IMI Diploma mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg a Modurol
Lefel
2
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 1, neu Ddiploma L1 Cyfwerth. Mynediad uniongyrchol gydag o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn gwella eich gwybodaeth dechnegol ac academaidd am dechnoleg cerbydau.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych wedi cwblhau Diploma Lefel 1
... Oes gennych ddiddordeb ysol mewn cerbydau
... Ydych yn dda am ddatrys problemau
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs hwn yn darparu astudiaeth ganolradd mewn technoleg a thechnegau trwsio sy’n gysylltiedig â cherbydau ysgafn a hefyd bydd yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach yn y diwydiant modurol.
Ceir pump o unedau technegol sydd wedi’u rhannu’n ôl y meysydd canlynol: technoleg siasis, technoleg injans, technoleg trawsyrru, technoleg drydanol ac electronig ac agweddau cyffredinol (e.e. iechyd a diogelwch).
Caiff y cwrs ei gyflwyno trwy gyfrwng y canlynol:
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau gwaith realistig
- Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol
- Aseiniadau
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ddilyn y cwrs hwn, rhaid ichi feddu ar Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur) neu Ddiploma L1 Cyfwerth. Mae mynediad uniongyrchol gyda fan leiaf 4 TGAU, Gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, hefyd yn opsiwn.
Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs, a hefyd mae’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm yn ofynnol. Dylech fod â dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant cerbydau modur, dylech gadw at ethos y coleg a dylech fod yn barod i wella eich lefel mewn pynciau academaidd.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn neu Brentisiaeth mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.
CFDI0212AC
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau