Sgiliau Gwnïo i Ddechreuwyr a Rhai sy'n Gwella - Bod yn Wenyn Gwnïo Cymreig

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf, y Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£230
Dyddiad Cychwyn
14 Ebrill 2021
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
21:00
Hyd
10 wythnos
Yn gryno
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan y ffasiwn ddiweddaraf mewn gwnïo gartref ond ddim yn siwr ble i ddechrau? Dyma'r cwrs gwnïo perffaith i ddechreuwyr neu ddysgwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth sylfaenol o greu dillad i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
Dysgwch sut i wneud eich dillad eich hun, sut i ddarllen patrwm masnachol, dewis y defnydd cywir a pherffeithio'r technegau adeiladu hynny.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... bob lefel, o ddechreuwyr i rai sy'n gwella
... unrhyw un sydd am ddechrau neu wella eu gallu gwnïo
... unrhyw un sydd eisiau i'w hyder dyfu drwy ddysgu technegau gwych ar gyfer gorffeniad proffesiynol.
Cynnwys y cwrs
Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymdrin â sawl agwedd ar baratoi, y patrwm masnachol, creu dillad ac offer a chyfarpar angenrheidiol.
Dyma rai o'r meysydd y byddwn yn dod ar eu traws:
· Adnabod eich peiriant gwnïo
· Sut i ddefnyddio'r defnydd a'r cynllun 'cywir' wrth baratoi i dorri
· Meistroli'r technegau – sipiau, coleri, llewys, pocedi a llawer mwy
· Sut i gwblhau prosiect 'hwnnw' a'i wneud i ffitio!
Gallwn ymdrin ag unrhyw sgil sydd ei hangen i gwblhau dilledyn. Mae'r rhestr yn ddiddiwedd, ond gam wrth gam byddwch yn llunio eich dilledyn ac yn ei addasu i ffitio yn ôl yr angen!
Mae'r cwrs wedi'i strwythuro o amgylch prosiect gwnïo cyflawn wrth ddysgu'r technegau cywir i gyflawni gorffeniad proffesiynol. Mewn amgylchedd cyfeillgar, cewch adborth gan y tiwtor a chyfoedion yn rheolaidd.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi brynu 1 patrwm masnachol ar gyfer dilledyn syml a digon o ddefnydd i'w gwblhau. Gellir trafod dewisiadau cywir yn ystod cam cychwynnol y cwrs.
Y tu hwnt i'r cwrs hwn, mae llwybr dilyniant i chi gofrestru ar y cwrs sgiliau Gwnïo Uwch gyda'r nos.
CCCE3417AB
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 14 Ebrill 2021
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau