CBAC Cyfrifiadureg UG Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2022
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg/ Saesneg Iaith, yn ogystal â Gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd Mathemateg neu Radd A mewn Cyfrifiadureg TGAU.
Yn gryno
Mae'r cwrs yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau rhaglennu a datrys problemau ymarferol, ynghyd â dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sylfaenol Cyfrifiadureg.
Dyma'r cwrs i chi os...
...ydych am gyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
...oes gennych ddiddordeb brwd mewn cyfrifiadureg
...ydych yn hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron ac yn gweithio'n galed
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn ymdrin â dealltwriaeth o systemau cyfrifiadur, yn cynnwys meddalwedd, caledwedd a chyfathrebiadau data, prif egwyddorion dadansoddi systemau, rhesymeg, algorithmau a chynrychioli data.
Lefel UG:
- Uned 1 - Hanfodion Cyfrifiadureg
- Uned 2 - Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau
Safon Uwch:
- Uned 3 - Rhaglennu a Datblygu Systemau
- Uned 4 - Pensaernïaeth Cyfrifiadur, Data, Cyfathrebu a Chymwysiadau
- Uned 5 - Datrysiad wedi'i Raglennu i Broblem
Asesir drwy dasgau gwaith cwrs ymarferol ac arholiad yn y flwyddyn UG ac U. Byddwch yn ennill cymwysterau mewn:
- Cyfrifiadureg Lefel UG
- Cyfrifiadureg Safon Uwch
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg/ Saesneg Iaith, yn ogystal â Gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd Mathemateg neu Radd A mewn Cyfrifiadureg TGAU.
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gradd mewn Cyfrifiadureg, neu bwnc cysylltiedig, megis Mathemateg, Ffiseg, Peirianneg neu unrhyw gwrs Gwyddoniaeth mewn Addysg Uwch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gostau teithio ymweliadau addysgol.
EFAS0111A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2022
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau