VTCT Diploma mewn Gwallt a Cholur y Cyfryngau Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

 Lefel

Lefel
2

Dull Astudio

Dull Astudio
Llawn Amser

 Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2020

 Hyd

Hyd
1 flwyddyn

 Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn colur theatr neu ffilm ac sy'n arbenigo mewn datblygu sgiliau angenrheidiol i weithio mewn salonau harddwch a’r byd ffilm a theatr.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddyheadau o fod yn artist colur
... Oes gennych ddiddordeb arbennig mewn theatr neu ffilm
... Ydych chi’n greadigol a gweithgar

Beth fyddaf yn ei wneud?

Fel artist colur, rydych chi’n gyfrifol am roi colur ar bobl a steilio gwallt ar gyfer pobl sy’n ymddangos mewn ffilmiau, rhaglenni teledu, sesiynau ffotograff neu ddigwyddiadau byw fel cyngherddau, dramâu neu sioeau ffasiwn. Mae trin gwallt yn chwarae rhan fawr yn y cwrs hwn ac mae’r diwydiant yn cyflogi unigolion amryddawn sy’n gallu rhoi colur ymlaen a steilio gwallt mewn un sesiwn.

Eich swydd fyddai creu’r edrychiad mae’r person ei angen ar gyfer y math o gynhyrchiad neu ddigwyddiad.

Byddwch yn dysgu technegau trin gwallt sylfaenol a sgiliau colur penodol i’r cyfryngau gan gynnwys:

  • Colur ar gyfer y llwyfan
  • Heneiddio ar gyfer y llwyfan
  • Effeithiau arbennig
  • Lleoliad gwaith
  • Gwneud wig
  • Trin gwallt sylfaenol
  • Defnyddio darnau gwallt
  • Colur ffasiwn
  • Colur ffotograffig
  • Colur cyfnod
  • Peintio wynebau
  • Dylunio celf corff
  • Darparu celf ewinedd

Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ymarferol ac aseiniadau ar thema, portffolio o waith a chwestiynau prawf amlddewis. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Lefel 2 Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
  • Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 4 cymhwyster TGAU gradd D neu uwch i gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol.

Mae angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn weithgar, yn rhifog a meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar. Byddwch wedi eich lleoli ar y campws a bydd un noson yr wythnos lle gall fod angen i chi fynychu'r coleg tan 7.30pm. Mae profiad gwaith cysylltiedig yn rhan orfodol o'r cwrs ac yn cynnwys lleoliadau gwaith mewn lleoliadau theatr.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig ar Cyfryngau,  cyflogaeth neu addysg bellach.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae cod gwisg ac ymddangosiad yn agwedd bwysig iawn ar y cwrs hwn ac rydym yn gofyn i chi gadw at y canlynol:

  • Mae’n rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau du synhwyrol yn y salonau
  • Rhaid i wallt gael ei glymu yn daclus yn ôl o'r wyneb a rhaid gwisgo colur er mwyn creu delwedd broffesiynol
  • Dim tyllau corff gweladwy
  • Modrwy briodas yn unig a ganiateir ei gwisgo yn yr ystafell colur.

Bydd disgwyl i chi i brynu gwisg arbennig, pecyn colur a phecyn trin gwallt fel amod o’ch lle ar y cwrs. Y gost am hyn yw tua £711*

*Gallai’r holl gostau newid.

Ble alla i astudio VTCT Diploma mewn Gwallt a Cholur y Cyfryngau Lefel 2?

CFDI0197AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2020

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Argraffu gwybodaeth am gyrsiau