En

Cymorth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Ein Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

Efallai y bydd angen darpariaeth dysgu ychwanegol ar ddysgwyr nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y ddarpariaeth ddysgu gyffredinol sydd ar gael i bob dysgwr. Os oes angen y math hwn o gymorth arnoch, siaradwch â’ch Tiwtor Personol neu cysylltwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALSCo) eich campws.

Rydym yn cynnig y gefnogaeth ychwanegol ganlynol i’r rhai sydd ei hangen:

male learner on red background

Ar Wahân

Mae ein darpariaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) yn caniatáu i chi gael cymorth ychwanegol i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol i hyrwyddo’ch annibyniaeth yn y coleg a’r gymuned.

Mae dysgwyr ILS hefyd yn canolbwyntio ar raglen unigol o sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyflogadwyedd, a gall dysgwyr symud ymlaen naill ai o fewn ILS neu wneud cais i gyrsiau prif ffrwd.

female learner on pink background

Prif Ffrwd

Gallai cymorth ychwanegol i ddysgwyr ar gwrs prif ffrwd gynnwys:

  • Cynorthwywyr Cymorth Ychwanegol (ASAs) yn y dosbarth neu y tu allan i’r dosbarth
  • Cymorth Cyfathrebu (ar gyfer Defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain)
  • Technolegau Cynorthwyol (gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol)
  • Cefnogi anghenion iechyd, meddygol a/neu gorfforol

Gwybodaeth bellach am ein darpariaeth cymorth ADY prif ffrwd:

Mae Cynorthwywyr Cymorth Ychwanegol ASAs yn defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o gefnogi dysgwyr unigol, gan gymryd amser i ddod i adnabod y dysgwr i ddeall beth sy’n bwysig iddynt a’r ffordd orau o’u cefnogi.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae mynediad at gymorth ASA ar sail ar y cyd â dysgwyr eraill yn y dosbarth. Bydd ASAs yn eich helpu i ddatblygu sgiliau a strategaethau y gallwch eu defnyddio yn y Coleg ac yn ystod bywyd fel oedolyn gan eich helpu i ddod yn fwy annibynnol.

Mae Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu (CSWs) yn darparu cymorth cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Saesneg â Chefnogaeth Arwyddion (SSE) i helpu dysgwyr â nam ar y clyw i gael mynediad i’r coleg a datblygu strategaethau i hyrwyddo eu hannibyniaeth.

Mae Coleg Gwent yn fyddar-gyfeillgar ac mae’r staff yn fyddar-ymwybodol, gyda dysgwyr â nam ar y clyw ddoe a heddiw, o rai sy’n dangos nam ysgafn i ddwys ar y clyw, a defnyddwyr cymhorthion clyw a mewnblaniadau cochlear. Yn ogystal â chymorth cyfathrebu gydag arwyddion, rydym yn cynnig ystod o dechnolegau cynorthwyol i gynorthwyo dysgwyr i gael y gorau o’u profiad coleg.

Mae gennym hefyd Glwb Byddar sy’n uno dysgwyr o ledled cymuned y coleg i rannu profiadau.

play

Gall technoleg gynorthwyol gefnogi gyda mynediad at weithgareddau dysgu a pherfformio, gan hyrwyddo eich annibyniaeth yn y Coleg a’r tu allan i’r Coleg.

Mae technoleg gynorthwyol yn cynnwys y byd cynyddol o apiau a all ein cefnogi mewn gwahanol agweddau o’n bywydau bob dydd. Mae gennym offer arbennig ar gael i’ch helpu chi, gan gynnwys cymhorthion radio, dictaffonau, sgriniau wrthddallu, troshaenau, gliniaduron ac amrywiaeth o lygod ac allweddellau.

Mae gennym y cyfleusterau canlynol ar gael ar gyfer pobl ifanc sydd â chyflyrau corfforol/meddygol sydd angen cefnogaeth gydag anghenion gofal personol:

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent, Parth Dysgu Torfaen a Champws Crosskeys: teclyn codi a gwely newid.
  • Campws Casnewydd a Champws Brynbuga: cyfleusterau hunan-drosglwyddo yn unig.

Gallwn gefnogi dysgwyr sydd ddim yn gallu trosglwyddo o’r cludiant i’r dosbarth ac ar y campws.  Mae nifer uchel o’n Cynorthwywyr Cymorth Ychwanegol (ASAs) yn brofiadol mewn darparu gofal personol.

Mae ASAs penodol yn cael eu hyfforddi i roi meddyginiaeth diabetes ac epilepsi.

Rhowch wybod i ni os oes gennych anghenion iechyd, meddygol a/neu gorfforol penodol.