{"id":7287,"date":"2024-05-04T08:00:37","date_gmt":"2024-05-04T07:00:37","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/are-stem-subjects-the-key-to-your-future\/"},"modified":"2025-09-30T16:17:00","modified_gmt":"2025-09-30T15:17:00","slug":"are-stem-subjects-the-key-to-your-future","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/are-stem-subjects-the-key-to-your-future","title":{"rendered":"Ai pynciau STEM yw'r allwedd i'ch dyfodol?"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <p>Yn \u00f4l ymchwil diweddar, mae disgwyl i swyddi STEM gyfrif am 7.8% o\u2019r holl swyddi yn y DU. Mae pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn dod yn fwyfwy pwysig yn ein bywydau bob dydd ac yn ffurfio\u2019r sylfeini ar gyfer Economi Cymru.<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Gyrfaoedd mewn STEM \u2013 beth mae STEM yn ei olygu i mi?<\/h2>\n<p>Os ydych yn dewis pynciau STEM, mae eich rhagolygon gyrfa yn edrych yn addawol iawn! Bydd eich cyfleoedd gyrfa yn amrywiol gyda nifer o ddrysau ar agor i chi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Nid yn unig y mae galw cynyddol am sgiliau STEM ac maent yn hanfodol i\u2019r economi, ond mae llawer o amrywiaeth hefyd:<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-16646 size-full\" src=\"https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/STEM-infographic-Welsh-1.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1\" sizes=\"auto, (max-width: 1185px) 100vw, 1185px\" srcset=\"\" alt=\"Science, Technology, Engineering and Mathematics subjects\" width=\"1185\" height=\"650\" data-srcset=\"\" \/><\/p>\n<h3 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\"><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/science\">Gwyddoniaeth<\/a><\/h3>\n<p>Mae gwyddoniaeth o\u2019n cwmpas ni bob dydd, o symudiad ceir i\u2019r meddyginiaethau a gymerwn. Wrth i wyddoniaeth ddatblygu, gallai astudio yn Coleg Gwent arwain at yrfa mewn Gwyddor Fforensig, Gwyddor Fiofeddygol, Meddygaeth, Peirianneg Roboteg, Microbioleg, Deallusrwydd Artiffisial, neu Amgylcheddaeth. Astudiodd Martyna Nawrocka Safon Uwch mewn Mathemateg, Bioleg ac Addysg Gorfforol ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent ac eglurodd \u201cer mwyn dilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth, roedd rhaid i mi astudio pynciau STEM ar lefel Safon Uwch. Dewisais astudio Bioleg, Mathemateg ac Addysg Gorfforol oherwydd bod pob un yn fy rhyfeddu yn yr ysgol a chanf\u00fbm y pynciau yn ymestynnol, difyr a chymhleth.\u201d<\/p>\n<h3 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\"><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/construction\">Adeiladu<\/a><\/h3>\n<p>Adeiladwch yrfa yn y byd adeiladu; diwydiant y mae disgwyl iddo dyfu\u2019n gyflymach yng Nghymru nac yng ngweddill y DU! O\u2019r cartrefi rydym yn byw ynddynt i\u2019r ffyrdd rydym yn gyrru arnynt, mae sawl llwybr ar gael gyda chyrsiau adeiladu Coleg Gwent \u2013 gallech ddod yn Osodwr Brics, Plymiwr, Peintiwr\/Addurnwr, Plastrwr, Saer, Peiriannydd Sifil, Pensaer, neu Drydanwr.<\/p>\n<h3 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\"><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/engineering\">Peirianneg<\/a><\/h3>\n<p>Mae peirianwyr yn hanfodol i fywyd bob dydd, o\u2019r ffonau rydym yn eu defnyddio i\u2019r awyrennau rydym yn teithio ynddynt. Mae\u2019r gofyn am beirianwyr yn uchel, yn enwedig peirianwyr benywaidd, felly mae swyddi ar gael bob amser. Dyfeisiwch eich dyfodol gyda chwrs peirianneg yn Coleg Gwent, drwy ddewis o Fecanyddol, Trydanol, Awyrofod, Amddiffyn, Morol, Modurol, Saern\u00efo a Weldio.<\/p>\n<h3 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\"><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/computing-and-digital-technology\">Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol<\/a><\/h3>\n<p>Mae technoleg yn eistedd wrth galon busnesau a bywyd bob dydd. Bydd Cymru angen 11,000 o bobl yn gweithio ym maes TG erbyn 2022. Felly, drwy astudio cyrsiau Cyfrifiadura a Thechnoleg Coleg Gwent, gallech ddod yn Ddatblygwr Meddalwedd, Dylunydd Gwe, Cynorthwyydd Desg Gymorth, neu Asiant Telegyfathrebu yn unrhyw sector, o Ofal Iechyd i Fusnes. Astudiodd Tristan Baker Gyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol ar Gampws Crosskeys oherwydd \u201cei fod yn rhoi llawer o opsiynau i mi ar \u00f4l gorffen y cwrs. Fy nodau ar \u00f4l coleg yw mynd i\u2019r brifysgol neu\u2019n syth i waith. Bydd Coleg yn fy helpu i gyflawni hyn drwy roi\u2019r sgiliau a\u2019r cyfleoedd sydd eu hangen arnaf.\u201d<\/p>\n<h3 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\"><a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/?s=maths\">Mathemateg<\/a><\/h3>\n<p>Arian sy\u2019n datod pob clo. Felly, os ydych yn dda gyda rhifau, dyma\u2019r sector i chi, o bosib, gyda rhai o\u2019r cyflogau uchaf ar gael. Gallai cymwysterau Coleg Gwent mewn Mathemateg arwain at yrfa lwyddiannus mewn Busnes, Economeg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Cyfrifeg, Cyllid, ac Yswiriant.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-16605 size-full\" src=\"https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-STEM.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1\" sizes=\"auto, (max-width: 1185px) 100vw, 1185px\" srcset=\"https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-STEM.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 1185w, https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-STEM-300x120.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 300w, https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-STEM-768x307.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 768w, https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-STEM-1024x410.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 1024w, https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-STEM-640x256.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 640w, https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-STEM-338x135.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 338w\" alt=\"STEM students at Coleg Gwent\" width=\"1185\" height=\"474\" \/><\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Rhesymau dros ddewis STEM<\/h2>\n<ul>\n<li class=\"translation-block\">Rhagolygon cyflogaeth da \u2013 mae STEM yn faes sy\u2019n tyfu. Mae mwy a mwy o swyddi sy\u2019n gofyn am sgiliau mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, ond rydym hefyd yn gweld prinder sgiliau yn y meysydd hyn. Golyga hyn os byddwch yn astudio STEM, bydd galw mawr amdanoch.<\/li>\n<li class=\"translation-block\">Dod \u00e2 diwydiant ac addysg ynghyd \u2013 Gyda chyflogwyr yn ceisio llenwi bylchau sgiliau ym meysydd STEM, maent yn gweithio\u2019n agosach \u00e2 darparwyr addysg lleol fel Coleg Gwent i adeiladu\u2019r cwricwlwm o amgylch eu gofynion. Felly, byddwch yn gadael coleg gyda\u2019r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol.<\/li>\n<li class=\"translation-block\">Hyblygrwydd yn eich gyrfa \u2013 mae pynciau STEM yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i chi. Byddwch yn dysgu sut i feddwl yn feirniadol, datrys problemau a meddwl yn ochrol, gwybodaeth am gyfrifiaduron a thechnoleg, a sgiliau cyfathrebu a chyflwyno \u2013 pob un yn allweddol ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn unrhyw faes!<\/li>\n<li class=\"translation-block\">Llwybrau Safon Uwch a galwedigaethol \u2013 P\u2019un a ydych eisiau mynd i\u2019r brifysgol, cwblhau prentisiaeth i ennill wrth ddysgu, neu ddod yn entrepreneur gyda\u2019ch busnes eich hun, mae pynciau STEM yn agor drysau i chi gyflawni eich nodau. Mae\u2019r cyfleoedd yn ddiddiwedd!<\/li>\n<li class=\"translation-block\">Gwneud gwahaniaeth \u2013 mae rolau STEM yn effeithio ar ein bywydau bob dydd mewn sawl ffordd, gan olygu y gallwch deimlo fel eich bod wir yn gwneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. O fynd i\u2019r afael \u00e2 newid yn yr hinsawdd i ymchwilio i driniaethau a dulliau o wella newydd sy\u2019n achub bywyd, bydd STEM yn eich galluogi i wneud hynny.<\/li>\n<li class=\"translation-block\">Allwedd i\u2019r dyfodol \u2013 Mae STEM yn cyffwrdd \u00e2 bywydau pawb ohonom: Caiff ein bwyd ei gynhyrchu drwy addasu genetig; mae ceir trydan yn dod yn fwy poblogaidd; mae adeiladau yn cael eu dylunio i wrthsefyll daeargrynfeydd; mae brechlynnau newydd yn cael eu datblygu; ac rydym yn gweithio gyda thechnoleg bob dydd. Mae datblygiadau newydd yn cael eu datblygu o hyd, a heb STEM, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl.<\/li>\n<\/ul>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14 translation-block\">Mae STEM i bawb<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-16608 size-full\" src=\"https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-females-in-STEM.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1\" sizes=\"auto, (max-width: 1185px) 100vw, 1185px\" srcset=\"https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-females-in-STEM.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 1185w, https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-females-in-STEM-300x120.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 300w, https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-females-in-STEM-768x307.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 768w, https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-females-in-STEM-1024x410.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 1024w, https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-females-in-STEM-640x256.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 640w, https:\/\/b2822998.smushcdn.com\/2822998\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/Website-copy-image-females-in-STEM-338x135.jpg?lossy=0&amp;strip=1&amp;webp=1 338w\" alt=\"Female STEM students at Coleg Gwent\" width=\"1185\" height=\"474\" \/><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Mae pynciau STEM yn opsiwn gwych ar gyfer dysgwyr ifanc ac aeddfed yn Coleg Gwent. Dim ond 24% o\u2019r gweithlu STEM sy\u2019n ferched yn y DU; fodd bynnag, mae nifer y merched sy\u2019n cyflawni pynciau a rolau STEM wedi cynyddu. Yn 2019, bu i ni gyrraedd ffigwr arwyddocaol o un filiwn o ferched mewn galwedigaethau STEM craidd. Felly, er bod pynciau STEM yn hanesyddol wedi cael eu dominyddu gan ddynion, gyda bechgyn yn cyfrif am 90% o brentisiaethau yn y pynciau hyn yng Nghymru, bellach mae hyn yn newid, ac mae merched ledled Cymru erbyn hyn yn perfformio\u2019n well na bechgyn mewn pynciau STEM ar lefel TGAU.<\/p>\n<p>Mynychodd Jade Parry Gampws Crosskeys i astudio Peirianneg Drydanol. Roedd erioed wedi bod \u00e2 diddordeb mewn gwyddoniaeth a ffiseg yn yr ysgol, gyda dyheadau o weithio fel peiriannydd awyrenegol neu beiriannydd trydanol. Roedd \u201cyn poeni am fod yr unig ferch yn y gr\u0175p a gwneud ffrindiau\u201d, ond nid hi oedd yr unig ferch ar y cwrs a chyd-dynnodd yn dda \u00e2\u2019r gr\u0175p cyfan.<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Mae STEM yn dechrau yn Coleg Gwent<\/h2>\n<p class=\"translation-block\">Gyda chymaint o gyfleoedd cyffrous i ddilyn a chyflawni gyrfa lwyddiannus mewn STEM, mae eich taith yn dechrau yn Coleg Gwent. Gyda chyfraddau llwyddo yn uwch na chyfartaledd Cymru a\u2019r cyfartaledd cenedlaethol dros y pum mlynedd diwethaf, cyfleusterau o safon y diwydiant, tiwtoriaid arbenigol, ac ystod o gymorth academaidd a bugeiliol i\u2019ch helpu i gyflawni eich potensial, mae gyrfa mewn STEM o fewn eich cyrraedd. Darganfyddwch ystod eang o gyrsiau STEM Coleg Gwent yn y digwyddiad agored nesaf.<\/p>\n<div class=\"shareicons\">\n<p class=\"shareicons_title fs_bold fs_3\">\n<\/div>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":19257,"template":"","category":[15,66],"class_list":["post-7287","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-college-life","category-news"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7287","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7287\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":33435,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7287\/revisions\/33435"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19257"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7287"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7287"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}