HND mewn Colur Arbenigol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
30 Medi 2021
Gofynion Mynediad
4 TGAU A*- C yn cynnwys Saesneg a Chelf, neu gymhwyster Lefel 3 mewn Colur Theatrig ac i'r Cyfryngau (o leiaf proffil Teilyngdod galwedigaethol) neu brofiad diwydiannol cyfwerth.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn colur ar gyfer ffilm, teledu a theatr.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych chi ddiddordeb proffesiynol mewn colur theatr neu ffilm
... Ydych chi’n greadigol
... Ydych chi’n weithgar ac yn ymroddedig
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs dwy flynedd Lefel 4/5 hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb proffesiynol mewn colur theatr neu ffilm. Mae'n arbenigo mewn datblygu sgiliau uwch a'r wybodaeth angenrheidiol i weithio ym myd ffilm, teledu a theatr.
Byddwch yn cwmpasu unedau, gan gynnwys:
- Astudiaethau Cyd-destunol
- Arfer proffesiynol celfyddydau creadigol
- Sgiliau ymchwil y celfyddydau creadigol
- Rheoli busnes creadigol
- Dylunio ac adeiladu mwgwd
- Archwilio dylunio ar gyfer colur mewn celfyddydau perfformio
- Gwallt a cholur cyfnod
- Wigiau a chudynnau ffug ar gyfer y celfyddydau creadigol (gwneud wig llawn)
- Technegau a chymwysiadau dylunio ar gyfer y perfformiwr
- Cyd-destun hanesyddol yn y celfyddydau perfformio
- Paratoi, prosesu a chynhyrchu yn y celfyddydau creadigol (paentio corff, castio bywyd a prostheteg effeithiau arbennig)
- Rheoli cynhyrchiad yn y celfyddydau creadigol
- Datblygiad personol a phroffesiynol
- Prosiect ymchwil
- Gwallt a cholur teledu a ffilm
Mae sgiliau ymarferol yn cael eu hasesu drwy gyfres o asesiadau ymarferol sy’n cael eu hamseru wedi’u gosod o friff sy’n gysylltiedig â’r diwydiant, sy’n cael eu cefnogi gyda chyfnodolyn helaeth o ymchwil a chofnod datblygu. Mae unedau theori yn cael eu hasesu drwy astudiaethau achos, cyfnodolion ymchwil a chyflwyniadau.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau, byddwch yn cyflawni’r Edexcel HND mewn Celfyddydau Perfformio (Colur Arbenigol) - Lefelau 4 a 5, fodd bynnag, byddwch yn cyflawni HNC mewn Celfyddydau Perfformio ar ôl y flwyddyn gyntaf o astudio.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael eich derbyn ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar 4 cymhwyster TGAU gradd A* - C gan gynnwys Saesneg a Chelf, cymhwyster Lefel 3 mewn Colur Theatrig a’r Cyfryngau (proffil teilyngdod galwedigaethol o leiaf) neu brofiad diwydiannol cyfatebol.
Mae’r ddarpariaeth yn digwydd ar y campws ac oddi ar y safle ar gyfer rhywfaint o hyfforddiant meistr felly bydd angen i chi wneud trefniadau ar gyfer teithio o bryd i’w gilydd. Disgwylir priodoleddau ymroddedig, creadigol ac ysbrydoledig yn y dysgwr.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau'r HNC byddwch yn symud ymlaen i'r HND, ac yna BA (Anrh) mewn Colur y Cyfryngau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd disgwyl i chi i brynu gwisg arbennig a phecyn wig a fydd yn costio tua £250
Efallai y bydd costau eraill sy'n gysylltiedig â theithio a llety ar gyfer hyfforddiant Meistr.
Cod gwisg:
- Gwisg arbennig
- Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFHC0038AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 30 Medi 2021
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Gall pob cwrs newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
Argraffu gwybodaeth am gyrsiau