{"id":22069,"date":"2025-03-26T14:30:00","date_gmt":"2025-03-26T14:30:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/?post_type=news&#038;p=22069"},"modified":"2025-09-04T10:25:58","modified_gmt":"2025-09-04T09:25:58","slug":"celebrating-the-inspiring-progression-of-ils-learners","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/celebrating-the-inspiring-progression-of-ils-learners","title":{"rendered":"Dathlu dilyniant ysbrydoledig dysgwyr ILS"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <p>I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir, mae Coleg Gwent yn falch o rannu taith ysbrydoledig Dion, sef cyn-ddysgwr Sgiliau Byw\u2019n Annibynnol (Independent Living Skills \u2013 ILS) sydd wedi llwyddo i ennill cyflogaeth ar \u00f4l interniaeth a gefnogwyd yn Ysbyty Nevill Hall.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhaglen interniaeth yn cael ei goruchwylio gan Coleg Gwent a\u2019i chefnogi gan randdeiliaid y bartneriaeth Gwerth Profiad Gofal leol ehangach, sef partneriaeth rhwng darparwyr ac addysgwyr gofal iechyd a chymdeithasol lleol sydd \u00e2\u2019r nod o annog rhagor o fyfyrwyr yn Ne Cymru i fynd ar \u00f4l swyddi yn y maes gofal iechyd a chymdeithasol.<\/p>\n<p class=\"translation-block\">Fe wnaeth Dion, 23, ymuno \u00e2 Coleg Gwent yn 2017, lle dilynodd gwrs blwyddyn o hyd mewn Sgiliau Byw\u2019n Annibynnol. Ar \u00f4l y cwrs, fe symudodd ymlaen i\u2019r cwrs ILS Lefel Mynediad 3 mewn Astudiaethau Galwedigaethol (Llwybr 3) lle astudiodd nifer o bynciau megis coginio, garddwriaeth, iechyd a hamdden a TGCh.<\/p>\n<p>Gyda diddordeb brwd mewn ennill lleoliad gwaith, fe symudodd Dion ymlaen unwaith eto gan ymuno \u00e2\u2019r cwrs ILS Paratoi ar gyfer Interniaeth a Gefnogir i helpu chwalu rhwystrau i\u2019r gwaith. Ar \u00f4l cwblhau\u2019r cwrs yn llwyddiannus, fe gafodd Dion gynnig o raglen interniaeth yn Ysbyty Bevill Hall lle y bu\u2019n gweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r adran cofnodion iechyd, gan arbenigo mewn digideiddio cofnodion y GIG.<\/p>\n<p>Mae dysgwyr Coleg Gwent sydd ar y rhaglen interniaeth a gefnogir yn ennill profiad ymarferol mewn ysbytai amrywiol, sydd yn cynnwys gweithgareddau megis porthora, glanhau, cynnal wardiau a chymorth gweinyddol.<\/p>\n<p>Dyma\u2019r bedwaredd flwyddyn i Ysbyty Nevill Hall fod yn rhan o\u2019r fenter, gyda staff a dysgwyr fel ei gilydd yn elwa o\u2019r bartneriaeth. Yn y flwyddyn academaidd hon, mae yna 11 o interniaid Coleg Gwent ar leoliad ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau ei interniaeth, fe wnaeth Dion sicrhau prentisiaeth 18 mis yn yr adran, ac mae disgwyl iddo ei chwblhau ym mis Mai. Yn fwy diweddar, mae Dion wedi cael cynnig cyflog parhaol y mae bellach wedi\u2019i derbyn.<\/p>\n<p>Meddai Dion: \u201cDw i wrth fy modd gyda\u2019r gwaith rwy\u2019n gwneud. Ro\u2019n i arfer bod yn eithaf nerfus a doeddwn i ddim eisiau gweithio mewn ysbyty. Nawr rwy\u2019n teimlo\u2019n hyderus yn fy swydd a dw i ddim eisiau gadael. Mae pontio o fod yn fyfyriwr i brentis wedi mynd yn esmwyth. Rwy\u2019n dwli ar ddysgu am y tasgau newydd.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhaglen hon wedi helpu fi i archwilio opsiynau gyrfa ac ennill hyder yn y gweithle. Yn gyntaf roedd yn edrych yn frawychus, ond rydw i wedi datblygu cymaint o sgiliau newydd erbyn hyn.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019i gyfrifoldebau beunyddiol, mae Dion wedi ymgymryd \u00e2\u2019r r\u00f4l o fentora dysgwr ISL newydd.<\/p>\n<p>Dywedodd: \u201cRwy\u2019n deall pa mor frawychus mae\u2019n teimlo i ddechrau swydd a bod yn newydd, felly rydw i wedi bod yn mentora dysgwr newydd a\u2019i helpu i bontio\u2019n esmwyth i\u2019w swydd.<\/p>\n<p>Amlygai Rachel Edwards, sef Rheolwr Cynorthwyol Ysbyty Nevill Hall, yr effaith gadarnhaol y mae Dion wedi\u2019i chael ar y t\u00eem: \u201cRydym ni wedi dysgu cymaint oddi wrth ein gilydd, ac mae\u2019n dod \u00e2 chymaint o bethau cadarnhaol. Mae cael Dion yma wedi gwneud i ni ystyried y ffordd rydym ni yn addysgu a sut y gallwn ni fod yn fwy cynhwysol. Mae wedi bod yn eithriadol ac mae bellach yn rhan o\u2019r teulu cofnodion iechyd.<\/p>\n<p>Meddai Gary Handley, sef Pennaeth Cynorthwyol Coleg Gwent: \u201cMae taith Dion yn enghraifft ardderchog o beth mae dysgwyr ILS yn gallu\u2019i gyflawni gyda\u2019r cymorth a\u2019r cyfleoedd priodol. Trwy gyfleoedd sydd wedi\u2019u haddasu\u2019n ofalus megis lleoliadau gwaith uwch, interniaethau a gefnogir a gwaith cymuned-seiliedig, rydym yn helpu dysgwyr i fagu\u2019r sgiliau a\u2019r hyder sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn gosodiadau byd go iawn. Rydym yn hynod falch o lwyddiannau Dion a\u2019r effaith gadarnhaol y mae wedi\u2019i chael ar ei gyfoedion a\u2019i gydweithwyr.<\/p>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":22070,"template":"","category":[66],"class_list":["post-22069","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_force_visibility":null,"pp_subpost_visibility":null,"pp_inherited_force_visibility":null,"pp_inherited_subpost_visibility":null,"pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/22069","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/22069\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22071,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/22069\/revisions\/22071"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22070"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22069"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=22069"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}