YMCA Diploma Atgyfeirio Ymarfer Corff Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus
Lefel
3
Lleoliad
Campws Brynbuga
Dyddiad Cychwyn
06 Rhagfyr 2022
Dyddiau
Dydd Mawrth a Dydd Gwener
Hyd
12 wythnos
Yn gryno
Gyda nifer cynyddol o gynlluniau atgyfeirio, mae galw mawr am yr arbenigedd hwn ac mae'n werth chweil ac yn hynod broffidiol. Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i ddarparu cymorth/cyngor a dylunio rhaglenni ymarfer corff i bobl â chyflyrau meddygol penodol sydd yn rhoi eu hiechyd mewn perygl.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... Gweithwyr ffitrwydd proffesiynol cymwys
... Unrhyw un sydd eisiau bod yn Hyfforddwr Atgyfeirio Ymarfer Corff
Cynnwys y cwrs
Ymdrinnir â gwybodaeth a dealltwriaeth yn ymwneud â’r cymhwyster hwn gan gynnwys:
- Egwyddorion casglu gwybodaeth i gynllunio rhaglen atgyfeiriadau ymarfer corff, egwyddorion strategaeth risg mewn atgyfeiriad ymarfer corff ac egwyddorion a phrosesau cadw cofnodion.
- Sut i nodi amcanion gyda chleifion atgyfeiriadau ymarfer corff a chyfarwyddo, addasu ac adolygu sesiwn ymarfer corff gyda'r cleifion hyn. Sut i gynllunio, paratoi, monitro ac addasu rhaglen atgyfeiriad ymarfer corff gyda chleifion a deall pwysigrwydd newid ymddygiad hirdymor ar gyfer y cleifion hyn.
- Y systemau gofal iechyd cyfredol yn y DU, y broses atgyfeiriadau ymarfer corff, rolau a chyfrifoldebau'r gweithiwr proffesiynol o fewn cynllun atgyfeiriadau ymarfer corff a phwysigrwydd atgyfeiriadau ymarfer corff, polisïau perthnasol a dogfennau allweddol.
- Y cysyniad o ddull sy’n canolbwyntio ar y claf.
- Nodweddion clinigol cyflyrau meddygol perthnasol i raglenni atgyfeiriadau ymarfer corff, y berthynas rhwng ymarfer corff ac atgyfeiriadau arbenigol ar gyfer cyflyrau meddygol, y dulliau a dderbynnir ar gyfer triniaeth/rheolaeth cyflyrau meddygol perthnasol i raglenni atgyfeiriadau ymarfer corff a sut i gynnal rhaglenni ymarfer corff diogel, effeithiol ar gyfer cleifion gyda chyflyrau meddygol sydd angen atgyfeiriadau ymarfer corff arbenigol.
Byddwch yn cael eich asesu yn y ffyrdd canlynol fel rhan o’r cwrs:
- Gwaith cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arddangosiad/aseiniad ymarferol
- Arholiad ymarferol
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad i’r cwrs hwn, mae angen i chi fod â’r cymhwyster Hyfforddiant Personol Lefel 3.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn gallwch symud ymlaen i:
- Gyflogaeth gyda Chynlluniau Atgyfeiriadau Ymarfer Corff o fewn y diwydiant ffitrwydd.
- Gwobr Lefel 2 mewn Cyflwyno Ymarfer Corff ar Sail Cadair
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli Pwysau ar gyfer Unigolion sy’n Ordew neu sydd â Diabetes Mellitus a/neu Syndrom Metabolig ar Gampws Usk.
- Cymwysterau arbenigol Lefel 4 eraill.
UPDI0497AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 06 Rhagfyr 2022
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau