YMCA Dyfarniad mewn Seiclo Gr?p Dan Do Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus
Lefel
2
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£150
Dyddiad Cychwyn
12 Mehefin 2021
Dyddiau
Dydd Sadwrn
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
15:30
Hyd
2 wythnos
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn berffaith os oes gennych ddiddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd fel hyfforddwr ffitrwydd yn addysgu seiclo dan do/sbin.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sy'n dymuno gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd.
Cynnwys y cwrs
Wedi'i gynnal yn y stiwdio sbin ar gampws Brynbuga, mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â:
- Buddion seiclo grwp dan do
- Iechyd a diogelwch mewn perthynas â seiclo grwp dan do
- Sut i ddylunio ac addysgu sesiynau effeithiol a diogel
- Egwyddorion a newidynnau a ddefnyddir o fewn sesiwn
- Sut i fonitro ac annog cyfranogwyr
- Sut i ddefnyddio cerddoriaeth yn ystod sesiynau
- Sut i asesu a myfyrio ar ddarparu seiclo grwp dan do.
Bydd angen ichi fod wedi ymrwymo'n llawn i fynychu ac yn barod i gyfrannu yn y sesiynau, a byddwch yn cael eich asesu drwy bortffolio o dystiolaeth ac aseiniad/arddangosiad ymarferol.
Wedi ichi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen at Gampfa Lefel 2, Ymarfer Corff i Gerddoriaeth Lefel 2, Ymarfer Corff a Gweithgareddau Corfforol i Blant Lefel 2, Hyfforddi Sesiynau Cylchol neu swydd yn y diwydiant ffitrwydd.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae diddordeb brwd mewn gweithgareddau yn seiliedig ar seiclo dan do a hyfforddiant ffitrwydd yn ddigon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnal dros ddeuddydd (ar y penwythnos) ar gampws Brynbuga, ac mae'n orfodol eich bod yn mynychu'r deuddydd.
UCAW0270AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 12 Mehefin 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau