VTCT Diploma mewn Therapïau Cyflenwol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Lefel dda o lythrennedd a rhifedd.
O leiaf 4 gradd TGAU yn D ac uwch.
Yn gryno
Byddwch yn astudio amrywiaeth o dechnegau ar y cwrs hwn sy’n ymwneud ag arferion Tylino, Adweitheg ac Aromatherapi.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych chi’n caru popeth sy’n ymwneud â harddwch
... Oes gennych chi ddiddordeb arbennig mewn therapïau cyflenwol a chyfannol
... Ydych chi’n weithgar ac yn gyfeillgar
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu pynciau fel:
- Tylino yw’r enw a roddir ar drin meinweoedd meddal i gynhyrchu effaith ar systemau’r corff. Mae amrywiaeth o dechnegau ac mae'r cwrs hwn yn cyflwyno'r dull cyfannol o therapi tylino.
- Mae adweitheg yn gweithio ar adweithiau allweddol a nodwyd ar y traed i gydbwyso llif egni’r corff i greu cydbwysedd ym mhob un o’r systemau. Mae'r cwrs hwn yn darparu triniaeth i'r traed a’r dwylo.
- Aromatherapi yw’r enw a roddir ar y broses o gyfuno olewau hanfodol ac olewau cludo i gymysgedd unigryw er mwyn cysoni’r meddwl a’r corff. Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno technegau blendio, tylino aromatherapi a defnyddio olew.
Bydd Anatomeg, Ffisioleg a Phatholegau hefyd yn cael eu hastudio fel sail i'r therapïau ymarferol. Yn ogystal â hynny, byddwch yn dysgu sut i sefydlu neu redeg busnes newydd mewn therapïau cyflenwol.
Mae rhai ymarferwyr yn gweithio mewn spas, salonau harddwch, clinigau ceiropracteg, practis ffisiotherapi, hosbisau a'r sector gofal. Mae llawer yn gweithio'n breifat yn eu busnesau eu hunain.
Byddwch yn darparu sesiynau clinig ac yn gweithio ar gleientiaid bob wythnos. Mae'r clinig yn eich galluogi i ymarfer gyda goruchwyliwr mewn amgylchedd masnachol.
Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy:
- Sesiynau theori
- Sesiynau dysgu ymarferol
- Sesiynau clinig
- Gwaith grwp
- Gweithgareddau cyfoethogi (gan gynnwys siaradwyr gwadd a theithiau)
- Ymchwil
- Astudiaethau achos
Byddwch yn cael eich asesu drwy arsylwadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, dau arholiad amlddewis, astudiaethau achos a lleiafswm oriau cofnodi gwaith. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Diploma VTCT Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar lefel dda o lythrennedd a rhifedd ac isafswm o 4 cymhwyster TGAU gradd D ac uwch.
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol ac yn frwdrydig, yn gyfeillgar gyda sgiliau rhyngbersonol da, arddangos sgiliau meddwl yn feirniadol, yn rheolwr amser da ac yn gallu arddangos presenoldeb a phrydlondeb ardderchog.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gallwch symud ymlaen i'r HNC / D mewn Therapïau Cyflenwol (Ymarfer Gofal Iechyd).
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael i ddysgwyr 16+ mlwydd oed.
- Bydd angen gwisg cwrs (Tua £50*)
- Esgidiau du, fflat, cyfforddus (nid cynfas)
- Mae’n rhaid i wallt gael ei glymu i ffwrdd oddi wrth y wyneb yn ystod pob sesiwn clinig
- Dim gemwaith a dim tyllau’r corff (heblaw modrwy briodas)
- Ni chaniateir estyniadau ewinedd na lliw ewinedd. Ewinedd glân, byr, wedi’u ffeilio
- Pecyn aromatherapi (Tua £155*)
- Yswiriant myfyrwyr FHT (Tua £25*)
- Bydd disgwyl i chi ymarfer oddi ar y safle ac argymhellir eich bod yn prynu soffa tylino y gellir ei addasu, cludadwy gyda thwll wyneb
- Bydd hefyd angen gwiriad DBS cyfredol arnoch, a fydd yn costi £ 50.00. Trefnir hwn ar eich cyfer trwy'r coleg.
*Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
CFDI0073AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau