Ffotograffiaeth Tirlun

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf, y Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£295
Dyddiad Cychwyn
29 Mehefin 2021
Dyddiau
Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Amser Dechrau
10:00
Amser Gorffen
17:00
Hyd
2 ddiwrnod
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau ffotograffiaeth dirlun i lefel uchel. Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar eich sgiliau ffotograffiaeth cyfredol a'ch gallu technegol gyda'r camera.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Y rheiny sydd â dealltwriaeth o sut i ddefnyddio'ch camera DSLR â llaw, a dylech fod â diddordeb gwirioneddol yn y pwnc.
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn dysgu sut i wneud y mwyaf o'ch gallu i ennill delweddaeth dirlun ryfeddol, gan ganfod holl arddulliau ffotograffiaeth dirlun, yn cynnwys technegau traddodiadol ac arbrofol, ynghyd â'r holl waith sy'n mynd i mewn i gynllunio a thynnu lluniau tirluniau. Ar ddiwrnod dau, byddwn yn ymweld â'r llwybr pedair rhaeadr ym mhrydferthwch y Bannau Brycheiniog.
Diwrnod un - yn y dosbarth:
• Cyfarpar ffotograffiaeth dirlun
• Sut i gyflawni delweddau hyfryd
• Treigl Amser
• Lleoliadau
• Golygu ffotograffaeth dirlun
• Cynllunio saethiad tirlun
Diwrnod dau - taith maes i:
Y llwybr pedair rhaeadr ym Mannau Brycheiniog i dynnu lluniau o dirluniau, byd natur a rhaeadrau. Mae'n cynnwys trafnidiaeth i'r lleoliad ac oddi yno.
Beth a ddisgwylir ohonoch chi?Bydd angen gwybodaeth arnoch o sut i ddefnyddio camera DSLR â llaw. Yn ogystal, byddwch angen brwdfrydedd tuag at y pwnc.
Byddwch yn ymwybodol bod y cwrs yn addas i bobl sydd â lefel ffitrwydd/symudedd resymol gan ymgymerir â theithiau maes mewn lleoliadau anwastad, yn yr awyr agored. Byddwch yn cerdded llwybr sydd oddeutu pum milltir o hyd yn ystod y daith gerdded
Gofynion Mynediad
Mae'n hanfodol eich bod yn berchen ar gamera SLR digidol yr ydych yn hyderus yn ei ddefnyddio, neu fod gennych hawl rheolaidd i ddefnyddio camera o'r fath.
CCCE3180AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 29 Mehefin 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau