CBAC Drama ac Astudiaethau'r Theatr UG/U Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd neu Radd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Yn gryno
Mae Drama ac Astudiaethau'r Theatr yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n mwynhau darllen a gwylio dramâu, yn ogystal â chymryd rhan ynddynt, boed hynny'n berfformio, cyfarwyddo neu ddylunio setiau a gwisgoedd.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych yn hyderus a brwdfrydig am y theatr
... Ydych am raglen astudio ymarferol a damcaniaethol
... Ydych yn greadigol ac yn gweithio'n galed
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs hwn yn cynnig y rhyddid i fyfyrwyr ddewis cynnwys a ffurf eu cyflwyniadau ymarferol. Byddwch yn astudio cyfanswm o 4 uned:
UG Uned 1: Gweithdy Theatr
Asesiad heb arholiad: asesiad mewnol sy'n cael ei reoli'n allanol, 24% o'r cymhwyster. Cewch eich asesu ar naill ai actio neu ddylunio a chymryd rhan wrth greu, datblygu neu berfformio darn o theatr.
Rhaid i chi gynhyrchu:
- Sylweddiad o'r perfformiad neu ddyluniad
- Cofnod creadigol
- Gwerthusiad
UG Uned 2: Arholiad Ysgrifenedig Testun mewn Theatr: 1 awr 30 munud
16% o'r cymhwyster. Llyfr agored: Cyfres o gwestiynau sy'n seiliedig ar A View from the Bridge gan Arthur Miller.
Lefel U (yr uchod yn ogystal â 2 uned arall)
U Uned 3: Testun ar Waith
Asesiad heb arholiad, sy'n cael ei asesu'n allanol gan arholwr gwadd, 36% o'r cymhwyster. Byddwch yn creu, datblygu a pherfformio fel naill ai actor neu ddylunydd:
- Darn wedi'i ddyfeisio gan ddefnyddio'r technegau a dulliau gweithio naill ai ymarferydd theatr dylanwadol neu gwmni theatr cydnabyddedig
- Detholiad o'r testun mewn arddull gwahanol a ddewisir gennych chi
Byddwch yn cyflwyno'ch perfformiad yn fyw i arholwr gwadd. I'r rheiny sy'n dewis dylunio, byddwch yn rhoi cyflwyniad 5-10 munud, nad yw'n cael ei asesu, o'ch dyluniad i'r arholwr. Rhaid i chi gynhyrchu adroddiad proses a gwerthuso cyn pen wythnos o gwblhau'r gwaith ymarferol.
U Uned 4: Testun mewn Perfformiad - Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
24% o'r cymhwyster. Llyfr agored: Dau gwestiwn yn seiliedig ar ddau destun gwahanol: A Day in the Death of Joe Egg gan Peter Nichols neu The Radicalisation of Bradley Manning gan Tim Price a Sweeney Todd gan Stephen Sondheim. Byddwch yn barod i fynychu sawl ymweliad â'r theatr trwy gydol y cwrs.
Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Drama ac Astudiaethau'r Theatr Lefel UG
- Drama ac Astudiaethau'r Theatr Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU, Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg neu Radd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gall myfyrwyr fynd ymlaen i Addysg Uwch neu yrfa yn y Celfyddydau Perfformio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.
CFAS0176A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau