Which course is for me?
Dewis y cwrs iawn i chi
Teimlo’n ddryslyd? Mae hynny’n iawn. Rydym yn gwybod bod dewis eich cam nesaf yn gallu bod yn anodd. Dylai’r canllaw hwn eich rhoi ar ben ffordd, ond os ydych yn ansicr o hyd, cofiwch gysylltu. Mae ein tîm Recriwtio Myfyrwyr ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am tan 5pm. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer un o’n digwyddiadau agored sy’n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn trwy fynd i: www.coleggwent.ac.uk/cy/life-at-coleg-gwent/events
Gwneud y dewis iawn!
Dyma ychydig o bethau i’w hystyried wrth ddewis eich cwrs:
- Rydych yn fwy tebygol o lwyddo yn eich cwrs os ydych yn ei fwynhau! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis cwrs y mae gennych lawer o ddiddordeb ynddo neu rydych yn teimlo’n angerddol amdano.
- Os byddwch yn dewis rhywbeth rydych yn dda ynddo, byddwch yn fwy tebygol o gael graddau da a chwblhau eich cwrs.
- Meddyliwch am beth rydych eisiau ei wneud ar ôl gorffen yn y coleg: prifysgol? Cael swydd? Hyfforddiant pellach? A fydd eich cwrs yn eich helpu i gyflawni hynny?
- Meddyliwch am ba yrfa yr hoffech yn y dyfodol – a fydd eich cwrs yn eich helpu i gyrraedd yno?
Canllaw i gymwysterau
Ydych chi’n ansicr ynghylch pa gymhwyster rydych yn chwilio amdano neu ar ba lefel i ddechrau arni? Dyma ganllaw i’ch helpu i ddewis y lefel gywir ac i ddangos i chi ba fath o swydd y gallai arwain ati.
Cymhwyster | Lefel swydd | |
---|---|---|
Lefel 7 | Gradd Meistr/Doethuriaeth NVQ 5 |
Gweithiwr proffesiynol siartredig |
Lefel 6 | Gradd Anrhydedd Prentisiaeth Uwch NVQ 4 |
Gweithiwr proffesiynol siartredig |
Lefel 5 | Gradd Sylfaen, HND Diploma mewn Addysg Uwch Prentisiaeth Uwch NVQ 4 |
Gweithiwr proffesiynol ym maes rheoli |
Lefel 4 | HNC Tystysgrif Addysg Uwch Prentisiaeth Uwch NVQ 4 |
Gweithiwr proffesiynol ym maes rheoli |
Lefel 3 | Diploma Estynedig Lefel 3, Diploma Lefel 3, Diploma Atodol Lefel 3, Tystysgrif Lefel 3. 3 Safon Uwch, 2 Safon Uwch, 1 Safon Uwch, 1 Safon UG. Uwch Brentisiaeth NVQ 3 |
Technegydd uwch, goruchwyliwr medrus |
Lefel 2 | Diploma Lefel 2, Tystysgrif Estynedig Lefel 2, Tystysgrif Lefel 24 TGAU (A*-C) 3 TGAU (A*-C) 2 TGAU (A*-C). Prentisiaeth NVQ2 |
Gweithredwr lled-fedrus |
Lefel 1 | Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 1 TGAU (D-G) Cynllun hyfforddiant NVQ1 |
Gweithredwr |
Lefel Mynediad | Sgiliau Sylfaenol/Sgiliau Bywyd | |
Dysgu galwedigaethol Dysgu academaidd |
*Mae ein cyrsiau galwedigaethol Lefel 3 yn denu pwyntiau Tariff UCAS, yn union fel cyrsiau Safon Uwch. Mae nifer y pwyntiau’n dibynnu ar ba gwrs rydych yn ei wneud. Am fwy o wybodaeth ewch i www.ucas.com/tariff