CBAC Sbaeneg UG/U Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd a Gradd B mewn Sbaeneg
Yn gryno
Yn naturiol mae Lefel A yn adeiladu ar y sgiliau yr enillasoch ar lefel TGAU ac yn eu datblygu fel eich bod chi'n ennill gwybodaeth dda o'r iaith Sbaeneg.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisiau datblygu eich sgiliau Sbaeneg
... Ydych eisiau mynd ymlaen i addysg uwch
... Hoffech yrfa yn yr ieithoedd tramor
Beth fyddaf yn ei wneud?
Cyflawnir yr astudiaeth hon drwy ddarllen deunyddiau go iawn o destunnau a'r rhyngrwyd a gwrando ar glipiau o siaradwyr brodorol.
Mae pwyslais pwysig hefyd ar waith llafar a bydd gofyn i chi fynychu dosbarthiadau sgyrsiau gyda'r Cynorthwyydd Sbaeneg.
Lefel UG
Bydd yr holl waith iaith ar gyfer UG yn seiliedig ar y themâu canlynol yn ogystal ag astudio'r ffilm Volver:
- Thema 1: Bod yn unigolyn ifanc mewn cymdeithas Sbaeneg
- Thema 2: Deall y byd Sbaeneg
Lefel U
Byddwch yn archwilio'r themâu canlynol:
- Thema 3: Amrywiaeth a gwahaniaeth
- Thema 4: Y ddwy Sbaen: 1936 ymlaen
Bydd myfyrwyr UG hefyd yn astudio llythrennedd ac yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol.
Cewch eich asesu drwy:
- UG Uned 1 - Arholiad llafar (12-15 munud), 2 dasg sy'n seiliedig ar symbyliad
- UG Uned 2 - Gwrando, darllen ac ysgrifennu (2 awr 30 munud)
- Lefel Uwch (60% o'r cymhwyster)
- UG Uned 3 - Arholiad llafar (12 munud) prosiect ymchwil annibynnol gyda chyflwyniad a thrafodaeth
- UG Uned 4 - Gwrando, darllen a chyfieithu (1 awr 45 munud)
- UG Uned 5 - Ymateb beirniadol a dadansoddol ar bapur (llyfr caeëdig) (1 awr 30 munud)
Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Sbaeneg Lefel UG
- Sbaeneg Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, a Gradd B mewn Sbaeneg
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Croesewir a gwerthfawrogir cymhwyster lefel uwch mewn Sbaeneg yn y gweithle yn ogystal â mewn ystod eang o gyrsiau addysg uwch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.
Mae Coleg Gwent wedi ymrwymo i gynnig cwricwlwm amrywiol a chyfoethog i'w ddysgwyr Lefel A ac AS ac mae'n awyddus i sicrhau bod dysgwyr ar draws Gwent yn gallu cyrchu pynciau sy'n hanesyddol yn recriwtio niferoedd bach. Er mwyn sicrhau argaeledd,rydym yn cynnig Sbaeneg a Ffrangeg ar ein Campws Crosskeys a chynigir Cymraeg ar ein campysau Crosskeys a Parth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd Cerddoriaeth a Mathemateg Bellach yn cael eu cynnig ar bob un o'n campysau. Os yw eich dewis o bynciau yn golygu bod angen teithio rhwng campysau, cysylltwch â'n hadran dderbyn i gael mwy o wybodaeth.
CFAS0154A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau