YMCA Dyfarniad mewn Hyfforddiant Cylchol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus
Lefel
2
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£150
Dyddiad Cychwyn
10 Ebrill 2021
Dyddiau
Dydd Sadwrn
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
15:30
Hyd
2 wythnos
Yn gryno
Wedi ei ddylunio ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd cymwys, bydd y cwrs hwn yn rhoi'r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ychwanegol sydd eu hangen arnoch i gynllunio a chyfarwyddo sesiynau hyfforddi cylchol grwp.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sydd â chymhwyster hyfforddwr ffitrwydd gymwys sydd eisiau ymgymryd â hyfforddiant cylchol grwp.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael ag ystod o sgiliau a gwybodaeth sy'n benodol i hyfforddiant cylchol:
Gwybodaeth a dealltwriaeth:
- Dulliau casglu gwybodaeth am y cyfranogwr
- Egwyddorion gwirio cyfranogwyr cyn gwneud ymarfer corff gan gynnwys yr holiadur parodrwydd i wneud ymarfer corff (PAR-Q)
- Sut i ddefnyddio gwybodaeth cyfranogwyr i helpu gynllunio sesiynau hyfforddi cylchol grwp diogel ac effeithiol
- Sut i ddefnyddio cerddoriaeth er mwyn gwella sesiynau hyfforddi cylchol grwp
- Hanfodion triniaethau tylino ch gyfer sesiynau hyfforddi cylchol grwp
- Arwain sesiynau hyfforddi cylchol grwp
- Gwerthuso eich perfformiad eich hun
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiad ymarferol a phortffolio theori o dystiolaeth, ac wedi ichi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen at gymhwyster Hyfforddi Personol Lefel 3, Seiclo Grwp Lefel 2, Ymarfer Corff i Gerddoriaeth Lefel 2, Ymarfer Corff a gweithgareddau Corfforol i Blant Lefel 2 neu swydd yn y diwydiant ffitrwydd.
Gofynion Mynediad
I ymgymryd â'r cwrs, bydd angen i chi fod wedi llwyddo yn y pynciau gorfodol canlynol:
- Anatomi a ffisioleg, gan gynnwys y galon a'r system gylchredol, y system anadlu, strwythur a gweithrediad y sgerbwd, y system gyhyrysgerbydol, sefydlogrwydd osgo a chraidd, y systemau egni a nerfol a'u perthynas ag ymarfer corff
- Sut i gynnal iechyd, diogelwch a lles mewn amryw o gylcheddau ffitrwydd, gan gynnwys diogelu plant ac oedolion bregus
- Sut i raglennu ymarfer corff effeithiol a diogel ar gyfer ystod o gleientiaid, buddion iechyd a gweithgaredd corfforol a phwysigrwydd bwyta'n iach.
- Sut i gyfathrebu gyda chleientiaid yn effeithiol ac annog cleientiaid i lynu ar raglen ymarfer corff
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnal dros ddeuddydd (ar y penwythnos) ar gampws Brynbuga, ac mae cyfranogiad ymarferol ac asesiadau llwyddiannus yn orfodol.
UCAW0180AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 10 Ebrill 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau