CBAC Y Gyfraith UG/U Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cipolwg eang ond craff i fyd y gyfraith ac astudiaethau cyfreithiol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Hoffwch symud ymlaen i addysg uwch yn y maes hwn
... Hoffwch yrfa yn y gyfraith
... Ydych yn gallu cymell eich hun ac yn gweithio'n galed
Beth fyddaf yn ei wneud?
Lefel UG
Mae'r modiwl CBAC, System Gyfreithiol Cymru a Lloegr, yn mynd i'r afael â dau fodiwl. Mae'r cyntaf yn edrych ar sut mae cyfraith Lloegr wedi datblygu ac ar ffynonellau y gyfraith, megis deddfwriaeth, cyfraith achosion a chyfraith Ewropeaidd. Mae'r ail yn ystyried mecanweithiau'r llysoedd, gwaith a threfniadaeth y proffesiwn cyfreithiol, ymglymiad lleygwyr a mynediad at gyfiawnder.
Lefel U (U)
Gall y rheiny sy'n llwyddo yn y Gyfraith UG fynd ymlaen i'r Gyfraith Lefel U. Mae'r cwrs hwn sy'n cael ei arholi yn edrych ar ddiogelu rhyddid dinesig a hawliau dynol yng Nghymru a Lloegr. Mae pwerau'r Heddlu yn cynnwys stopio a chwilio, arestio, carcharu, cwestiynu a gwyliadwriaeth ymhlith y pynciau a astudir, yn ogystal â phreifatrwydd, rhyddid mynegiant, rhyddid crefydd a rhyddid rhag arwahanrwydd.
Trwy gydol y cwrs, gallwch fesur eich cynnydd trwy waith yn y dosbarth, gwaith cartref ac arholiadau ffug. Mae asesiadau yn cynnwys traethodau a chwestiynau problemau neu astudiaethau achos. Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Y Gyfraith Lefel UG
- Y Gyfraith Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Rhaid cwblhau y Gyfraith UG yn llwyddiannus cyn mynd ymlaen i Lefel U.
Os ydych yn bwriadu mynd ymlaen i addysg uwch, mae dewis o ystod eang o gyrsiau, yn cynnwys graddau yn y gyfraith, busnes, rheolaeth, cyfrifeg a gwasanaethau cymdeithasol. Fel arall, mae'r gyfraith yn elfen ddefnyddiol o gwrs addysg gyffredinol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.
CFAS0129A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2021
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau