YMCA Tystysgrif mewn Hyfforddwr Ffitrwydd - Theori / Y Gampfa / Ymarfer Corff i Gerddoriaeth Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus

 Lefel

Lefel
2

Dull Astudio

Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)

 Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£150

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
17 Hydref 2020

Dyddiau

Dyddiau
Dydd Sadwrn

Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:30

 Hyd

Hyd
2 wythnos

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn berffaith os oes gennych ddiddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd, neu os ydych yn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd yng nghyd-destun ymarfer corff yn y gampfa, ymarfer corff i gerddoriaeth neu hyfforddi ymarfer corff i grwp.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...pobl sy'n edrych i ddechrau ar eu llwybr i'r diwydiant ffitrwydd

...unrhyw un sydd â diddordeb brwd mewn iechyd a ffitrwydd

Cynnwys y cwrs

Mae'r unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Anatomi a ffisioleg gan gynnwys:
    • y galon a'r system gylchredol
    • y system anadlu
    • strwythur a swyddogaeth yr ysgerbwd
    • y system gyhyrysgerbydol
    • sefydlogrwydd osgo a chraidd
    • y systemau egni a nerfol a'u perthynas ag ymarfer corff

Mae'r unedau ymarferol yn cynnwys:

  • Sut i gynnal iechyd, diogelwch a lles mewn amryw o amgylcheddau ffitrwydd
  • Sut i raglennu ymarfer corff effeithiol a diogel ar gyfer ystod o gleientiaid, buddion iechyd a gweithgaredd corfforol a phwysigrwydd bwyta'n iach
  • Sut i gyfathrebu gyda chleientiaid yn effeithiol ac annog cleientiaid i lynu wrth raglen ymarfer corff
  • Y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio a pharatoi rhaglenni ymarfer corff yn y gampfa

Asesiad

Mae hwn yn gwrs damcaniaethol ac ymarferol dwys a fydd yn cael ei asesu drwy arholiad amlddewis ac asesiad ymarferol.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd angen i ddysgwyr gael diddordeb brwd mewn gweithgareddau ffitrwydd; mae cyfranogiad ymarferol yn hanfodol. Rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs fel arfer yn rhedeg ar ddydd Sadwrn dros ddau benwythnos:

Beth am barhau i astudio a dewis o un o'n cyrsiau isod:

  • Lefel 2 campfa ymarferol
  • Beicio grwp Lefel 2
  • Ymarfer Lefel 2 i gerddoriaeth
  • Lefel 2 sesiwn cylched cyfarwyddo
  • Hyfforddiant personol Lefel 3 (ymarferydd)

Wybodaeth am Daliadau

Oherwydd y cyfyngiadau presennol, gellir gwneud taliad drwy drosglwyddiad banc yn unig.

Bydd anfoneb yn cael ei hanfon gan salesledger@coleggwent.ac.uk o fewn 72 awr gyda chyfarwyddiadau ar sut i dalu neu drefnu rhandaliadau os oes angen.

Ble alla i astudio YMCA Tystysgrif mewn Hyfforddwr Ffitrwydd - Theori / Y Gampfa / Ymarfer Corff i Gerddoriaeth Lefel 2?

UCCE2126AD
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 17 Hydref 2020

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Argraffu gwybodaeth am gyrsiau