NCFE Teithio a Thwristiaeth (Diploma Estynedig) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus
Lefel
3
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU (gradd C neu uwch) gan gynnwys mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg NEU radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau uwch sydd eu hangen arnoch i weithio yn y diwydiant neu symud ymlaen i addysg uwch. Byddwch yn ennill dealltwriaeth eang o'r sector ynghyd ag ystod o sgiliau arbenigol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am Deithio a Thwristiaeth
... Oes gennych ddiddordeb dilyn gyrfa yn y byd Teithio a Thwristiaeth
... Rydych eisiau teithio'r byd, cyfarfod pobl newydd a mynd ar antur
Beth fyddaf yn ei wneud?
Gall gweithio yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth ddod â llu o gyfleoedd cyffrous. Gallech gael eich hun yn teithio dramor yn ddyddiol, gan weithio'n rhyngwladol neu gwrdd â phobl o bob cwr o'r byd pan fyddant yn ymweld â'ch mamwlad.
Mae'r diwydiant eisoes yn gyfrifol am fwy na 10% o gyflogaeth fyd-eang ac mae tua 2,000,000 o bobl yn gweithio ym maes twristiaeth ym Mhrydain, gan ei wneud yn un o ddiwydiannau mwyaf poblogaidd y wlad.
Mae'r unedau ar y cwrs yn cynnwys:
• Ymchwilio i'r diwydiant teithio a thwristiaeth
• Busnes teithio a thwristiaeth
• Gwasanaeth cwsmer
• Y DU fel cyrchfan
• Teithio manwerthu
• Gweithrediadau teithiau
• Cyrchfannau Ewropeaidd
• Paratoi ar gyfer cyflogaeth
• Profiad Gwaith
• Ymchwilio i'r diwydiant mordeithiau
• Twristiaeth arbenigol
• Gweithrediadau teithio busnes
• Gweithio fel cynrychiolydd gwyliau
• Trefnu ymweliad astudio
• Marchnata cynhyrchion a gwasanaethau
• Cyrchfannau pell
• Ymchwilio i faterion cyfredol yn y diwydiant teithio a thwristiaeth
• Twristiaeth gyfrifol
Asesir y cwrs trwy waith portffolio, gwaith cwrs, prosiectau, gwaith grwp a chyflwyniadau. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch wedi cael:
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth
- Bagloriaeth Cymru
- Cymwysterau cefnogi priodol i ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi cael Gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen o leiaf 5 TGAU (Gradd C neu uwch) arnoch i gynnwys Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf
NEU
Cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Radd Teilyngdod gyda TGAU Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf ar Radd C neu uwch.
Rhaid i chi ddangos brwdfrydedd dros y diwydiant teithio a thwristiaeth. Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn un am weithio'n galed, cael gafael dda ar rifedd a bod gennych bersonoliaeth gyfeillgar. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs hwn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl dwy flynedd o gwrs, gallwch symud ymlaen i'r cwrs HND mewn Rheolaeth Twristiaeth a Lletygarwch yng Nghampws Crosskeys, cyflogaeth neu gwrs prifysgol sy'n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyn i chi brynu gwisg a fydd yn costio rhwng £90 a £140, yn ogystal â thalu am deithiau ac ymweliadau a fydd yn costio tua £150.
CFDI0591YO
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau