VTCT Artistiaeth Colur Ffasiwn a’r Cyfryngau gyda Wigiau Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
2
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
I fynd ar y cwrs, bydd angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch arnoch, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 Priodol YN OGYSTAL Â dawn greadigol neu dystiolaeth o waith celf.
Yn gryno
Mae artistiaid colur yn dylunio ac yn gosod colur er mwyn cyfleu ymdeimlad o ddrama p’un ai mewn ffilm, theatr, ffotograff neu fideo cerddoriaeth. Bydd cymhlethdod a math y dyluniad yn amrywio yn dibynnu ar y cynhyrchiad a’r cymeriad ond gall artistiaid colur da gyflawni ystod eang o ymddangosiadau ar draws pob genre a chyfnod.
Gan weithio fel artist colur, byddwch yn gweld nad oes llwybr dilyniant diffiniedig. Mae natur lawrydd y proffesiwn yn golygu y gallwch symud rhwng artist colur dan hyfforddiant, artist colur, prif artist colur a rolau dylunio yn dibynnu ar eich profiad.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddyheadau o fod yn artist colur
... Oes gennych ddiddordeb arbennig mewn theatr neu ffilm
... Ydych chi’n greadigol a gweithgar
Beth fyddaf yn ei wneud?
Fel artist colur, rydych chi’n gyfrifol am roi colur ar bobl a steilio gwallt ar gyfer pobl sy’n ymddangos mewn ffilmiau, rhaglenni teledu, sesiynau ffotograff neu ddigwyddiadau byw fel cyngherddau, dramâu neu sioeau ffasiwn. Mae trin gwallt yn chwarae rhan fawr yn y cwrs hwn ac mae’r diwydiant yn cyflogi unigolion amryddawn sy’n gallu rhoi colur ymlaen a steilio gwallt mewn un sesiwn.
Eich swydd fyddai creu’r edrychiad mae’r person ei angen ar gyfer y math o gynhyrchiad neu ddigwyddiad.
Byddwch yn dysgu technegau trin gwallt sylfaenol a sgiliau colur penodol i’r cyfryngau gan gynnwys:
- Colur ar gyfer y llwyfan
- Heneiddio ar gyfer y llwyfan
- Effeithiau arbennig
- Lleoliad gwaith
- Gwneud wig
- Trin gwallt sylfaenol
- Defnyddio darnau gwallt
- Colur ffasiwn
- Colur ffotograffig
- Colur cyfnod
- Peintio wynebau
- Dylunio celf corff
- Darparu celf ewinedd
Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ymarferol ac aseiniadau ar thema, portffolio o waith a chwestiynau prawf amlddewis. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 2 Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I fynd ar y cwrs, bydd angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch arnoch, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 Priodol YN OGYSTAL Â dawn greadigol neu dystiolaeth o waith celf.
Mae angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn weithgar, yn rhifog a meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar. Byddwch wedi eich lleoli ar y campws a bydd un noson yr wythnos lle gall fod angen i chi fynychu'r coleg tan 6.00pm. Mae profiad gwaith cysylltiedig yn rhan orfodol o'r cwrs ac yn cynnwys lleoliadau gwaith mewn lleoliadau theatr.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig ar Cyfryngau, cyflogaeth neu addysg bellach.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae cod gwisg ac ymddangosiad yn agwedd bwysig iawn ar y cwrs hwn ac rydym yn gofyn i chi gadw at y canlynol:
- Mae’n rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau du synhwyrol yn y salonau
- Rhaid i wallt gael ei glymu yn daclus yn ôl o'r wyneb a rhaid gwisgo colur er mwyn creu delwedd broffesiynol
- Dim tyllau corff gweladwy
- Modrwy briodas yn unig a ganiateir ei gwisgo yn yr ystafell colur.
Bydd disgwyl i chi brynu gwisg, colur a chitiau gwallt a thalu am deithiau fel amod o’ch lle ar y cwrs. Bydd y gost yn daladwy mewn dwy ran:
Mis Medi – Cit Colur 1 a Brwshys - £251,00, Gwisg - £45, Cit Trin Gwallt - £87.00
Mis Ionawr – Cit Colur 2 - £96.00
*Gall yr holl gostau newid
CFDI0197AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau