{"id":7277,"date":"2023-07-06T09:00:21","date_gmt":"2023-07-06T08:00:21","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/college-life-myth-buster-get-the-facts\/"},"modified":"2025-07-10T14:39:23","modified_gmt":"2025-07-10T13:39:23","slug":"college-life-myth-buster-get-the-facts","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/college-life-myth-buster-get-the-facts","title":{"rendered":"Chwalu\u2019r mythau yngl\u0177n \u00e2 bywyd yn y coleg \u2013 dyma\u2019r ffeithiau!"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <p>&nbsp;<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">A ydych yn ystyried dilyn cwrs coleg?<\/h2>\n<p data-start=\"388\" data-end=\"526\">P'un a ydych yn breuddwydio am fynd i Rydychen neu Gaergrawnt, neu \u00e2'ch golygon ar yrfa gyffrous, gall eich taith ddechrau yma.<\/p>\n<p data-start=\"528\" data-end=\"672\">Ond gadewch i ni fod yn onest, mae yna lawer o chwedlau am goleg. Yn barod i ddarganfod sut mae o mewn gwirionedd? Dewch i ni chwalu rhai mythau a darganfod y ffeithiau.<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Myth 1: Mae\u2019r coleg yr un fath yn union \u00e2\u2019r ysgol<\/h2>\n<p><strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-22246 size-full\" src=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/B58A6237-3037x2023.jpg\" alt=\"Learner dancing\" width=\"5582\" height=\"3721\" srcset=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/B58A6237-3037x2023.jpg 3037w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/B58A6237-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/B58A6237-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/B58A6237-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/B58A6237-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/B58A6237-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/B58A6237-18x12.jpg 18w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/B58A6237-420x280.jpg 420w\" sizes=\"auto, (max-width: 5582px) 100vw, 5582px\" \/><\/strong><\/p>\n<p><strong>Ffaith<\/strong>: Nid yw\u2019r coleg yr un fath \u00e2\u2019r ysgol. Mae\u2019r coleg yn lle ar gyfer twf, datblygiad a dysgu annibynnol, lle cewch eich trin fel oedolyn a lle gallwch ganolbwyntio ar eich gwir ddiddordebau. Yn y Coleg, bydd modd ichi astudio <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/learning\/full-time\">pynciau<\/a> sydd wrth eich bodd a phynciau yr hoffech ddysgu mwy amdanynt. Gallwch ddewis eich llwybr eich hun! Hefyd, mae\u2019r Coleg yn ddelfrydol i ddysgwyr sydd naill ai\u2019n ymarferol neu\u2019n academaidd, ac mae\u2019n ddewis amgen gwych ar gyfer astudio yn hytrach na mynd i\u2019r chweched dosbarth.<\/p>\n<p>Cafodd Jesse Moody ei addysgu gartref ac roedd yn teimlo\u2019n nerfus yngl\u0177n \u00e2 dychwelyd i\u2019r amgylchedd addysg i astudio Peirianneg Fecanyddol. Ond llwyddodd i ymgartrefu ar ei union, a ch\u00e2i ei drin fel oedolyn bob amser. Yn \u00f4l Jesse, \u201cmae yna agwedd wirioneddol dda yn y gweithdai, gan y staff a\u2019r myfyrwyr fel ei gilydd \u2013 maen nhw\u2019n eich trin yn gyfartal ac fel oedolion.\u201d<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Myth 2: Rhaid imi astudio cyrsiau Safon Uwch os ydw i eisiau mynd i\u2019r brifysgol<\/h2>\n<p><strong>Ffaith<\/strong>: Un llwybr yn unig ar gyfer mynd i\u2019r brifysgol yw Safon Uwch. Gwyddom fod gan bawb ei ffordd wahanol ei hun o ddysgu; felly, os nad yw cyrsiau academaidd, fel cyrsiau Safon Uwch, yn iawn i chi, gallwch astudio cwrs galwedigaethol, gan barhau i fod yn gymwys i gael lle mewn prifysgol. Mae ein cyrsiau galwedigaethol ymarferol yn dal i ennill pwyntiau UCAS, yr un fath \u00e2 chyrsiau Safon Uwch. Yn wir, mae Diploma Lefel 3 yn werth hyd at 420 o bwyntiau UCAS, sy\u2019n cyfateb i 3 A* mewn Safon Uwch. Golyga hyn y gallwch astudio cwrs ymarferol sy\u2019n gweddu i chi, a pharhau i weithio tuag at fynd i\u2019r brifysgol os mai dyna eich dymuniad. Ymhellach, gallwch hyd yn oed ddewis <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/learning\/higher-education\">astudio cwrs lefel prifysgol yn y coleg<\/a> fel y gwnaeth Kieron Cole.<\/p>\n<p>Astudiodd Kieron Radd Atodol BSc (Anrh) mewn Nyrsio Milfeddygol ar \u00f4l treulio chwe blynedd yn astudio gyda Coleg Gwent. Yn \u00f4l Kieron, \u201cheb <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/campuses\/usk\">Campws Brynbuga<\/a>, fuaswn i ddim yn y sefyllfa yma heddiw nac yn gweithio mewn swydd sydd wirioneddol wrth fy modd.\u201d<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Myth 3: Rhywle i bobl na allan nhw ddilyn cyrsiau Safon Uwch yn unig yw\u2019r coleg<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-22241 size-full\" src=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/Oxford-uni.png\" alt=\"Learner holding uni sign\" width=\"1664\" height=\"1300\" srcset=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/Oxford-uni.png 1664w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/Oxford-uni-300x234.png 300w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/Oxford-uni-1024x800.png 1024w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/Oxford-uni-768x600.png 768w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/Oxford-uni-1536x1200.png 1536w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/Oxford-uni-15x12.png 15w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/Oxford-uni-358x280.png 358w\" sizes=\"auto, (max-width: 1664px) 100vw, 1664px\" \/><\/p>\n<p><strong>Ffaith<\/strong>: Nid ar gyfer dysgwyr galwedigaethol yn unig y mae\u2019r coleg. Er bod Coleg Gwent yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol mewn <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/our-college\/campuses\">pum campws<\/a>, mae hefyd yn cynnig cyrsiau Safon Uwch yng <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/campuses\/crosskeys\">Campws Crosskeys<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/campuses\/torfaen-learning-zone\">Parth Dysgu Torfaen<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/campuses\/blaenau-gwent-learning-zone\">Parth Dysgu Blaenau Gwent<\/a>. Mae myfyrwyr yn dewis dod i\u2019r coleg ac yn dewis astudio cyrsiau sydd o wir ddiddordeb iddynt. Mae rhai\u2019n mwynhau arddull academaidd cyrsiau Safon Uwch, tra mae eraill yn dymuno ennill mantais gyda <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/learning\/apprenticeships\">prentisiaeth<\/a> neu raglen lle byddant yn creu portffolio o waith i\u2019w helpu i gamu ar yr ysgol yrfa. Felly, pa un a ydych yn chwilio am gwrs galwedigaethol neu gyrsiau Safon Uwch i fynd i\u2019r brifysgol, gall Coleg Gwent gynnig y cwbl ichi.<\/p>\n<p>Llwyddodd Alicia Powell, un o ddysgwyr Safon Uwch Parth Dysgu Blaenau Gwent, i gael lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio Llenyddiaeth Saesneg ar \u00f4l cael graddau gwych yn ei hastudiaethau Safon Uwch \u2013 A* a 3 A. I Alicia, \u201cy peth gorau yngl\u0177n \u00e2 Choleg Gwent fu\u2019r cyfle i ddysgu\u2019n unigol, oherwydd mae hyn wedi fy mharatoi ar gyfer fy ngham nesaf ar \u00f4l y coleg.\u201d<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Myth 4: Nid yw coleg yn lle i mi<\/h2>\n<p><strong>Ffaith<\/strong>: Mae coleg yn lle i bawb. Pa un a ydych yn gadael yr ysgol neu heb fod yn rhan o addysg ers blynyddoedd, byddwch yn si\u0175r o ddod o hyd i gwrs addas. Mae myfyrwyr a chanddynt amrywiaeth eang o ganlyniadau TGAU o bob cefndir yn dod i Goleg Gwent, ac mae\u2019r coleg yn canolbwyntio ar eich helpu i gyrraedd eich potensial ac ennill y graddau gorau posibl yn eich dewis bwnc. Felly, os nad yw\u2019r ysgol yn addas i chi ac os yw eich graddau\u2019n is nag yr hoffech, os nad ydych wedi rhoi eich troed mewn ystafell ddosbarth ers degawd, neu os ydych yn ddysgwr deallus sydd \u00e2 diddordeb yn Rhwydwaith Seren, mae croeso i bawb.<\/p>\n<p>Daeth Robin Hammett i Goleg Gwent i astudio Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol. Roedd yn nerfus cyn dechrau yn y coleg, oherwydd roedd 27 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers iddo adael yr ysgol. Ond fel yr esbonia Robin, \u201cMae\u2019r coleg mor wahanol i\u2019r ysgol. Mae\u2019n llawn oedolion sydd eisiau cyflawni rhywbeth. Roedd bod yn fyfyriwr h\u0177n yn brofiad brawychus, ond mae\u2019r tiwtoriaid yn anhygoel ac maen nhw\u2019n mynd y tu hwnt i bob disgwyliad er mwyn bod yno ichi.\u201d<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Myth 5: Efallai na allaf ymdopi heb gefnogaeth fy athrawon ysgol<\/h2>\n<p><strong>Ffaith<\/strong>: Cewch fwy o ryddid yn y coleg i weithio ac astudio\u2019n annibynnol, ond fyddwch chi byth bythoedd ar eich pen eich hun. Gallwch wastad droi at gymuned ofalgar Coleg Gwent pan fyddwch angen help a chefnogaeth gan eich tiwtoriaid, eich cyfoedion neu eich Tiwtor Personol. Yn wahanol i\u2019r ysgol, yn y Coleg byddwch yn cyfarch eich tiwtoriaid trwy ddefnyddio\u2019u henwau cyntaf, a byddant yno wrth law i arwain a chefnogi eich dysgu. Ochr yn ochr \u00e2 hyn, mae Coleg Gwent yn cynnig cymorth a gofal bugeiliol rhagorol er mwyn ichi allu cyrraedd eich potensial. Mae pob dysgwr yn cael tiwtor personol i\u2019w helpu i gyrraedd ei nodau unigol yn y coleg.<\/p>\n<p>Llwyddodd Eve o Groespenmaen i ennill pedair A* mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Ffiseg, gan ei galluogi i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Medd Eve, \u201croedd fy nhiwtoriaid yn anhygoel. Allen nhw ddim fod wedi gwneud mwy. Roedden nhw ar gael unrhyw adeg o\u2019r dydd neu\u2019r nos a bu\u2019r cymorth a gefais ganddyn nhw yn wych.\u201d<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Myth 6: Nid yw myfyrwyr Safon Uwch yn cael cymaint o gyfleoedd neu gymaint o brofiadau \u00e2 dysgwyr sy\u2019n dilyn cyrsiau galwedigaethol<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-22245 size-full\" src=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/2A9FF7EC-3C44-4F08-8C95-6AFB32182318-3037x2023.jpeg\" alt=\"Learner overseas\" width=\"6960\" height=\"4640\" srcset=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/2A9FF7EC-3C44-4F08-8C95-6AFB32182318-300x200.jpeg 300w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/2A9FF7EC-3C44-4F08-8C95-6AFB32182318-1024x683.jpeg 1024w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/2A9FF7EC-3C44-4F08-8C95-6AFB32182318-768x512.jpeg 768w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/2A9FF7EC-3C44-4F08-8C95-6AFB32182318-1536x1024.jpeg 1536w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/2A9FF7EC-3C44-4F08-8C95-6AFB32182318-2048x1365.jpeg 2048w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/2A9FF7EC-3C44-4F08-8C95-6AFB32182318-18x12.jpeg 18w, https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/2A9FF7EC-3C44-4F08-8C95-6AFB32182318-420x280.jpeg 420w\" sizes=\"auto, (max-width: 6960px) 100vw, 6960px\" \/><\/p>\n<p><strong>Ffaith<\/strong>: Yn Coleg Gwent, mae\u2019r cyfleoedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i\u2019r ystafell ddosbarth, ac mae hynny\u2019n wir am gyrsiau o bob math. Mae\u2019r rhaglenni Safon Uwch yn cynnwys teithiau maes yn ymwneud \u00e2 phynciau penodol er mwyn ategu eich dysgu, fel teithiau Daearyddiaeth i Ogledd Cymru, ymweliadau \u00e2 Phrifysgolion Caerfaddon a Chaerwysg ar gyfer myfyrwyr Cemeg Safon Uwch, teithiau Ffotograffiaeth i Ganolbarth Cymru, a theithiau Hanes i Auschwitz. Hefyd, cewch gyfleoedd i fynychu digwyddiadau ysbrydoledig yn rhai o\u2019r prifysgolion uchaf eu bri yn y DU, fel y digwyddiad \u2018Think Big\u2019 yng Ngholeg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen, sy\u2019n annog nodau i ymgyraedd atynt ymhlith pobl ifanc, gan anelu at annog ceisiadau llwyddiannus i brifysgolion gorau\u2019r DU.<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Myth 7: Gwastraff amser yw mynd i\u2019r coleg \u2013 fe allwn fynd i weithio ar fy union<\/h2>\n<p><strong>Ffaith<\/strong>: Mae\u2019r coleg yn \u2018bont\u2019 wych rhwng addysg a gwaith. Mae gan Goleg Gwent gysylltiadau agos \u00e2 chyflogwyr lleol ac arbenigwyr mewn diwydiant, ac mae\u2019r rhain yn siapio\u2019r cwricwlwm i ddiwallu gofynion gweithlu\u2019r dyfodol. Felly, trwy fynd i\u2019r coleg bydd modd ichi sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau a\u2019r hyder y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan eich gwneud yn llawer mwy cymwysedig a phrofiadol pan fyddwch yn troi at y byd gwaith. Hefyd, bydd modd ichi gamu yn eich blaen ynghynt yn eich gyrfa, a bydd ein cyrsiau\u2019n cynnig cymwysterau a phrofiad ymarferol sy\u2019n werthfawr i gyflogwyr, gan sicrhau y byddwch gam o flaen eich cydymgeiswyr.<\/p>\n<h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Myth 8: Nid yw canlyniadau colegau cystal \u00e2 chanlyniadau dosbarthiadau chwech<\/h2>\n<p><strong>Ffaith<\/strong>: Bob blwyddyn, mae dysgwyr Safon Uwch Coleg Gwent yn rhagori ar y disgwyliadau ac yn esgor ar gyfraddau pasio sy\u2019n gyson uwch na\u2019r cyfartaledd ar gyfer Cymru a\u2019r DU. Gan sicrhau cyfraddau pasio o 97% a mwy, mae nifer o\u2019n myfyrwyr yn mynd yn eu blaen i astudio ym mhrifysgolion gorau Ymddiriedolaeth Sutton a Gr\u0175p Russell yn y DU. Yn ychwanegol at hyn, Coleg Gwent, ar y cyd \u00e2 choleg arall, yw\u2019r coleg gorau ei berfformiad yng Nghymru ar gyfer dysgu galwedigaethol hefyd, gan esgor ar ganlyniadau gwych i ddysgwyr \u2013 canlyniadau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr lleol.<\/p>\n<p>Llwyddodd Sophie Long o Argoed i gael canlyniadau gwych, sef tair A*, gan ei galluogi i fynd i Brifysgol Caergrawnt. Yn \u00f4l Sophie: \u201cYn y gobaith o fynd i brifysgol fyd-enwog, mae Coleg Gwent wedi bod yn gam defnyddiol o ran meithrin fy ymdrechion i gyflawni hyn, ac roedd gwneud cais yn gynnar i fynd i Gaergrawnt yn arwydd o ba mor ymroddedig yw\u2019r coleg i lwyddiant ei fyfyrwyr.\u201d<\/p>\n<p>P'un a ydych chi'n targedu prifysgol benodol neu'n barod i gychwyn ar eich gyrfa, nid oes amser gwell i gymryd y cam nesaf. Gwnewch gais nawr am gyrsiau sy'n dechrau fis Medi hwn a throi eich ambellion yn realiti.<\/p>\n<div class=\"shareicons\">\n<div class=\"shareicons_icons\"><i class=\"fab fa-linkedin-in fs_7 colour12\"><\/i><br \/>\n<i class=\"fab fa-whatsapp-square fs_7 colour12\"><\/i><br \/>\n<i class=\"fas fa-envelope fs_7 colour12\"><\/i><\/div>\n<\/div>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":22150,"template":"","category":[15,66],"class_list":["post-7277","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-college-life","category-news"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7277","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7277\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22305,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/7277\/revisions\/22305"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22150"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7277"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=7277"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}