CBAC Seicoleg UG/U Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd a gradd B neu uwch mewn Gwyddoniaeth
Yn gryno
Seicoleg yw'r astudiaeth wyddonol o'r meddwl ac ymddygiad. Mae'r cwrs Lefel U/UG hwn wedi'i ddylunio i ddatblygu ehangder o wybodaeth o seicoleg a sgiliau meddwl yn feirniadol sy'n hanfodol ar gyfer astudiaeth bellach.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn seicoleg
... Rydych eisiau datblygu'ch astudiaeth yn y brifysgol
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn gallu cymell eich hun
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r flwyddyn gyntaf o astudio (Lefel UG) yn mynd i'r afael â'r meysydd canlynol:
- Biolegol, seicodynamig, ymddygiadwr, gwybyddol, seicoleg gadarnhaol a dulliau ymchwil.
Mae'r ail flwyddyn (Lefel U) yn adeiladu ar y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a enillwyd yn y flwyddyn gyntaf. Mae'r cynnwys yn mynd i'r afael â:
- Ymddygiadau troseddol, schizophrenia, straen, dadleuon mewn seicoleg a dulliau ymchwil cymhwysol.
Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:
- Seicoleg Lefel UG
- Seicoleg Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Gradd B neu uwch mewn Gwyddoniaeth
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae Seicoleg Lefel U yn hynod ddefnyddiol mewn ystod eang o sefyllfaoedd oherwydd y cyfuniad unigryw o sgiliau a enillir ar y cwrs. Mae ganddo fanylder fel Lefel U mewn pwnc Gwyddonol ac mae hefyd yn datblygu llythrennedd, rhifedd, a sgiliau meddwl yn feirniadol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gostau teithio ymweliadau addysgol.
CFAS0147A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau