{"id":33204,"date":"2025-08-14T16:17:48","date_gmt":"2025-08-14T15:17:48","guid":{"rendered":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/?post_type=news&#038;p=33204"},"modified":"2025-09-24T13:57:42","modified_gmt":"2025-09-24T12:57:42","slug":"proud-moments-and-big-futures-for-coleg-gwents-class-of-2025","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/proud-moments-and-big-futures-for-coleg-gwents-class-of-2025","title":{"rendered":"Adegau balch a dyfodol disglair i Ddosbarth 2025 Coleg Gwent"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <p class=\"translation-block\">Mae myfyrwyr yn Coleg Gwent \u2013 un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru \u2013 yn casglu canlyniadau BTEC, UG a Safon Uwch yng nghampysau\u2019r coleg heddiw (14 Awst).<\/p>\n<p><strong>Cyflawnodd 98.2% o fyfyrwyr y coleg graddau Safon Uwch A*-E, wrth i 87% o fyfyrwyr BTEC gyflawni gradd pasio neu uwch ar draws 56 o wahanol feysydd pwnc galwedigaethol.<\/strong><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Bydd y canlyniadau rhagorol hyn yn galluogi dysgwyr i gymryd eu camau cyntaf tuag at ddyfodol disglair, gyda llawer o fyfyrwyr yn sicrhau <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/undergraduates\" target=\"_self\">lleoedd mewn prifysgolion<\/a>,  <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/apprenticeships\" target=\"_self\">prentisiaethau<\/a>, a swyddi ledled Cymru a thu hwnt.<\/p>\n<p>Yn eu plith y mae Carys Morgan, mae ei graddau rhagorol (A*AAA) mewn Celf, Cemeg, Mathemateg, Ffiseg wedi ennill lle iddi astudio Pensaern\u00efaeth ym Mhrifysgol Caerfaddon.<\/p>\n<blockquote><p>Dywedodd Carys \u201cRwyf wrth fy modd yn dysgu, ac felly roedd gallu astudio pedwar cymhwyster Safon Uwch yng Ngholeg Gwent yn wych. Mae hefyd wedi bod yn gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd, gan nad oedd gennyf lawer cyn dod i\u2019r coleg, ond bellach mae gennyf lwyth!<\/p><\/blockquote>\n<p>\u201cRwy\u2019n drist fy mod yn gadael fy nhiwtoriaid oherwydd rwy\u2019n teimlo fy mod wedi dod i\u2019w hadnabod dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond rwy\u2019n edrych ymlaen at fy nghamau nesaf.\u201d<\/p>\n<p>Rhagorodd dysgwr arall, Miar Williams o Crosskeys, yn ei chwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a hynny oll wrth gydbwyso ei chyfrifoldebau fel gofalwr ifanc i\u2019w mam a swydd rhan amser yn gweithio gyda phlant anabl, gan gyflawni AAB.<\/p>\n<p>Dywedodd Miar: \u201cRoedd fy nhiwtoriaid yn wych pan gafodd fy mam ddiagnosis o ganser \u2013 fe ddarparon nhw gymaint o gymorth imi ac roeddent wir yn deall yr hyn roeddwn yn ei brofi. Yn ystod fy nghyfnod yn Coleg Gwent, rwyf wedi datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, y gallu i weithio\u2019n effeithiol fel t\u00eem ac wedi magu rhagor o hyder ynof fy hun. Fy mwriad yw mynd i Brifysgol De Cymru i astudio i ddod yn Ymarferydd yr Adran Lawdriniaeth.\u201d<\/p>\n<p>Mae dysgwr arall, Ellis wedi llwyddo i gael  4 A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach, Ffiseg a Chyfrifiadureg. Gyda chynlluniau i astudio ym Mhrifysgol Caerfaddon, mae Ellis wedi mynd yr ail filltir wrth sefydlu gyrfa fel Peiriannydd Electronig yn y dyfodol.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" style=\"width:100%;margin-left:0;margin-right:0\" src=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Learners-1.png\" alt=\"Students celebrating their results at results day\" \/><\/p>\n<p class=\"translation-block\">Yn ychwanegol at lwyddiannau BTEC a Safon Uwch, llwyddodd dros 91 o oedolion sy\u2019n ddysgwyr i gwblhau eu <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/study\/subjects\/access-to-higher-education\" target=\"_self\">cyrsiau Mynediad at Addysg Uwch<\/a> gyda Coleg Gwent a byddant yn symud ymlaen i ddilyn cwrs gradd mewn prifysgol.<\/p>\n<p>Yn rhagorol, cyflawnodd 12 o\u2019r dysgwyr hyn ganlyniadau cyfwerth \u00e2 thair A* mewn Safon Uwch ac maent bellach ar eu ffordd i rai o gyrsiau prifysgol mwyaf clodfawr y DU.<\/p>\n<p>Morgan Hoad, 23, o Flaengarw, a astudiodd y cwrs Mynediad at AU: Cwrs Meddygaeth yng Nghampws Crosskeys. Mae ar fin dechrau astudio meddygaeth y mis Medi hwn.<\/p>\n<blockquote><p>Dywedodd Morgan: \u201cMae bod yn feddyg yn rhywbeth rwyf wedi bod eisiau ei wneud erioed, ond nad oedd gennyf yr adnoddau na\u2019r wybodaeth i\u2019w ddilyn. Ni wnaeth y tiwtoriaid yma roi\u2019r gorau o gwbl \u2013 roeddent wir yn credu ynof. Rwyf wedi ennill cadernid, dewrder a dealltwriaeth gadarn o wyddoniaeth, yn barod i gymryd y cam nesaf i feddygaeth. Os na wnaethoch gyflawni\u2019r graddau neu heb astudio\u2019r tri phwnc gwyddoniaeth, mae\u2019r cwrs hwn yn garreg gamu wych.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent: \u201cMae\u2019r cyflawniadau ardderchog a ddathlwn heddiw yn adlewyrchiad gwirioneddol o waith caled a galluoedd rhagorol ein dysgwyr, ochr yn ochr ag arbenigedd ein staff cymorth ac addysgu.<\/p>\n<p class=\"translation-block\">Rydym yn falch ein bod wedi chwarae rhan yn eu taith ac edrychwn ymlaen at weld <a href=\"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/student-life\/alumni\" target=\"_self\">cyn-fyfyrwyr Coleg Gwent<\/a> yn mynd yn eu blaenau i gyflawni llwyddiannau pellach fyth. Llongyfarchiadau i\u2019n holl ddysgwyr ar eu cyflawniadau rhagorol.\u201d<\/p>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":33377,"template":"","category":[66,10],"class_list":["post-33204","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-news","category-success-stories"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_force_visibility":null,"pp_subpost_visibility":null,"pp_inherited_force_visibility":null,"pp_inherited_subpost_visibility":null,"pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/33204","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/33204\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":33382,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/33204\/revisions\/33382"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/33377"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=33204"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=33204"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}