn meddu ar y cymwysterau traddodiadol gofynnol er mwyn cael mynediad.<\/p>\n<p>Penderfynodd Madison Bones astudio Mynediad i Blismona yng Parth Dysgu Blaenau Gwent, eglurodd;<\/p>\n<blockquote><p>\u201cMae\u2019r cwrs mynediad hwn yn fy helpu i fynd i\u2019r brifysgol heb orfod cyflawni fy astudiaethau Safon Uwch. Rwy\u2019n dwlu ar ryddid y cwrs. Mae\u2019r tiwtoriaid mor barod eu cymwynas a chyfeillgar, maent yn helpu i fy ysgogi i wneud fy ngorau glas gan obeithio ennill r\u00f4l yn yr heddlu.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p class=\"translation-block\">Fel cymhwyster lefel 3, mae cyrsiau Mynediad yn cyfateb i gyrsiau <a style=\"background-color: #ffffff\" href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/a-levels\" target=\"_self\">Safon Uwch<\/a> a <a style=\"background-color: #ffffff\" href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/advanced-skills-baccalaureate\" target=\"_self\">Bagloriaeth Cymru<\/a> gan eich paratoi ar gyfer gofynion astudio ar lefel gradd israddedig a rhoi llwybr i\u2019r brifysgol i chi. Mae\u2019r llwybr carlam un flwyddyn hwn i <a style=\"background-color: #ffffff\" href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/undergraduates\" target=\"_self\">addysg uwch<\/a> wedi\u2019i dderbyn yn eang ar gyfer mynediad i brifysgolion yn y DU a byddwch chi\u2019n ennill yr wybodaeth a\u2019r sgiliau astudio perthnasol er mwyn symud ymlaen a llwyddo.<\/p>\n<p>Ond, gall dychwelyd i fyd addysg fel dysgwr h\u0177n ar \u00f4l cymryd saib fod yn anodd a gall mynd yn \u00f4l i\u2019r ystafell ddosbarth deimlo\u2019n frawychus. Felly, mae\u2019r cyrsiau hyn wedi\u2019u dylunio i fod yn heriol a byddant yn eich gwthio chi i dyfu yn bersonol, yn academaidd ac yn broffesiynol ond ni fyddwch chi\u2019n cael eich taflu i mewn i\u2019r pen dwfn. Yn Coleg Gwent, byddwch chi\u2019n cael eich cefnogi ar bob cam o\u2019r daith wrth i ni eich helpu chi i ddatblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn eich maes o\u2019ch dewis, paratoi ar gyfer astudiaethau\u2019r brifysgol, a\u2019ch paratoi ar gyfer llwyddo.<\/p>\n<p>Bydd ein cyrsiau Mynediad yn adnewyddu eich sgiliau astudio, yn magu eich hyder ac yn addysgu technegau newydd i chi a fydd yn eich helpu chi ar eich ffordd i ddod yn fyfyriwr llwyddiannus yn y brifysgol gan olygu bod gradd o\u2019r brifysgol o fewn eich cyrraedd hyd yn oed os nad ydych chi wedi astudio ers blynyddoedd maith ac nid ydych chi\u2019n meddu ar gymwysterau blaenorol. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran oedran, nid oes rhagofynion o ran cymwysterau ac nid oes cyfyngiadau ar eich cyrchfan!<\/p>\n<p>Dewisodd Gemma Mynediad i Nyrsio a Gofal Meddygol ac Iechyd, gan ddweud;<\/p>\n<blockquote><p>\u201cAr \u00f4l y coleg, rwy\u2019n gobeithio symud ymlaen i\u2019r brifysgol a chymhwyso fel bydwraig. Roeddwn i\u2019n nerfus wrth ddychwelyd i\u2019r coleg fel dysgwr h\u0177n ond rwy\u2019n teimlo\u2019n gartrefol yma ac, yn bennaf oll, mae pawb yma i ddysgu a gwella.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">I ble fydd Mynediad i AU yn fy arwain?<\/h2>\n<p>Mae cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn agor drysau i lwybrau gyrfa newydd a chyffrous mewn ystod o feysydd pwnc poblogaidd felly gallwch chi gyflawni eich nodau a\u2019ch uchelgeisiau ar unrhyw adeg yn eich bywyd. Yn 2022, derbyniwyd 767,000 o bobl trwy UCAS, gan symud ymlaen i astudio ystod eang o bynciau ar lefel israddedig a chamu i lwybrau gyrfa cyffrous newydd. Mewn gwirionedd, enillodd 78% o raddedigion mewn Addysg Uwch gyflogaeth mewn swyddi sgiliau uchel!<\/p>\n<p>Felly, pa un ai ydych eisiau dod yn Gyfreithiwr, Seicolegydd, Deintydd, Banciwr, Gweithiwr Cymdeithasol neu\u2019n Fiolegydd Morol, mae digon o lwybrau Mynediad i AU ar gael yn Coleg Gwent er mwyn ail gydio yn eich addysg a chyfoethogi eich gyrfa:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/course\/AC0027\">Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/course\/AC0037\">Meddygaeth<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/course\/AC0003\">Astudiaethau Nyrsio, Meddygol a Gofal Iechyd<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/course\/AC0029\">Gwyddoniaeth\/ Gwyddor Fforensig<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p class=\"translation-block\"><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/our-courses\/full-time\/access-to-higher-education\" target=\"_self\">Gwnewch gais nawr<\/a> i ddechrau eich taith at radd.<\/p>\n                        <\/div>\n                                                                                                    <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg--iframe wyzsiwyg-float\">\n                            <iframe loading=\"lazy\" width=\"1038\" height=\"584\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/HuLSvnz66T4?list=PLFNeewjoCG8oGfZc_VKHj_VUTwXU2fcXZ\" title=\"Cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch | Eich coleg o ddewis\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n                                                    <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":19221,"template":"","category":[15,66],"class_list":["post-7304","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-college-life","category-news"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7304","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":13,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7304\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":36058,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7304\/revisions\/36058"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19221"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7304"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7304"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}