IMI Diploma mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg a Modurol
Lefel
1
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
31 Awst 2021
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd G neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â thrwsio a gwasanaethu ceir a cherbydau ysgafn a phob agwedd ar drwsio a chynnal a chadw, yn cynnwys gwaith trydanol ac electronig a defnyddio TG.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb ysol mewn cerbydau
... Ydych yn mwynhau datrys problemau
... Ydych yn dymuno symud yn eich blaen at brentisiaeth neu ddysgu pellach
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i ddilyn Prentisiaeth mewn garejis annibynnol bach a delwriaethau mawr.
Byddwch yn dysgu trwy gyfrwng y canlynol:
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau gwaith realistig
- Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol
- Aseiniadau
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng amgylcheddau gwaith realistig, asesiadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ddilyn y cwrs hwn, byddwch angen fan leiaf 4 TGAU, Gradd G neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs, a hefyd mae’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm yn ofynnol. Dylech fod â dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant cerbydau modur, dylech gadw at ethos y coleg a dylech fod yn barod i wella eich lefel mewn pynciau academaidd.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau, neu Brentisiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.
CFDI0301AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 31 Awst 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau