NPTC PA1 Sylfaenol mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Amaethyddiaeth a Gofal Anifeiliaid
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£165.00
Dyddiad Cychwyn
20 Chwefror 2023
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
17:00
Hyd
1 diwrnod
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â gwybodaeth amrywiol a thrylwyr ynglyn â defnyddio plaladdwyr a chael gwared arnynt.
Mae'n uned sylfaenol orfodol sy'n ymdrin â'r ddeddfwriaeth ynghylch defnyddio plaladdwyr, ac mae'n rhaid ei chwblhau cyn cychwyn unrhyw gwrs plaladdwyr NPTC arall.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...Unrhyw un sydd â swydd sy'n cynnwys defnyddio plaladdwyr
...Unrhyw un sydd eisiau datblygu eu sgiliau
...Unrhyw un sydd eisiau datblygu eu gwybodaeth
Cynnwys y cwrs
Mae deddfwriaeth yn ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw un sy'n defnyddio plaladdwyr mewn cyflogaeth neu fusnes fod wedi cael cyfarwyddyd digonol a bod yn gymwys yn y dyletswyddau yr ymgymerir â nhw. Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i ddefnyddio a thrin plaladdwyr yn ddiogel a'r dull(iau) taenu a ddefnyddir. Bydd angen i bob unigolyn ymgymryd â modiwl sylfaen (PA1) a modiwl cymwysiadau perthnasol.
Byddwn yn mynd i'r afael â:
- Deddfwriaeth
- Dehongli gwybodaeth ar label cynnyrch
- Diogelwch personol a halogiad
- Storio plaladdwyr a'u cynhwysyddion
- Gwaredu arnynt
- Cadw cofnodion
- Ffactorau amgylcheddol
Gofynion Mynediad
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch, ond rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch yn ymgymryd â phrawf ar-lein sy'n cymryd oddeutu 1 awr.
Dylech gwblhau'r cwrs hwn mewn cysylltiad â naill ai PA6 a PA2, neu'r ddau.
Mae'r cwrs yn 1 diwrnod o hyd gydag asesiad ar-lein ar ddiwedd y dydd.
UCEU0154AF
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 20 Chwefror 2023
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau