Cynllunio Llwybr/Darllen Mapiau

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
15 Ebrill 2021
Dyddiau
Dydd Iau
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
20:00
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Ydych chi erioed wedi crwydro oddi ar y llwybr ar daith gerdded? Os felly, dyma'r cwrs byr i chi. Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu sgiliau darllen map Arolwg Ordans ac erbyn ichi orffen y cwrs, dylech fedru ei ddefnyddio i gynllunio llwybr.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...cerddwyr a seiclwyr ar unrhyw lefel o ddechreuwyr hyd at unigolion profiadol.Cynnwys y cwrs
Bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth fanwl ichi o nodweddion gwahanol map Arolwg Ordans gan gynnwys:
- Graddfa
- Allwedd
- Arwyddion a'u hystyron
- Cyfuchlinau a'u pwrpas
Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio'r system cyfeirio grid i ddod o hyd i leoliad, yna gweithio ar eich sgiliau mordwyo i gynllunio llwybr.
Bydd disgwyl ichi fynychu pob sesiwn a chymryd rhan yn y trafodaethau a gweithgareddau, a byddwch angen lefel sylfaenol o lythrennedd a rhifedd i gwblhau rhai tasgau. Er bnad oes cymhwyster ffurfiol, bydd eich tiwtor yn cynnig adborth llafar, anffurfiol yn ystod pob un o'ch sesiynau.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol - mae diddordeb yn y pwnc yn ddigon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd ffi deunyddiau o £5 yn cael ei chodi ar gyfer unrhyw gostau argraffu ac os yw amser yn caniatáu, bydd hefyd yn mynd tuag at gostau tannwydd y minibws i fynd â'r grwp i ymgymryd â llwybr syml.
EPCE3210AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 15 Ebrill 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau