Cerddoriaeth, Drama a Dawns

Os oes gennych chi'r ddawn, mae gennym ni'r cyrsiau i'ch ysbrydoli, eich annog a'ch datblygu; i'ch helpu i gael gyrfa yn y stiwdio, ar y llwyfan neu'r tu ôl i'r llenni.
Cerddoriaeth
Mae’n ddigon gwir fod llawer o gerddorion yn cael gyrfaoedd llwyddiannus a hwythau heb fath o gymwysterau cerddorol. Ond bydd hi’n haws o lawer i chi adeiladu eich gyrfa drwy fod yng nghwmni pobl eraill sydd yr un mor frwdfrydig ynghylch cerddoriaeth, mewn amgylchedd sy’n creu momentwm, lle byddwch yn meithrin sgiliau a gwybodaeth a allai gymryd blynyddoedd i’w meithrin fel arall.
P’un ai a ydych eisiau bod yn gyfansoddwr caneuon, yn beiriannydd sain neu’n gweithio ym maes cynhyrchu cerddoriaeth, gwnewch gais i astudio cerddoriaeth gyda ni heddiw.
Drama
Dysgwch sut i ddefnyddio dull siarad, symudiadau, mynegiant ac iaith y corff i greu cymeriadau, emosiynau a sefyllfaoedd, gan ddatblygu eich sgiliau yn barod i berfformio o flaen cynulleidfa yn fyw yn ein theatr ein hunain neu ar gyfer recordiad sain, teledu neu ffilm.
Dawns a theatr gerddorol
Gall y sgiliau a ddysgwch ar y cyrsiau hyn agor y drws i ystod eang o ddewisiadau. Bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa lenyddol, greadigol neu ym maes y cyfryngau, neu’n gweithio mewn cwmni theatr naill ai fel perfformiwr neu’r tu ôl i’r llenni.
Nid oeddwn yn mwynhau Lefel A, felly newidiais i astudio Cerdd yn Coleg Gwent. Nawr rwy’n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio busnes #cerdd gyda’r gobaith o agor fy stiwdio bersonol yn y dyfodol!
Joshua Kilbride
Music performance L3
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr