CBAC Cyfrifiadureg UG/U Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd neu TGAU gradd A mewn Cyfrifiadureg
Yn gryno
Mae'r cwrs yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau rhaglennu a datrys problemau ymarferol, ynghyd â dealltwriaeth o egwyddorion a chysyniadau sylfaenol Cyfrifiadureg.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych am gyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn cyfrifiadureg
... Ydych yn hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron ac yn gweithio'n galed
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn ymdrin â dealltwriaeth o systemau cyfrifiadur, yn cynnwys meddalwedd, disgiau caled a chyfathrebiadau data, prif egwyddorion dadansoddi systemau, rhesymeg, algorithmau a chynrychioli data.
Lefel UG:
- Uned 1 - Hanfodion Cyfrifiadureg
- Uned 2 - Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau
Lefel U:
- Uned 3 - Rhaglennu a Datblygu Systemau
- Uned 4 - Pensaernïaeth Cyfrifiadur, Data, Cyfathrebu a Chymwysiadau
- Uned 5 - Datrysiad wedi'i Raglennu i Broblem
Asesir drwy dasgau gwaith cwrs ymarferol ac arholiad yn y flwyddyn UG ac U. Byddwch yn ennill cymwysterau mewn:
- Cyfrifiadureg Lefel UG
- Cyfrifiadureg Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd Mathemateg neu Radd A mewn Cyfrifiadureg TGAU.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gradd mewn Cyfrifiadureg, neu bwnc cysylltiedig, megis Mathemateg, Ffiseg, Peirianneg neu unrhyw gwrs Gwyddoniaeth mewn Addysg Uwch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gostau teithio ymweliadau addysgol.
CFAS0111A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau